Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig, Abertawe - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Y Gwasanaethau Democrataidd Ffôn (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J A Hale yn Gadeirydd Dros Dro.

 

Y Cynghorydd J A Hale, Cadeirydd Dros Dro fu'n llywyddu

 

32.

Datgeliadau o Ddiddordebau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw ddiddordebau.

 

33.

Cofnodion: pdf eicon PDF 123 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

34.

Diweddariad ar Gyfeillion Parciau a Pherchnogaeth Gymunedol.

Sue Reed

 

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar Gyfeillion Parciau a pherchnogaeth gymunedol gan y Swyddog Datblygu Adeiladau Cymunedol. Amlygodd y canlynol yn benodol: -

 

·                     Sefydlwyd 30 o grwpiau Cyfeillion Parciau a Mannau Agored gyda phedwar grŵp newydd yn aros i'w cymeradwyo

·                     Roedd 38 o adeiladau cymunedol gyda 2 grŵp newydd yn aros i'w cymeradwyo

·                     Roedd 16 o lawntiau bowls yn cael eu hunan-reoli gyda rhai prydlesau'n aros i gael eu cwblhau

·                     Roedd 17 cae pêl-droed yn cael eu hunan-reoli

·                     Roedd tri Swyddog Datblygu llawn-amser

·                     Roedd grwpiau cymunedol fel hyn wedi cyfrannu'n sylweddol ac, mewn rhai achosion, roeddent wedi cael mynediad i grantiau er mwyn cynorthwyo gyda rhai prosiectau

·                     Mae pecynnau gwybodaeth wedi cael eu creu erbyn hyn er mwyn helpu gyda chreu grwpiau newydd

·                     Mae rhai lawntiau bowls yn cael eu cynnal gan yr Adran Parciau am gost ac i fanyleb y cytunwyd arni (gan ddibynnu ar ofynion yr unigolyn)

·                     Mae prydlesau Asedau Cymunedol yn nodi bod yn rhaid i'r asedau perthnasol barhau i fod yn Asedau Cymunedol

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau ynglŷn â chreu grwpiau cymunedol newydd a chynlluniau ar gyfer y gwelyau blodau yn y Gerddi Botaneg. Cyfeiriwyd y pwyllgor at y swyddogion perthnasol er mwyn cael atebion i'w cwestiynau.

 

Penderfynwyd y dylid nodi cynnwys y diweddariad. 

 

35.

Polisi Caffael - y Diweddaraf.

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad ar y polisi caffael gan Reolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy.

 

Gobeithiwyd y byddai Swyddog Caffael wedi mynychu'r cyfarfod er mwyn hysbysu'r pwyllgor am ddiwygiadau i'r broses gaffael ond ni chafodd y diwygiadau eu cwblhau. Rhagwelir y byddai'r diwygiadau wedi cael eu cwblhau erbyn diwedd yr wythnos ac y byddent yn cael eu hanfon i'r Adran Gyfreithiol i gael eu cymeradwyo. Ar ôl eu cwblhau, byddai'r diwygiadau'n cael eu cyflwyno i'r pwyllgor.

 

Roedd hwn wedi bod yn ddarn mawr o waith gyda chyfraniad arwyddocaol gan aelodau'r pwyllgor a swyddogion yn y gweithdai. Gobeithiwyd y byddai'r newidiadau a nodwyd yn cynorthwyo'r awdurdod cyfan wrth iddo chwalu rhwystrau ar gyfer cwmnïau llai. 

 

Penderfynwyd cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

36.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor y cynllun gwaith arfaethedig a gofynnodd am fwy o eitemau ar gyfer cyfarfodydd sydd i ddod.

 

Nododd y pwyllgor fod y Cyn-bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar y Gwasanaethau Corfforaethol wedi mynychu ymweliad safle yn y Ganolfan Gyswllt yn 2016. Teimlwyd bod yr ymweliad blaenorol yn ddefnyddiol ac amlygwyd nifer o faterion. Awgrymwyd y dylai'r pwyllgor ymweld â'r safle eto er mwyn gweld y cynnydd a'r sefyllfa bresennol.

 

Penderfynwyd y byddai Rheolwr Rhaglen Abertawe Gynaliadwy yn trefnu ymweliad â'r Ganolfan Gyswllt yn Nghanolfan Ddinesig i'r pwyllgor.