Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 637732
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cymeradwywyd. |
|
Ffrwd Waith Cam-drin Domestig PDF 91 KB · Chris Sivers – Cyfarwyddwr – Pobl · Jane Whitmore - Rheolwr Partneriaeth a Chomisiynu · Megan Stevens - Gweithwr Prosiect ‘Key 3’ Cofnodion: Ffrwd Waith Cam-drin Domestig ·
Mae'r prosiect newydd a
gyflwynwyd gan Megan Stevens yn ceisio creu llwybr clir ar gyfer atgyfeirio
cleientiaid gyda materion cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl a phrofiad
o gam-drin sylweddau ·
Ar hyn o bryd, mae'r
gefnogaeth ar chwâl - nod y prosiect hwn yw cael asiantaeth i gymryd yr awenau ·
Mae cynnwys a chadw
cleientiaid yn anodd o ystyried natur brysur eu ffyrdd o fyw ·
Rhaid i'r gefnogaeth fod
yn briodol a cheisio lleihau atgyfeiriadau o ganlyniad i hynny ·
Ceisio osgoi dyblygu a
rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau'n effeithiol ·
Nid yw'n wasanaeth
mandadol - rhaid bod awydd ar gleientiaid i gymryd rhan ·
Caiff y prosiect ei
fonitro drwy adran ganlyniadau ar y ffurflen atgyfeirio ·
Edrych ar deilwra'r
hyfforddiant 'Gofyn a Gweithredu' presennol i ganolbwyntio ar iechyd meddwl a
chamddefnyddio sylweddau hefyd ·
Mae'r prosiect yn
cysylltu â sefydliadau'r trydydd sector i geisio sicrhau bod yr holl wasanaethau
perthnasol yn cydweithio ac yn cyfathrebu fel nad ydym yn dyblygu gwaith a
gwneud yr atgyfeiriad mwyaf effeithiol ·
Mae'r prosiect yn rhad o
ran comisiynu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru'n edrych ar y prosiect hwn am
arfer da |
|
Ffrwd Waith Heneiddio'n Dda PDF 108 KB ·
Chris Sivers – Cyfarwyddwr
– Pobl ·
Jane Whitmore - Rheolwr
Partneriaeth a Chomisiynu · Polly Gordon - Rheolwr Partneriaeth Camau Bywyd Cofnodion: Heneiddio'n Dda ·
Daeth y ffrwd waith i rym
ym mis Gorffennaf 2016 wrth i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei ddatblygu ·
'Byw'n Dda, Henieddio'n
Dda' yw enw arfaethedig yr amcan newydd yn y Cynllun Lles, ond nid ymgynghorwyd
ar y cynllun hwnnw eto na'i fabwysiadu'n ffurfiol. ·
Y nod yw gwella lles ar
y cyd â chymunedau ac asiantaethau ·
Mae holl Bartneriaid y
Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu cydnabod fel bod yn ystyriol o ddementia ·
Gweithio gyda
chynllunwyr a dylunwyr i wneud tai newydd yn addas i bobl hŷn ·
Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
yn boblogaidd iawn ·
Ceir tystiolaeth fod
ehangu rolau Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i wardiau cyfagos wedi bod yn
llwyddiannus ·
Mae'r gwasanaeth sy'n
ystyriol o ddementia'n cefnogi pobl â dementia ond hefyd y rhai sy'n cynnig y
gofal hefyd ·
Mae hyrwyddo digwyddiadau'n
heriol ac mae'r adran yn edrych i gynyddu cyfranogiad gwirfoddolwyr ·
Dywedodd Cherrie Bija
wrth y grŵp bod ei gwasanaeth yn cynnal clybiau cinio rhwng y cenedlaethau
lle gall pobl o bob oedran ddod ynghyd a rhannu cyngor ar bethau fel defnyddio tabledi
digidol ·
Mae cyfradd diffyg
cyfranogiad mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant gan bobl hŷn bedair
gwaith yn uwch o'i chymharu â phobl ifanc 16 i 25 oed |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 61 KB Cofnodion: Cadarnhawyd y bydd
y cyfarfod nesaf yn adolygu'r Cynllun Lles drafft. |