Lleoliad: Barham Centre, Mount Pisgah Chapel, Parkmill, Swansea. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a Chyflwyniadau. Cofnodion: Croesawodd
y cadeirydd bawb a oedd yn bresennol yng Nghapel Mount Pisgah a dechrau'r
cyfarfod. |
|||||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod Rhif 38 - Rwyf yn aelod o Bartneriaeth
Tirwedd Gŵyr - personol. Y Cynghorydd P Lloyd - Cofnod Rhif 37 a 38 - Rwyf
yn aelod o Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr a Phanel y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
– personol. Y
Cynghorydd K E Marsh - Cofnod Rhif 38 - Rwyf yn aelod o Bartneriaeth Tirwedd
Gŵyr - personol. |
|||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod Grŵp Llywio Partneriaeth AoHNE Gŵyr a
gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2016 fel
cofnod cywir. |
|||||||||||||||||
Materion yn codi o'r cofnodion. Cofnodion: Yn
dilyn y trafodaethau yn y cyfarfodydd blaenorol, rhoddodd Chris Howell,
Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am
ddarpariaeth a glendid toiledau ym Mhenrhyn Gŵyr. Nododd
fod yr adolygiad o ddarpariaeth toiledau a oedd yn cael ei gynnal gan yr
awdurdod wedi'i ohirio yn dilyn cyflwyniad Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru), a all
wneud darparu cyfleusterau cyhoeddus yn ofyniad statudol i awdurdodau
lleol. Byddai'r awdurdod felly'n gorfod
ymdrechu i gadw ei ddarpariaeth bresennol a gwella gweithio mewn partneriaeth,
megis y cytundeb yn Southgate lle mae caffi lleol
wedi cytuno i reoli'r toiledau. Ychwanegodd fod y trafodaethau â'r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol ynghylch trosglwyddo cyfleusterau'r toiledau wedi bod yn
llwyddiannus a bod y materion bellach yn cael eu harwain gan y Gwasanaethau
Cyfreithiol. Mynegodd bryder ynghylch y toiledau yn Oxwich ac amlygodd mai
Ystâd Penrhys sy'n berchen ar yr ail floc. Gofynnodd y grŵp nifer o gwestiynau i'r
Swyddog/Cynghorydd M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, ac
ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn
bennaf: - ·
Mynegwyd siom am nad oedd lefelau glendid wedi'u cynnal.
Esboniwyd bod y cyngor yn gweithredu systemau gwahanol ynghylch blociau
toiledau. Mae blociau toiledau Porth Einon yn cael eu rheoli gan weithiwr
sefydlog y cyngor sy'n byw'n lleol, gyda chyfleusterau eraill yn cael eu rheoli
gan weithwyr symudol y cyngor; ·
Holwyd a oedd y cyngor wedi cyfrifo'r incwm a wnaed o
dwristiaeth ac wedi gosod yr incwm hwnnw yn erbyn y gwariant, er mwyn gwneud i
Benrhyn Gŵyr ymddangos yn fwy deniadol i dwristiaid ac i gynnal
cyfleusterau. Esboniwyd bod rhaid i'r
adrannau weithio o fewn y gyllideb a ddarparwyd a bod yr awdurdod yn derbyn
ychydig iawn o incwm uniongyrchol gan dwristiaeth o'i gymharu â busnesau.
Felly, nid oedd hi'n bosib cyfrifo'r incwm yn erbyn gwariant; ·
Caiff incwm cyfalaf ei wario ar ysgolion yn bennaf ac
mae'r cyngor yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth er mwyn cynnal a gwella
darpariaeth toiledau; ·
Diffyg gallu i ymdrin â chyfnodau o alw uchel. Esboniwyd
y byddai'r cyngor yn newid y ffordd mae'n mynd ati i reoli rhai safleoedd er
mwyn ateb y galw ond nid oes modd newid yr adnoddau; ·
Mae'r cyngor yn gobeithio cwblhau'r cytundeb gyda'r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol sy'n ymwneud â'r toiledau yn Rhosili yn fuan; ·
Gwnaed ychydig iawn o fuddsoddi ym Mhenrhyn Gŵyr o
gymharu ag ardaloedd eraill yn Abertawe megis canol y ddinas, a mynegwyd pryder
y bydd rhaid i nifer mawr o breswylwyr ym Mhenrhyn Gŵyr dalu'r cyfraddau
uchaf; ·
Yn flaenorol, roedd gwahanol adrannau yn y cyngor yn
gyfrifol am lanhau'r traethau, toiledau, glanhau a gwastraff. Newidiodd hyn yn
ddiweddar a Phennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau sy'n gyfrifol am hyn bellach; ·
Er bod angen cyllid ychwanegol ar y gwasanaethau a'r
cyfleusterau, nid yw hyn yn bosib oherwydd toriadau cyllidebol. Derbyniad ffonau symudol a band llydan ym Mhenrhyn Gŵyr Er
fod y derbyniad mewn rhai ardaloedd ym Mhenrhyn Gŵyr wedi gwella, nododd
Roger Button bod y derbyniad mewn ardaloedd eraill yn wael iawn. |
|||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd. Rhaid i gwestiynau ymwneud â materion sydd
ar yr agenda ac ymdrinnir â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.. Cofnodion: Nid oedd dim. |
