Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y cyfarfod ar 30 Gorffennaff 2019 a 20 Awst 2019 pdf eicon PDF 321 KB

 

Derbyn cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2019 ac 20 Awst 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfodydd .

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. 

5.

Datblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer y Gwasanaethau Anabledd Dysgu pdf eicon PDF 312 KB

Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau i Oedolion

 

Cofnodion:

Roedd Deborah Reed, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, yn bresennol i friffio'r Panel ar y mater hwn ac i ateb cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Cynhaliodd aelodau'r Panel ddau ddigwyddiad anffurfiol gyda rhieni oedolion ag anableddau iechyd meddwl a rhieni oedolion ag anableddau dysgu cyn y cyfarfod i gael eu hadborth am drefniadau byw â chymorth.
  • Y pryder mwyaf ar gyfer rhieni mewn perthynas ag aildendro'r gwasanaeth oedd sut yr ymdrinnir â'r trawsnewid. Mae angen sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. Cadarnhaodd yr adran y bydd ymdeimlad o ddilyniant i'r rhan fwyaf o'r defnyddwyr gwasanaeth.
  • Trafodwyd trefniadau tenantiaeth.  Holodd y Panel a ehangwyd ar ddisgfrifwyr 'annibyniaeth' yn y cytundebau tenantiaeth.  Rhoddwyd gwybod iddynt nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cytundebau tenantiaeth am eu bod yn ymwneud â chefnogaeth a byddent yn cael eu cynnwys mewn trefniadau cefnogaeth gofal.
  • Trafodwyd cyd-gynhyrchu a rôl rhieni yn yr adolygiad comisiynu. Rhoddodd y rhieni'r argraff nad oeddent yn cael dweud eu dweud am fywydau eu plant pan gânt eu symud i leoliad byw â chymorth. Clywyd bod rhieni'n cael eu hannog i gymryd rhan. 
  • Mewn digwyddiadau anffurfiol, roedd aelodau'r panel yn cael yr argraff nad oedd gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth. Rhoddwyd gwybod bod y gwasanaethau ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
  • Codwyd y mater o restrau aros gan rieni mewn cyfarfodydd anffurfiol.  Clywyd nad oes rhestr aros ffurfiol ar gyfer y Gwasanaethau Anableddau Dysgu. Mae rhestr aros ffurfiol ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl ond mae llai na 20 o unigolion arni ar adeg benodol. Efallai bod lleoedd byw â chymorth ar gael ond mae'n bosib nad ydynt yn addas ar gyfer yr unigolion sydd ar y rhestr aros. 
  • Cadarnhaodd Aelod y Cabinet fod diffyg llety gwely sengl i unigolion â phroblemau iechyd meddwl i symud iddynt ac mae hyn yn broblem y bydd angen i'r awdurdod lleol ei ystyried ymhellach.
  • Mae gan yr awdurdod gyswllt â'r darparwr gwasanaeth ac maent yn derbyn adborth rheolaidd ganddynt.  Mae'r awdurdod yn llunio ei fframwaith sicrhau perfformiad ei hun ar hyn o bryd.
  • Nid yw'r awdurdod yn argymell bod darparwyr unigol yn cwrdd â rhieni'n rheolaidd ond byddai disgwyl iddynt gwrdd er mwyn bodloni eu hamcanion.
  • Roedd rhai rhieni yn y cyfarfodydd anffurfiol yn teimlo nad oedd pwynt cyswllt amlwg i gysylltu ag ef yn yr awdurdod os oeddent yn cael problemau gyda'r darparwr.  Rhoddwyd gwybod bod dau newid wedi'i gyflwyno i wella'r cyswllt hwn.  
  • Ymholodd y Panel am ddealltwriaeth yr adran o effeithlonrwydd a rhoddwyd gwybod ei fod yn ostyngiad yn yr oriau comisiynu (arbedion costau).
  • Mae'r adran yn dibynnu ar reolwyr gofal (gweithwyr cymdeithasol) i sicrhau bod cynlluniau gofal a chefnogaeth yn cael eu cyflwyno. 
  • Mewn perthynas â llety byw â chymorth, roedd gan rieni bryderon ynghylch hyfforddiant, profiad, oedran staff a'r defnydd o weithwyr asiantaeth.  Nid yw'r Panel yn siŵr os gall yr awdurdod wneud unrhyw beth ynghylch hyn.  Rhoddwyd gwybod yr asesir trosiant staff y darparwyr yn flynyddol a dylent ddarparu data ar gyfer hyn.  Hefyd, gall staff a gyflogir gan ddarparwyr gael mynediad at hyfforddiant y gwasanaethau cymdeithasol a chael mynediad at rai cyrsiau hyfforddi annibynnol.

 

Camau Gweithredu:

  • Aelod y Cabinet a'r swyddogion i ddarparu sylwadau ar y nodyn briffio a luniwyd yn dilyn dau ddigwyddiad anffurfiol gyda'r rhieni.
  • Panel i weld copi gwag o ddwy ddogfen - cytundeb tenantiaeth a chytundeb cefnogaeth gofal ac esboniad o'r 'annibyniaeth' a ddefnyddiwyd.  
  • Cylchredeg y cyflwyniad a roddwyd yn y digwyddiad gyda'r rheini i'r Panel er gwybodaeth.
  • Y Panel i dderbyn rhagor o wybodaeth am y sefyllfa o ran rhestrau aros ar gyfer llety byw â chymorth.

 

6.

Arfer a Sicrwydd Caffael mewn Gofal Cymdeithasol pdf eicon PDF 383 KB

Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu

 

Cofnodion:

Roedd Peter Field, Prif Swyddog Ataliaeth, Lles a Chomisiynu yn bresennol i friffio'r Panel ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Ymholodd y Panel ynghylch pa mor dda mae adborth defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei fwydo i'r broses sicrwydd a rhoddwyd gwybod iddynt nad yw mor dda ag y gallai fod ond bydd trefniadau'n gwella wrth i amser fynd yn ei flaen.
  • Bu cyfleoedd rheolaidd i ddefnyddwyr gwasanaeth roi adborth am wasanaethau presennol y Gwasanaethau Anabledd drwy gwblhau arolwg wyneb yn wyneb.  Clywyd gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl fod hyn wedi'i gynnal gan y Gwasanaethau Byw â Chymorth ond nid yw swyddogion yn sicr pa mor aml y gwnaed hyn.
  • Mae tybiaeth bod darparwyr yn darparu gwybodaeth/pecynnau croeso i ddefnyddwyr gwasanaeth wrth iddynt fynd i lety byw â chymorth.
  • Nid yw'r broses gaffael yn parhau hyd at y broses archwilio mewnol.
  • Mae ymgynghori â gofalwyr yn faes y mae angen i'r adran ei wella a bydd yn edrych ar hyn (cynlluniau gofalwyr) dros y 12-18 mis nesaf.

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2019/20 pdf eicon PDF 248 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 193 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Gorffennaff 2019)

b)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Awst 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 181 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet Dilynol pdf eicon PDF 234 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 408 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 1 pdf eicon PDF 211 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 2 pdf eicon PDF 803 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 3 pdf eicon PDF 349 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Atodiad 4 pdf eicon PDF 541 KB

Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol pdf eicon PDF 335 KB

Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 1 pdf eicon PDF 920 KB

Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 2 pdf eicon PDF 580 KB

Ymateb Aelod y Cabinet i’r llythyr dilynol - Atodiad 3 pdf eicon PDF 653 KB