Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny - 01792637256 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 373 KB

Cabinet response for 18 October 2017

Notes, convener’s letter and cabinet response for 16 November 2017

Notes for 12 December 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd llythyrau'r Cynullydd, ymateb y Cabinet a'r nodiadau.

 

3.

Adrodd yn Flynyddol am Berfformiad Addysg pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cllr Jen Raynor (Cabinet Member for Children, Education and Lifelong Learning) and Nick Williams (Chief Education Officer) presented the report and discussed outcomes with the Panel.

 

The Panel heard that:

·         Swansea has a strong track record of improving outcomes for learners across all stages in schools.

·         Performance at Foundation Phase shows positive trend of improvement over the last five years.  However, the overall Foundation Phase outcome indicator remains below the national average and Swansea’s rank position has fallen over time.  Overall performance is adequate.  Swansea is 19th out of 22 authorities in 2016-17.

·         Performance at key stage 2 shows a positive trend of improvement during the last five years with the rank position of 13th and an improvement on 2015/16.   Overall performance is good with nearly 90% of learners achieving the core subject indicator before they leave primary schools.

·         Performance at Key Stage 3 shows year upon year improvement during the last five years.  Swansea is now above the national average. Rank position is above expectation.  National test performance is very good.  Overall performance is strong.

·         Performance at Key Stage 4 between 2012 and 2016 was outstanding with schools showing continuous improvement across all main indicators.  However, in 2016-17 new examinations have resulted in re-calibrated performance across Swales.  Swansea performance remains relatively strong despite drops in performance indicators.

·         Nearly all learners in Swansea schools entering 2 or more A levels (or equivalent) have achieved the level three threshold at A level during the past three years.  However, 2017 results are below Wales and rank in 18th position.  The average point score show variability between years and sixth forms.

·         Areas identified for development are:

   Foundation Phase

   Pupils in receipt of free school meals at all key stages and particularly at KS4 and science

   Improve outcomes at A level through collaborative working with college

   Improve outcomes for new qualifications in key stage 4, particularly science

 

The following issues were discussed further:

·         Panel did have concerns about the Foundation Phase data, that Swansea is 19 out of 22 and the overall performance being adequate.  They heard that there have been issues with the consistency of use of the Foundation Phase philosophy across all schools.  There are a small number of schools are not completely working to this philosophy while there are some schools that are very strong in this area.  The Cabinet Member and Chief Education Officer said that they recognised how important it is to get this right especially because the New Curriculum will build upon the Foundation Phase.  The Panel were pleased to hear that the inconsistency on how Foundation Phase is used within some schools will be addressed this year.

·         Looked After Children (LAC) are receiving more support in order to achieve better outcomes.  We must support LAC like we would our own child making sure they have the right opportunities.

·         Continuing to working to close the gaps between boys and girls performance and Free School Meal pupils, for example, Key Stage 4 and Free School Meal pupils (Efsm).  The re-calibration of exams have impacted higher on schools with larger number of Efsm pupils.  Council/schools will be working to address this.

·         6th form and A Level (or equivalent) outcomes are not one of Swansea’s strongest areas of performance.  There has been a concentration on retention rates rather than outcomes but the Council is working with schools and Gower College to improve this.

·         Stretching more able pupils was discussed, the panel heard that schools are making sure that challenging measures are set for these pupils, that there are after school clubs available and that primary and secondary schools work closely to ensure a child is stretched throughout school life.  The Panel agreed with the Cabinet Member that it would be useful for Governing Bodies to allocate a designated Governor to champion this in each school.

·         The Panel asked if we have seen an improvement in children’s readiness for school that are due to the early intervention services like Flying Start.  They heard that hard evidence is difficult to give at present but anecdotally yes and it is improving.  The Pane queried whether there needs to be a way of measuring this?

·         Upskilling teaching and non-teaching staff are key areas for development in schools and doing this working across clusters, as exampled by Headteacher of Ponlliw Primary School.

·         The Panel asked whether we as an authority are paying enough attention to getting good qualified teachers to become future and inspiring school leaders.  The Panel heard that the important of this was recognised and that one thing in place was the Leadership Acadamy.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Jen Raynor (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Nick Williams (Prif Swyddog Addysg) yr adroddiad a thrafodwyd deilliannau gyda'r panel.

 

Clywodd y Panel y canlynol:

·         Bod gan Abertawe hanes profedig o wella deilliannau disgyblion ar draws pob cam mewn ysgolion.

·         Dengys perfformiad yn y Cyfnod Sylfaen duedd gadarnhaol ar gyfer gwelliant dros y pum mlynedd diwethaf.  Serch hynny, erys dangosydd deilliannau'r Cyfnod Sylfaen islaw'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae safle Abertawe wedi gostwng dros amser.  Boddhaol yw'r perfformiad cyffredinol.  Mae Abertawe yn y 19eg safle allan o 22 awdurdod yn 2016-17.