|||||||||||||||||
Cofnodion: Darparodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr y Cynllun Rheoli AoHNE Gŵyr, a oedd wedi'i fabwysiadu
fel polisi'r cyngor ac fel Canllawiau Cynllunio Atodol y cyngor ddydd Iau, 23
Mawrth 2017. Amlygodd yr
amcanion a'r camau gweithredu y cynllun lle ymddengys nad oes llawer neu ddim
cynnydd wedi digwydd. Ychwanegodd y byddai'r Grŵp Llywio yn adolygu'r
Cynllun Gweithredu y flwyddyn nesaf. Trafododd y
Grŵp Llywio gynnwys yr adroddiad gan gynnwys y canlynol; ·
Ni
welwyd cynnydd mewn 11 amcan allan o 39 - roedd hyn yn ganlyniad cadarnhaol; ·
Roedd
yr awdurdod wedi gwneud cynnydd da mewn perthynas â'r Cynllun Gweithredu
presennol; ·
Amcan
13 - Parhau i sgrinio a monitro ansawdd aer a dŵr ar draws yr AoHNE a
gofynion darparu'r ddau. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||||||||
Y Diweddaraf am y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. PDF 60 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad ar y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Amlygodd yr
adroddiad y gyllideb ar gyfer 2016/17 fel a ganlyn: Darparodd Llywodraeth
Cymru £55,000 ar gyfer 2016/17, gyda £15,000 ychwanegol wedi'i gadarnhau ym mis
Mawrth 2017. Mae'r arian hwn wedi'i wario erbyn hyn ac mae'r cyllid wedi'i
adfer gan Lywodraeth Cymru. Ariannwyd cyfanswm
o 20 prosiect gan gynllun SDF yn ystod 2016/17, gyda ffi reoli Dinas a Sir
Abertawe gwerth £5,500.
Ychwanegwyd nad yw Llywodraeth
Cymru wedi cadarnhau cyllideb SDF ar gyfer 2017/18 eto, ond awgrymwyd ar lafar
mai £55,000 fydd y cyllideb honno. Ariennir 8 prosiect
drwy gyllideb SDF ar gyfer 2017/18 ar hyn o bryd, ac mae 3 cais arall ar waith. Roedd ffigur y Cronfeydd
sydd heb eu neilltuo yn cynnwys ffi reoli Dinas a Sir Abertawe sydd werth
£5,500 (10%).
Trafododd y
grŵp yr wybodaeth yn yr adroddiad ac awgrymwyd y dylid darparu adroddiad
SDF yn flynyddol. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Darparu
adroddiad blynyddol gan y Panel SDF i'r Grŵp Llywio. |
|||||||||||||||||
Adroddiad ar Gynnydd Partneriaeth Tirwedd Gwyr. PDF 6 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad cynnydd ar Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG).
Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau PTG a nododd y byddai'r
bartneriaeth yn dod i ben ym mis Mawrth a bod hi'n bwysig bod etifeddiaeth yn
parhau. Fel rhan o'r adroddiad, dangosodd ffilm fer yn ymwneud â chasgliad o
straeon a gwybodaeth hanesyddol am y 189 o longddrylliadau o amgylch arfordir
Gŵyr, a chafodd adborth cadarnhaol iawn gan y grŵp. Roedd y ffilm yn
cynnwys plant o Ysgol Iau yr Hafod, Abertawe ac yn cynnig enghraifft o'r
canlyniadau y gallai'r PTG eu darparu. Cyfeiriodd y grŵp at ansawdd gwaith prosiect y PTG i ailadeiladu'r wal
gerrig sych ym Mewslade. Cyfeiriwyd hefyd at ddefnyddio'r arian grant sy'n weddill
mewn ffordd effeithiol, cyllideb/trefniant y dyfodol ar ôl mis Mawrth
2018. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y dylai Partneriaeth Tirwedd Gŵyr gael ei chynnwys
fel eitem reolaidd ar agendâu'r Grŵp Llywio yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Gordon
Howe o Gyfeillion Gŵyr adroddiad a oedd yn ymwneud â llygredd golau. Esboniodd fod y
gymdeithas wedi sylwi ar gynnydd mewn llygredd golau yn AoHNE Gŵyr am gryn
amser. Pwysleisiwyd hyn gan ganlyniadau'r gwaith ardderchog y mae Dinas a Sir
Abertawe wedi'i gwblhau ar ailosod goleuadau stryd dros y tair blynedd
diwethaf. Rydym yn deall bod y goleuadau
hyn wedi'u gosod yn arbennig i rwystro llygredd golau at i fyny yn ogystal ag
arbed ar gostau cynnal am eu bod yn defnyddio llai o drydan. Darparwyd nifer o
enghreifftiau o lygredd golau gan eu bod yn cael effaith amlwg ar Ardal Awyr
Dywyll (cynllun dynodedig cenedlaethol) AoHNE Gŵyr ac mae'n ymddangos nad
ydynt yn cydymffurfio ag 'Arweiniad Goleuo AoHNE Gŵyr' ardderchog Dinas a
Sir Abertawe, a ddaeth i rym oddeutu 10 mlynedd yn ôl. Ychwanegwyd nad
oedd yr enghreifftiau yn derfynol a bod rhai ohonynt yn waeth nag eraill. Fodd
bynnag, esboniodd fod y rhain yn enghreifftiau sy'n mynd yn groes i'r dynodiad
awyr dywyll a'r Arweiniad Goleuo. Casglodd fod dim amheuaeth bod sawl
enghraifft arall yn yr AoHNE, a achosir yn gyffredinol gan ddiffyg
gwerthfawrogiad effaith yr Arweiniad Goleuo, a pheidio â chydymffurfio ag ef.
