Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes gyngor ynghylch y buddiannau personol a rhagfarnol posib y gallai cynghorwyr a swyddogion eu cael mewn eitemau ar yr agenda.

 

Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd gynghorwyr a swyddogion y dylid ond llenwi'r daflen "Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol" os oes gan y cynghorydd/swyddog fudd i'w ddatgan.  Nid oes angen dychwelyd ffurflenni os nad oes unrhyw beth i'w ddatgan.  Hysbyswyd cynghorwyr a swyddogion hefyd y dylid datgan unrhyw fudd ar lafar ac yn ysgrifenedig ar y daflen.

 

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

52.

Cyflwyno Teitl Henadur Anrhydeddus Yn Unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972 - Cyn-gynghorwyr R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton & C Thomas.

Cofnodion:

Datganodd yr Arglwydd Faer fod y Cyngor wedi penderfynu mewn egwyddor i roi teitl Henadur Anrhydeddus i'r cyn-gynghorwyr canlynol, R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton a C Thomas er mwyn cydnabod eu gwasanaeth hir ac amlwg i Ddinas a Sir Abertawe a'r awdurdodau blaenorol.

 

Daw'r teitl o'r hen deitl Saesnig "Henadur", sy'n golygu "dyn hŷn" yn llythrennol, ac fe'i defnyddiwyd gan y Prif Foneddigion a oedd yn llywyddu'r siroedd.  Nid yw teitl Henadur Anrhydeddus yn wleidyddol.

 

Defnyddir y teitl yn Ninas a Sir Abertawe fel gwobr i unigolion er mwyn cydnabod eu gwasanaethau hir ac amlwg i'r Cyngor, ar yr amod bod y meini prawf wedi'u cyflawni.

 

R G Davies

 

Roedd y cyn-gynghorydd R G Davies yn gwasanaethu cymuned Glandŵr ac roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 1994 i 1995. Roedd ei gyfnodau o wasanaeth yn cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe.  12 Rhagfyr 1974 i 31 Mawrth 1996.

 

J. Newbury

 

Roedd y cyn-gynghorydd J Newbury'n arfer gwasanaethu cymuned Dynfant.  Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2015 i 2016.  Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe.  7 Mai 1987 i 31 Mawrth 1996;

Ø   Dinas a Sir Abertawe.  4 Mai 1995 i 4 Mai 2017.

 

I M Richard

 

Roedd y cyn-gynghorydd I M Richards yn gwasanaethu cymuned Mawr.  Roedd yn Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2011 i 2012. Roedd ei gyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw.  14 Tachwedd 1985 i 31 Mawrth 1996;

Ø   Dinas a Sir Abertawe. 4 Mai 1995 i 4 Mai 2017.

 

R J Stanton

 

Roedd y cyn-gynghorydd R J Stanton yn gwasanaethu cymuned Sgeti.  Hi oedd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2013 i 2014.  Roedd ei chyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe.  5 Mai 1988 i 31 Mawrth 1996;

Ø   Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg.  4 Mai 1989 i 31 Mawrth 1996.

Ø   Dinas a Sir Abertawe.  4 Mai 1995 i 4 Mai 2017.

 

C. Thomas

 

Roedd y cyn-gynghorydd C Thomas yn gwasanaethu cymuned Mynydd-bach.  Hi oedd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe o 2014 i 2015.  Roedd ei chyfnodau o wasanaethu'n cynnwys:

 

Ø    Cyngor Dinas Abertawe.  23 Mai 1990 i 31 Mawrth 1996;

Ø   Dinas a Sir Abertawe.  4 Mai 1995 i 4 Mai 2017.

 

Talodd arweinwyr pob un o'r Grwpiau Gwleidyddol a rhai o'r Cynghorwyr eraill deyrnged i wasanaeth hir ac amlwg y cyn-gynghorwyr hyn, gan ddatgan eu bod wedi gwasanaethu am dros 136 o flynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD yn unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, roi teitl Henadur Anrhydeddus i'r cyn-gynghorwyr R G Davies, J Newbury, I M Richard, R J Stanton a C Thomas er mwyn cydnabod eu gwasanaeth hir ac amlwg i Ddinas a Sir Abertawe a'r awdurdodau blaenorol.