Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Penodi/Cadarnhau Cynullydd y Panel a Chadarnhau Cyfetholedigion

Cofnodion:

Cadarnhawyd Paxton Hood-Williams fel Cynullydd y panel.

4.

Nodiadau cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 285 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

5.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

6.

Cyflwyniad a Sesiwn Holi ac Ateb gydag Aelod y Cabinet

Elliott King, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant (Blynyddoedd Cynnar)

Sam Pritchard, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant (Pobl Ifanc)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Elliott King a Sam Pritchard, Aelodau'r Cabinet dros Wasanaethau Plant  y prif broblemau sy'n wynebu'r adran i'r Panel a'r hyn sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hwy, ac i ateb cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

              Bydd y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol yn ogystal â'r panel yn edrych ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc eleni.

              Y grŵp mwyaf o blant sy'n derbyn gofal (PDG) yw'r grŵp oedran 10 - 15 oed.  Mae'r gyfran tua 50/50 i blant sy'n dod i mewn yn 10 - 15 oed a phlant sydd wedi dod o'r grŵp oedran isaf 5 - 9 oed. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys mewn data perfformiad yn y dyfodol.

              Ar gyfer disgyblion PDG fesul 10,000 o'r boblogaeth, mae’r cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru yn uwch o lawer na chyfartaledd Lloegr. Mae nifer o resymau gwahanol dros hyn. Mae hon yn flaenoriaeth i'r Gweinidog.

              Mae Rhaglen Gwella Plant a Theuluoedd ar waith yn Abertawe. Mae'r panel yn bryderus am y diffyg adnodau i gyflawni'r cynlluniau hyn.

              Yn y pen draw, gobeithiwn gyrraedd pwynt lle mae'r cynllun yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phlant.

              Mae gan Abertawe'r nifer uchaf o blant ceiswyr lloches heb gwmni oedolyn ar ôl Caerdydd. Mae hyn wedi cynyddu'n niferoedd PDG.

              Mae'n bwysig meithrin hyder aelodau sy'n eistedd ar y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol er mwyn datblygu'r strategaeth a chwrdd â swyddogion arweiniol yn rheolaidd i gefnogi camau gweithredu sydd i'w cwblhau a pharatoi'r adroddiadau diweddaru gwrthrychol ar gyfer y bwrdd. 

              Disgwylir System Wybodaeth Gofal Cymunedol newydd ym mis Chwefror 2020. Mae disgwyl i'r dyddiad hwn gael ei wthio yn ôl.

              Mae angen sicrhau bod y cyngor yn gwrando'n agored ac yn onest ar lais y plentyn, y teulu a'r gymuned.

              Mae angen i weithwyr cymdeithasol wrando ar blant ac mae angen annog plant i leisio'u barn. Mae gennym CCUHP yn Abertawe sy'n annog plant i leisio'u barn llawer mwy. Mae'r adran yn siarad â gweithwyr cymdeithasol drwy'r amser am ba mor bwysig yw'r berthynas ond mae pwysau o ran cael y gwaith papur wedi'i gwblhau. Mae angen newid diwylliannol a dyma'r cyfeiriad y mae'r cyngor yn symud iddo.

              Mae gan yr adran gysylltiadau â'r brifysgol. Mae’n dymuno cael mwy o ddylanwad ar ei rhaglen. 

              Mae gan sefydliadau megisCymorth i Fenywodleoliadau am dri mis ar gyfer myfyrwyr prifysgol ambell waith. Mae hwn yn rhoi'r cyfle iddynt gael profiad o sut beth ydyw yn y byd go iawn. 

              Gweithio'n galed i ddatblygu'r gweithlu ac ar effaith trawma eilaidd.

 

 

Camau gweithredu:

 

              YchwaneguCynnydd ar Raglen Gwella Plant a Theuluoedd' at y rhaglen waith ar gyfer 2019/20.

7.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2018/19 a Rhaglen Waith Ddrafft 2019/20 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd aelodau'r panel eu blwyddyn ar y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a thrafodwyd y cwestiwn canlynol:

 

1. Beth sydd wedi gweithio'n dda?

              Mae'n dda gweld manylion mewn adroddiadau perfformiad. Mae'n anodd mynd ati i gael mwy o fanylion ond mae swyddogion wedi rhoi llawer o wybodaeth.

              Mae cefnogaeth swyddogion yn wych

              Mae'r trafodaethau a'r ymateb gan swyddogion wedi bod yn dda

              Mae’r berthynas â swyddogion yn dda ac yn agored iawn.

 

 

Cytunodd aelodau'r panel ar raglen waith 2019/20.

 

Camau gweithredu:

              Gwahodd uwch-wleidyddion o Lywodraeth Cymru i ddod i gyfarfod Panel i glywed materion a phryderon y Panel ac ymateb iddynt. (ac o bosibl y Comisiynydd Plant?).

 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 175 KB

a)    Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Ebrill 2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 265 KB