·         Dengys perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 2 duedd gadarnhaol ar gyfer gwelliant yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae yn y 13eg safle, sy’n welliant ar 2015/16. Mae'r perfformiad cyffredinol yn dda gyda bron 90% o'r dysgwyr yn cyflawni'r dangosydd pwnc craidd cyn iddynt adael yr ysgol gynradd.

·         Mae perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dangos gwelliant flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf.  Mae Abertawe bellach uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r safle'n uwch na'r disgwyl.  Mae perfformiad y profion cenedlaethol yn dda iawn.  Mae’r perfformiad cyffredinol yn gryf.

·         Mae perfformiad yng Nghyfnod Allweddol 4 rhwng 2012 a 2016 yn rhagorol gydag ysgolion yn dangos gwelliant parhaus ar draws yr holl brif ddangosyddion.  Serch hynny, yn 2016-17 mae arholiadau newydd wedi arwain at ailraddio perfformiad ar draws Cymru.  Erys perfformiad Abertawe'n gymharol gryf er gwaethaf gostyngiad yn y dangosyddion perfformiad.

·         Mae bron bob dysgwr yn ysgolion Abertawe sydd wedi astudio 2 gwrs Safon Uwch neu fwy (neu gyfwerth) wedi cyflawni trothwy lefel tri o ran Safon Uwch yn ystod y tair blynedd diwethaf. Serch hynny, mae canlyniadau 2017 islaw Cymru ac maent yn y 18fed safle.  Dengys y sgôr bwyntiau gyfartalog amrywioldeb rhwng blynyddoedd a chweched dosbarth.

·         Dyma'r meysydd a nodwyd i'w datblygu:

   Y Cyfnod Sylfaen

   Disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ym mhob cyfnod allweddol ac yn arbennig CA4 a gwyddoniaeth

   Gwella deilliannau Safon Uwch drwy weithio ar y cyd â'r coleg

   Gwella deilliannau ar gyfer cymwysterau newydd yng Nghyfnod Allweddol 4, yn enwedig gwyddoniaeth

 

Trafodwyd y materion canlynol ymhellach:

·         Roedd gan y panel bryderon am ddata'r Cyfnod Sylfaen, sef bod Abertawe'n 19 allan o 22 ac mai boddhaol oedd y perfformiad cyffredinol.  Dywedwyd wrthynt y cafwyd problemau gyda chysondeb defnyddio athroniaeth y Cyfnod Sylfaen ar draws yr holl ysgolion.  Mae nifer bach o ysgolion nad ydynt yn defnyddio’r athroniaeth hon yn llwyr ac mae ysgolion eraill sy'n gryf iawn yn y maes hwn.  Dywedodd Aelod y Cabinet a'r Prif Swyddog Addysg eu bod yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod hyn yn gywir oherwydd bydd y Cwricwlwm Newydd yn adeiladu ar y Cyfnod Sylfaen.  Roedd y panel yn falch o glywed y bydd yr anghysondeb o ran y ffordd y defnyddir y Cyfnod Sylfaen mewn rhai ysgolion yn cael ei drafod eleni.

·         Mae Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) yn derbyn mwy o gefnogaeth er mwyn cyflawni gwell deilliannau.  Rhaid i ni gefnogi PDG fel y byddem yn ei wneud gyda'n plant ein hunain drwy sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd cywir.

·         Parhau i weithio i gau'r bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched a disgyblion Prydau Ysgol am Ddim, er enghraifft, disgyblion Cyfnod Allweddol 4 a Phrydau Ysgol am Ddim.  Mae ailraddio arholiadau wedi cael effaith fwy ar ysgolion gyda nifer mawr o ddisgyblion PYDd.  Bydd y cyngor/ysgolion yn gweithio er mwyn mynd i'r afael â hyn.

·         Nid yw deilliannau chweched dosbarth a Safon Uwch (neu gyfwerth) yn un o feysydd perfformiad cryfaf Abertawe.  Bu ffocws ar gyfraddau cadw yn hytrach na deilliannau, ond mae'r cyngor yn gweithio gydag ysgolion a Choleg Gŵyr i wella hyn.

·         Trafodwyd ymestyn plant mwy abl. Clywodd y panel fod ysgolion yn sicrhau bod mesurau heriol yn cael eu pennu ar gyfer y disgyblion hyn, bod clybiau ar ôl ysgol ar gael a bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn gweithio'n agos er mwyn sicrhau bod plentyn yn cael ei ymestyn drwy gydol ei fywyd ysgol.  Roedd y panel yn cytuno ag Aelod y Cabinet y byddai'n ddefnyddio i gyrff llywodraethu glustnodi llywodraethwr dynodedig i hyrwyddo hyn ym mhob ysgol.

