Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny 637732 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

3.

Adroddiad Effaith Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy ac adroddiad dilynol pdf eicon PDF 98 KB

Gwahoddir y canlynol i drafod cynnydd:

 

Sue Reed (Rheolwr Datblygu Hamdden Cymunedol)

 

Atodir:

 

1. Adroddiad Effaith gan Aelod y Cabinet

 

2. Adroddiad Ymchwiliad Craffu gwreiddiol

 

3. Ymateb gwreiddiol y Cabinet

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • Daeth Sue Reed, Rheolwr Datblygu Hamdden Cymunedol, i roi'r diweddaraf i'r panel am y gwaith a wnaed ers yr Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy
  • Mae rôl Sue yn cynnwys cefnogi gwirfoddolwyr yn y gymuned i sefydlu grwpiau i hwyluso rheoli a chynnal a chadw mannau agored ac adeiladau cymunedol. Mae 41 o adeiladau cymunedol yn cael eu cynnal yn Abertawe.
  • Mae'r holl argymhellion a gynigiwyd ar ôl yr Ymchwiliad Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy wedi'u cwblhau.
  • Mae'r adran wedi lleihau o 9 aelod o staff i 3, ond yr un yw maint yr anghenion gan fod yr adran yn gyfrifol am fannau agored a pharciau ac adeiladau cymunedol, ac yn cefnogi grwpiau presennol ac unrhyw rai newydd sydd am sefydlu eu hunain.
  • Rôl y swyddogion yw cefnogi gwirfoddolwyr i gynnal prosiectau yn eu cymunedau gyda materion megis asesiadau risg, gwybodaeth am iechyd a diogelwch, dogfennaeth briodol a chanllawiau ar sefydlu grwpiau.
  • Datblygwyd nifer o ganllawiau cefnogi, cyfansoddiadau enghreifftiol a phecynnau gwybodaeth gan yr adran, ac maent ar gael am ddim i'r gymuned.
  • Yn ogystal â'r canllawiau, gall gwirfoddolwyr cymunedol gael mynediad i hyfforddiant megis Iechyd a Diogelwch a chefnogaeth mewn perthynas â hylendid bwyd ar gyfer digwyddiadau fel boreau coffi.
  • Mae gan Gyngor Abertawe berthynas wych â'r gwirfoddolwyr mae'n eu cefnogi.
  • Bu newid yn y ffordd y caiff gweithredu yn y gymuned ei fesur. Mae'n anodd iawn ei gymharu â dangosydd perfformiad allweddol am ei fod yn broses a gefnogir gan wirfoddolwyr yn hytrach na gwasanaeth. Nid oes awydd i roi pwysau ar wirfoddolwyr drwy fynnu eu bod yn cyflawni mesurau perfformiad.
  • Mae benthyciadau am ddim ar gael ar gyfer grwpiau cymunedol. Gall y benthyciadau hyn gynorthwyo gydag amrywiaeth o bethau. Mae angen cyflwyno cais i'r cyngor am y benthyciadau, a cheir proses ymgeisio lem sy'n cynnwys yr adrannau cyfreithiol a chyllid.
  • Nid yw'r canolfannau cymunedol yn cael unrhyw gymorth ariannol gan y cyngor. Mae unrhyw grantiau roeddent yn arfer eu derbyn yn flaenorol a oedd yn helpu gyda chostau tanwydd bellach wedi dod i ben. Mae hyn yn golygu bod angen i'r holl ganolfannau ariannu eu hunain yn gyfan gwbl. Nid oes cyfradd arbennig ar gael ‘chwaith i weithwyr neu aelodau etholedig y cyngor. Mae'n rhaid i bawb dalu i rentu'r canolfannau cymunedol.

 

4.

Y Panel i drafod cynnydd ac i gytuno ar adborth

Y Panel i drafod ei farn ar y cynnydd a wnaed ac i gytuno ar yr adborth yr hoffent ei gyflwyno i Aelod y Cabinet a Phwyllgor y Rhaglen Graffu drwy ei lythyr gan y Cynullydd.

 

 

LLlythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 107 KB