Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

60.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cyng. M Thomas fudd personol yng Nghofnod 68 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol".

61.

Cofnodion. pdf eicon PDF 107 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Medi 2017.

62.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

63.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 71 "Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif -  adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon ym Mharc  y Werin, Gorseinon, Abertawe".

 

Ymatebodd Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes (Swyddog Monitro) a'r Aelod Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

64.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 71 "Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif -  adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon ym Mharc y Werin, Gorseinon, Abertawe".

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

65.

Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Adfywio Sgwâr y Castell.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd M H Jones yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

66.

Adfywio Sgwâr y Castell. pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr adroddiad a oedd yn cyflwyno arfarniad o'r opsiynau ar gyfer gosod cyfle datblygu rhannol, opsiynau yn nhermau dulliau cyflwyno a phrif egwyddorion papur briffio rhagarweiniol ar ddatblygu, mannau cyhoeddus a marchnata er mwyn cefnogi'r gwaith gwella a'r cyfle datblygu rhannol yn rhan o Sgwâr y Castell.

 

Penderfynwyd:

 

1)            O'r opsiynau cyflwyno sydd ar gael, yr ymagwedd a ffefrir yw bod Cyngor Abertawe'n gweithredu fel datblygwr gyda rheolwr datblygiad allanol wedi'i sicrhau ar gyfer y gwaith gwella a'r cyfle datblygu rhannol yn Sgwâr y Castell;

 

2)            Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i baratoi papur briffio ar ddatblygu, mannau cyhoeddus a marchnata sy'n nodi cyfle datblygu, o ddewis yn Lleoliad 1 a 3 fel a nodir yn yr adroddiad, ond nid yw'n atal atebion dylunio blaengar a chyfiawnadwy sy'n cyd-fynd â'r amcanion a'r egwyddorion allweddol a nodwyd yn y briff rhagarweiniol.

67.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016/17. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes a oedd yn cyflwyno adolygiad o'r cynnydd a wnaed gan y cyngor o ran cyflawni'r blaenoriaethau, y camau gweithredu a'r targedau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol Cyflawni dros Abertawe ar gyfer 2015-2017, yn unol â gofyniad Rhan 1 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2016-2017.

68.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:

 

1.

Ysgol Gynradd Blaenymaes

Mr Herbert Paddison

2.

Ysgol Gynradd Clwyd

Mr Douglas Thomas

3.

Ysgol Gynradd y Crwys

Mr Phillip Place

4.

Ysgol Gynradd Penyrheol

Y Cynghorydd Andrew Stevens

5.

Ysgol Gynradd Pontarddulais

Mrs Jane Harris

6.

Ysgol Gynradd Talycopa

Mrs Rebecca O’Brien

7.

Ysgol Gynradd Waun Wen

Mrs Lynwen Barnsley

8.

YGG y Login Fach

Y Cyng. Wendy Lewis

9.

Ysgol Gyfun Treforys

Mrs Lisa Pike

 

69.

Adroddiad Blynyddol Cwynion 2016-17. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad er gwybodaeth a oedd yn adrodd am waith y Tîm Cwynion Corfforaethol, gan amlygu nifer, natur a chanlyniad cwynion yn erbyn yr Awdurdod, yn ogystal â manylion y gwersi a ddysgwyd a gwelliannau i'r gwasanaeth. Roedd Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:

 

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

Ø    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI);

Ø    Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA).

70.

Diweddariad am Roi'r Strategaeth Ddigidol ar Waith. pdf eicon PDF 435 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn darparu diweddariad am roi'r Strategaeth Ddigidol a phrosiectau cysylltiedig ar waith.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi'r cynnydd a wnaed;

 

2)            Parhau i gyflwyno'r strategaeth ddigidol.

71.

Rhaglen Ysgolion Yr 21Ain Ganrif - Adeilad Newydd I Ysgol Gynradd Gorseinon Ar Dir Ym Mharc Y Werin, Gorseinon, Abertawe. pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniad ynghylch a fyddai'r tir ym Mharc y Werin, Gorseinon yn briodol at ddibenion addysg. Ceisiwyd hefyd gadarnhau ymrwymiad y Rhaglen Gyfalaf i'r cynllun ar gyfer adeilad newydd Ysgol Gynradd Gorseinon yn amodol ar ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nid oes angen y tir a ddelir gan y cyngor ar hyn o bryd at y diben y mae'n cael ei feddiannu mwyach, sef tir ar gyfer tai a hamdden, fel a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad;

 

2)            Meddiannu'r tir ym Mharc y Werin, Gorseinon a nodir ar y cynllun yn Atodiad A yr adroddiad at ddibenion addysg o dan Adran 122 Deddf Llywodraeth Leol 1972, sef adeiladu adeilad ysgol gynradd newydd;

 

3)            Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel a fanylwyd gyda'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad, yn amodol ar ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru.

 

4)            Bydd yr ardal fach o dir oddeutu 3.212 erw, y bwriedir cynnwys maes pob tywydd ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) arni y dangosir ar y cynllun sydd wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad, yn ffurfio rhan o safle newydd yr ysgol ac felly bydd yn parhau i gael ei rheoli gan yr ysgol. Pan na fydd y maes pob tywydd a'r MUGA yn cael eu defnyddio gan yr ysgol, mae'n bosib i'r cyhoedd eu defnyddio - bydd y manylion hynny'n cael eu cynnwys yng nghytundeb defnydd y gymuned;

 

5)            Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes i gael mynediad i unrhyw ddogfennaeth angenrheidiol sydd ei hangen er mwyn cyflawni'r cynllun.

72.

Arweiniad wedi'i ddiweddaru am Gyllideb Gymunedol yr Aelodau. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol adroddiad a oedd yn ceisio diwygio'r meini prawf er mwyn cyflwyno'r cynllun Cyllideb Gymunedol ac i ddarparu arweiniad ychwanegol.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo arweiniad diwygiedig sy'n ymwneud â Chyllidebau Cymunedol.

73.

Adroddiad FPR7 - Buddsoddi cyfalaf mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yn asedau'r cyngor. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio rhaglen Re:fit Cymru Llywodraeth Cymru ac arian o Raglen Ariannu Cymru Llywodraeth Cymru (a reolwyd gan Salix Finance) a manteision ymagwedd o'r fath.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo astudiaeth dichonoldeb fanwl bellach y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig.

 

2)           Cymeradwyo'r cynlluniau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer Rhaglen Ariannu Cymru (WFP) ar yr amod eu bod yn bodloni'r achosion busnes priodol heb gost i'r cyngor.

74.

FPR7 - Prosiect Isadeiledd Ffordd y Brenin pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu a Gwerthusiadau Cyfalaf", i gyflwyno ac awdurdodi amrywiad ar gynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo diwygio'r prosiect arfaethedig a'i oblygiadau ariannol, a'i ychwanegu at y rhaglen gyfalaf.

75.

Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Adroddiad Arfarnu Opsiynau Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

76.

Adroddiad Arfarnu Opsiynau Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn amlinellu cefndir Adolygiad Comisiynu Diogelu'r Cyhoedd gan nodi'r casgliadau a'r argymhellion allweddol.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Derbyn casgliadau allweddol yr adroddiad a chymeradwyo cynigion y cyfleoedd masnachol i'w rhoi ar waith.