Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 119 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 1 MB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Roedd Julie Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol er mwyn briffio'r Panel ar yr adroddiad ar gyfer Mehefin 2019.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Tudalen 15 - Nifer y Plant sydd Ar Goll - Caiff yr wybodaeth ei dadgyfuno er mwyn nodi sawl un sy'n dod o Abertawe
  • Tudalen 16 - Poblogaeth y Plant sy'n Derbyn Gofal - Wedi lleihau ym mis Mehefin ac eto ym mis Gorffennaf. Mae cyfraddau ailgyfeirio hefyd yn lleihau. Cynnydd sylweddol yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn y 12 mis diwethaf, ond wrth edrych ar dueddiadau mae'n ymddangos bod lefelau wedi sefydlu  Rydym yn mynd yn groes i'r duedd yn Abertawe. Mae cyfraddau'n cynyddu mewn mannau eraill.
  • Holodd y panel ynghylch nifer y plant sydd mewn cartrefi preswyl yn Abertawe.
  • Hoffai'r panel weld ffigurau ar absenoldeb staff.
  • Mae'r Adroddiad Perfformiad yn dda iawn. Disgwylir i'r adran fod yn brysurach ym mis Medi oherwydd bydd yr ysgolion yn brysur a bydd cynnydd mewn gweithgareddau wrth y drws blaen ond nid oes disgwyl i unrhyw beth penodol ddigwydd yn y misoedd nesaf.
  • Tudalen 23 - Systemau Mesur Signs of Safety - Mae'r holl feysydd perfformiad ar gyfer Signs of Safety yn isel. Cynhelir cyfarfodydd tîm er mwyn trafod pwysigrwydd ac effaith hyn. Mehefin yw'r mis cyntaf o goladu'r data hwn. Roedd problemau wrth gofnodi'r gwaith hwn a chael gwybodaeth o PARIS. Bydd yr adran yn trosglwyddo i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) a dylai'r broses gofnodi data wella.
  • Gofynnodd y Panel a ellid atodi Rhestr o Dermau i'r Adroddiad Monitro Perfformiad yn y dyfodol.
  • Mae gan yr adran gynllun mentora ac mae uwch-swyddogion yn eistedd ar rai o'r byrddau o hyd, gan gynnwys y Bwrdd Sefydlogrwydd, er mwyn sicrhau bod arfer wrth wraidd yr hyn a wnânt.
  • Mae gan yr adran berthynas dda â'r llysoedd. Mae nifer yr achosion sy'n mynd i'r llys yn lleihau.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn darparu ffigur ar nifer y plant mewn cartrefi preswyl.
  • Bydd ffigurau absenoldeb staff yn cyrraedd yn ystod y cyfarfod nesaf ym mis Hydref.
  • Caiff y rhestr o dermau ei chynnwys gydag Adroddiadau Monitro Perfformiad yn y dyfodol.

 

6.

Adborth ar Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru - Y Diweddaraf am y Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 398 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Thomas y diweddaraf i'r panel am y cynnydd a wnaed ar y pum prif faes i'w gwella fel y nodwyd yn Adroddiad Arolygu AGC ym mis Awst 2018.

 

Mae rhai o'r amserlenni amser wedi llithro'n sylweddol. Dyma ddarn mawr o waith sy'n gofyn am newid diwylliannol wrth barhau i gynnal gwasanaeth diogel.

 

Camau Gweithredu:

           Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn dosbarthu'r cylchlythyr i'r Panel.

7.

Adolygiad o Berfformiad yr Awdurdod Lleol gan Arolygiaeth Gofal Cymru pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Roedd Simon Jones, Swyddog Gwella Strategaeth a Pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi briffio'r panel ar yr eitem hon gan gynnwys rhoi trosolwg o'r adolygiad perfformiad blynyddol a gynhaliwyd gan AGC a'r llythyr at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n crynhoi gwerthusiad perfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yn ystod 2018/19. Mae trefniadau newydd yng nghynllun adolygiad perfformiad blynyddol AGC ar gyfer 2019/20.

 

Yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, bydd AGC yn treialu cyd-arolygiad o'r trefniadau amddiffyn plant ac yn canolbwyntio ar fynd ar drywydd meysydd i'w gwella yn dilyn arolygiad, deilliannau dysgu i blant gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth a'r gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Fel Awdurdod, mae angen i ni ystyried olyniaeth. Mae ychydig o gynllunio olyniaeth ar waith yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae'r adran yn ceisio sicrhau ei dyfodol er mwyn darparu gweithlu sefydlog yn y dyfodol.
  • Mae peth pryder ynglŷn â'r cyfeiriad at forâl yn y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn yr adroddiad arolygu. Mae elfen Abertawe o'r GTI yn dychwelyd i Abertawe ac mae ganddi fwrdd a chynllun gweithredu newydd ar waith. Bydd hon yn eitem yn ystod cyfarfod y Panel ar 28 Hydref.
  • Mae'r Panel yn hapus gyda'r adolygiad o berfformiad a'r llythyr.

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Bu'r panel yn ystyried y rhaglen waith.

 

Ychwanegwyd sesiwn friffio ar Asesiadau Gofalwyr Ifanc at y Rhaglen Waith ar 24 Chwefror 2020.

 

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 266 KB

a)    Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Mehefin 2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2019) pdf eicon PDF 172 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 402 KB