·         Gofynnodd y panel a ydym wedi gweld gwelliant ym mharodrwydd plant i ddechrau'r ysgol o ganlyniad i wasanaethau ymyrryd yn gynnar fel Dechrau'n Deg. Clywsant fod tystiolaeth gadarn yn anodd ei chyflwyno ar hyn o bryd, ond yn anecdotaidd, mae'n gwella.  Holodd y panel a oedd angen ffordd i fesur hyn?

·         Mae diweddaru sgiliau staff addysg a'r rhai nad ydynt yn addysgu'n feysydd allweddol i'w datblygu mewn ysgolion a dylid gwneud hyn ar draws clystyrau, fel a wneir gan Bennaeth Ysgol Gynradd Pontlliw, er enghraifft.

·         Gofynnodd y panel a oeddem ni, fel awdurdod, yn talu digon o sylw i gael athrawon cymwysedig o safon i ddatblygu'n arweinwyr ysgolion ysbrydoledig y dyfodol.  Clywodd y panel fod pwysigrwydd hyn wedi'i gydnabod ac un peth sydd ar waith yw'r Academi Arweinyddiaeth.

 

4.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol i Blant a Phobl Ifanc 2013 - Y diweddaraf am y cynnydd wrth ymateb i'r pum argymhelliad, mis Rhagfyr 2017 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Williams (Prif Swyddog Addysg) yr adroddiad, gan roi ychydig o gyd-destun i ddechrau.

 

·         Derbyniodd Cyngor Abertawe arolygiad yn 2013.  Sefydlwyd Bwrdd Gwella'r Prif Weithredwr i fonitro cynnydd gyda gwelliant i argymhellion, a chafodd y gwelliannau eu hadrodd gerbron y Cabinet yn flynyddol. Dyma'r adroddiad olaf am gynnydd arolygiad 2013.

·         Mae'r awdurdod wedi gwneud cynnydd da o ran yr argymhellion, sef:

Argymhelliad 1: Datblygu strategaeth i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion cynradd a'i rhoi ar waith.

Mae hyn bellach yn wyrdd gyda chynnydd da o ran mynd i'r afael â'r argymhelliad ym mron bob agwedd.

Argymhelliad 2: Sicrhau ansawdd gwaith swyddogion i sicrhau mwy o gysondeb yn lefel yr her maent yn ei chynnig i ysgolion.

Mae hyn bellach yn felyn gyda chynnydd cryf, gan ymdrin â’r rhan fwyaf o agweddau ar yr argymhelliad.  Dim ond agweddau bach sydd angen sylw pellach arnynt.

Argymhelliad 3: Gwella gwerthusiad swyddogion o safon arweinyddiaeth a rheolaeth mewn ysgolion i sicrhau bod ysgolion sy'n tanberfformio'n cael eu nodi a'u cefnogi'n gyflym.

Argymhelliad 4: Gwella safon y ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliad heblaw'r ysgol. Yn enwedig i godi safonau cyflawniad a chynorthwyo ailintegreiddio'n ôl i ysgolion.

Mae hyn bellach yn oren gyda chynnydd boddhaol, gan ymdrin â llawer o agweddau ar yr argymhelliad.  Mae angen sylw ar rai agweddau arwyddocaol.

Argymhelliad 5: Gwella cysondeb arweinyddiaeth ar draws yr holl wasanaethau addysg ac ansawdd hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yn y gwasanaethau addysg.

Mae hyn bellach yn felyn gyda chynnydd da, gan ymdrin â’r rhan fwyaf o agweddau ar yr argymhelliad.

·         Edrychodd y panel yn arbennig ar argymhelliad 4, gan glywed fod y gyfradd wella ar gyfer yr agwedd hon wedi datblygu'n dda.  Gyda phennaeth newydd ei benodi ar gyfer yr uned atgyfeirio disgyblion sy'n gwneud cynnydd da, mae'r gwelliannau bellach yn gryf.  Ond mae mwy o waith i'w wneud, yn enwedig o ran sicrhau cysondeb mewn addysgu.  Cydnabuwyd nad yw'r llety a'r cyfleusterau'n addas ar gyfer anghenion disgyblion EOTAS, felly cafwyd ymrwymiad i wella hyn drwy adeiladu adeilad newydd (cyflwyniad fel Band B i Lywodraeth Cymru wedi'i dderbyn).  Bydd deilliannau’r argymhelliad hwn yn parhau i gael eu monitro gan y Tîm Rheoli Corfforaethol.

 

5.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhaglen waith.

 

6.

Eitem Er Gwybodaeth pdf eicon PDF 63 KB

Derbyniodd y panel yr wybodaeth fel y'i hatodwyd.

 

Cofnodion:

Nododd y panel arolygiadau diweddar gan Estyn yn Ysgol Gynradd Dewi Sant ac Ysgol Gynradd Tre-gŵyr.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 168 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 91 KB