Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 19 “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”, a gadawodd y cyfarfod cyn iddo ddechrau;

 

2)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 19 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd R C Stewart gysylltiad personol â Chofnod 19 “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”.

15.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mai 2019.

16.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio.

17.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd cwestiwn mewn perthynas â Chofnod 21, “Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cyngor dros Gymunedau Gwell.

18.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Llongyfarchwyd y Cynghorydd A S Lewis gan y Cynghorydd T J Hennegan am gael ei phenodi’n Llefarydd Tai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

19.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Glyncollen

Y Cynghorydd Ceri R Evans

2)

Ysgol Gyfun Treforys

Y Cynghorydd Andrea S Lewis

 

20.

Adroddiad Cynnal Cyfalaf Adeiladu 2019/20 - Cyllid Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf ychwanegol arfaethedig ar gyfer y Gwasanaethau Adeiladu, fel y’u rhestrir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)              Rhoi caniatâd i gynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad yn y rhaglen gyfalaf.

21.

Comisiwn y Gwirionedd am Dlodi Abertawe pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r camau nesaf arfaethedig yn natblygiad Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe ac i gytuno ar fanylion yr ymrwymiad gofynnol gan Gyngor Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cynnig i roi camau nesaf sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe ar waith;

 

2)              Ymrwymo i Gomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe a’i gefnogi.

22.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

23.

Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod i:

 

1)              Ddyfarnu Contract Cam Un ar gyfer y gwaith i Tendr 4 ar gyfer gwaredu asedau’n unol â Chyfansoddiad y Cyngor;

2)              Ymrwymo cyfanswm o £596,179 i'r Rhaglen Gyfalaf i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - ymrwymo i gynllun newydd i'r Rhaglen Gyfalaf a’i awdurdodi.

 

Cymeradwywyd y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/20 a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018/19 i 2023/2025 gan y cyngor ar 28 Chwefror 2019.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

24.

Pryniant Arfaethedig o Fuddsoddiad Eiddo yng Nghanol y Ddinas.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer prynu eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo. Crëwyd y Gronfa yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet a wnaed ar 21 Gorffennaf 2016.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

25.

Gwerthu Tir Priffordd yn y Mwmbwls, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am gynnydd ac a ddarparodd opsiynau mewn perthynas â defnyddio’r tir a nodwyd yn yr adroddiad yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.