Nododd safle gwersylla Pitton Cross fel cynllun
cywiro golau ardderchog, a gwblhawyd ychydig o flynyddoedd yn ôl, a bod y
cynllun wedi gwneud gwelliannau buddiol sylweddol i'r tirlun a'r awyr yn ystod
y nos. Trafododd y Grŵp Llywio gynnwys
yr adroddiad, yn enwedig y llygredd golau a achoswyd gan y Maes Ymarfer Gyrru
Golff ym Machynys, Llanelli; gweithio ar y cyd ag AoHNE yng Nghymru er mwyn
cyflawni dynodiad awyr dywyll; a gwerthfawrogi'r awyr dywyll ym Mhenrhyn
Gŵyr, gan gynnwys gofyn i dîm AoHNE ddod o hyd i'r hyn y bydd angen ei
wneud i ddynodi Penrhyn Gŵyr fel Gwarchodfa Awyr Dywyll gofrestredig
gyda'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y dylai Tîm AoHNE
Gŵyr ddod o hyd i'r hyn y bydd angen ei wneud er mwyn i Benrhyn Gŵyr
gael ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll cofrestredig gyda'r Gymdeithas Awyr
Dywyll Ryngwladol. |
|||||||||||||||||
Partneriaeth AoHNE Gwyr - Etholiadau Blynyddol y Fforwm a'r Grwp Llywio. PDF 57 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr adroddiad a oedd yn amlinellu'r trefniadau ar
gyfer Fforwm Blynyddol y Bartneriaeth a gynhelir yn Neuadd Bentref Reynoldston
nos Lun, 26 Mehefin am 7pm. Roedd yr
adroddiad hefyd yn manylu ar rôl y Grŵp Llywio a gofynion yr aelodau. Ychwanegwyd bod y
Grŵp Llywio wedi ymddwyn fel corff rheoli Partneriaeth yr AoHNE, sy'n
cynnwys hyd at 6 cynghorydd, 2 cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru a 10
cynrychiolydd arall. Ym Mis Mai, byddai'r
cyngor yn gwahodd enwebiadau ar gyfer ethol 10 cynrychiolydd arall, gyda
gwybodaeth yn cael ei hanfon at aelodau Partneriaeth AoHNE ac yn cael ei
hyrwyddo drwy'r cyfryngau lleol. Dwy flynedd fyddai hyd y swyddi. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||||||||
Y diweddaraf am Dirweddau Dyfodol Cymru. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Arweinydd
Tîm AoHNE Gŵyr ddiweddariad ar lafar am Dirweddau'r Dyfodol Cymru. Soniodd am y cynnydd ddiweddar a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i greu gweithgor, wedi'i gadeirio gan Dafydd Ellis-Thomas A.C.
a rhoddodd wybod i'r grŵp fod rhaid canslo digwyddiad rhandeiliaid
a drefnwyd ar gyfer canol mis Mawrth. Ychwanegodd y
byddai'r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad ychwanegol i randdeiliaid wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai yng ngogledd
Cymru. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Y
dylai Arweinydd Tîm AoHNE Gŵyr raeadru'r adroddiad terfynol i'r Grŵp
Llywio. |
|||||||||||||||||
Costau Bws Gostyngol. Cofnodion: Nododd John Davies,
Bay Trans, fod arbrawf am flwyddyn wedi'i drefnu i leihau costau bws ar gyfer teithiau
un ffordd o Benrhyn Gŵyr i Abertawe. Bydd costau bws ar gyfer teithio i
gyfeiriad y dwyrain 30% yn rhatach, a'r syniad oedd denu pobl i ddefnyddio'r
seddi gwag. Byddai ymgyrch
farchnata yn amlygu'r newid hwn, a fyddai'n annog trafnidiaeth gynaliadwy . |