Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran
graffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Derbyniwyd y cwestiwn canlynol gan aelod o'r cyhoedd. CWESTIWN 1: At ddibenion yr adroddiad hwn/y drafodaeth hon,
sut mae 'tyfu cymunedol' yn cael ei ddiffinio? Nid yw'r adroddiad ei hun yn ceisio sefydlu diffiniad o dyfu
cymunedol na diffiniad o dyfu cymunedol ar gyfer Cyngor Abertawe. Gall
cyfranogiad cymunedol fod ar sawl ffurf, o anffurfiol i ffurfiol ac mae'n
cynnwys tyfu bwyd, bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd. CWESTIWN 2: Beth mae'r Cyngor yn bwriadu'i wneud i annog
lefelau newydd o ddiddordeb cymunedol mewn tyfu cymunedol; Sut mae'n mynd i
ledaenu'r gair y tu hwnt i'r grwpiau sydd eisoes yn ymwneud â hyn? Mae'r Cyngor yn gweinyddu nifer o grantiau a gall grwpiau
cymunedol wneud cais am help i fynd i'r afael â thlodi bwyd, cefnogi tyfu
cymunedol, mannau gwyrdd a phrosiectau bioamrywiaeth. Pan fydd grantiau'n cael
eu lansio, cânt eu hyrwyddo a'u rhannu'n benodol i sefydliadau perthnasol. Mae
timau'n cysylltu â thîm cyhoeddusrwydd y Cyngor i rannu grantiau yn y parth
cyhoeddus ac ar y cyfryngau cymdeithasol. CWESTIWN 3: A oes fframwaith adrannol/sefydliadol clir ar
gyfer datblygu prosiectau newydd, o 'ddiddordeb cymunedol' hyd at sefydlu
prosiectau? Mae'r Cyngor yn annog ymagwedd "dim drws ffrynt anghywir" o ddarparu cefnogaeth i grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn tyfu cymunedol. Mae hyn yn caniatáu i grwpiau neu unigolion ddefnyddio'r cysylltiadau sydd ganddynt eisoes â'r Cyngor. Mae swyddogion ar draws adrannau gwahanol yn cydweithio i ddarparu cefnogaeth fel y bo'n briodol ar gyfer pob cynnig am brosiect. |
|
Adroddiah Tyfu Cymunedol PDF 228 KB Cllr Alyson Anthony – Aelod y Cabinet – Lles Cllr Cyril Anderson – Aelod y Cabinet - Gymunedau Gwasanaethau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cyng. Cyril Anderson a nifer o swyddogion yn bresennol i roi
trosolwg o'r wybodaeth a roddwyd ganddynt ac i ateb cwestiynau gan aelodau'r
grŵp. ·
Rhoddodd
Aelod y Cabinet drosolwg o'r gwaith a wnaed dros 5 maes gwahanol o'r Cyngor
(Tîm Datblygu Trechu Tlodi, Cydlynu Ardaloedd Lleol, Gwasanaethau Diwylliannol,
Cadwraeth Natur a'r Tîm AoHNE a'r Gwasanaethau Eiddo) a'r buddion y mae'r
gwaith hwn wedi'u cefnogi gan gynnwys cyfrannu at amcanion corfforaethol mynd
i'r afael â thlodi, newid yn yr hinsawdd ac adfer natur. ·
Gofynnodd
Aelodau'r Gweithgor gwestiynau ynghylch perllannau cymunedol a'r gefnogaeth
sydd ar gael i'w datblygu a'u cynnal. ·
Trafodwyd
hyrwyddo a nodi safleoedd tyfu posib. Mae'r Cyngor yn cynnal ymarferion mapio a
all nodi safleoedd posib. Yn gyffredinol, mae prosiectau tyfu cymunedol yn
deillio o ddiddordeb cychwynnol gan gymuned. ·
Gofynnwyd
cwestiynau am gynlluniau rhannu gerddi sy'n caniatáu i erddi'r rheini na allant gynnal eu gerddi gael eu
defnyddio ar gyfer tyfu. Er nad yw'r Cyngor yn cynnig hyn, mae
mudiadau/prosiectau trydydd sector yn gwneud hynny. ·
Trafodwyd
rheolaeth rhandiroedd a rhoddwyd ystyriaeth i sut mae rhandiroedd yn cael eu
monitro, a lleiniau gwag yn cael eu hysbysebu. ·
Trafodwyd
yr anghenion posib am gymorth i ffermwyr mewn perthynas â'r Cynllun Ffermio
Cynaliadwy newydd arfaethedig sy'n cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru. ·
Trafodwyd
Tyfu Cymunedol mewn ysgolion a chrybwyllwyd cynrychiolaeth ar gyrff
llywodraethu ysgolion. |
|
Trafodaeth a Chasgliadau Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r
sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod y Cabinet neu, os yw'n
briodol, adroddiad i'r Cabinet: Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y
Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn
hon)? Oes gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r
sesiwn hon? Oes unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu sylw
Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon? Cofnodion: O'u
trafodaethau, daeth Aelodau'r Gweithgor i'r casgliadau a'r argymhellion
canlynol sy'n cael eu crynhoi isod: 1.
Argymhellodd yr aelodau ymagwedd neu strategaeth gydlynol ar gyfer tyfu
cymunedol gydag un adran yn goruchwylio. 2. Gofynnodd
yr Aelodau i'r Cyngor ystyried cynllun lle mae'r rheini nad ydynt yn gallu
cynnal neu ddefnyddio'u gerddi eu hunain ar gyfer tyfu yn gallu eu cynnig i
aelodau eraill o'r gymuned neu grwpiau cymunedol at ddiben dyfu, yn gyfnewid am
gyfran o'r cynnyrch. 3. Roedd yn
annog y Cyngor i rannu safleoedd sydd â photensial ar gyfer tyfu cymunedol gyda
Chynghorwyr ac aelodau wardiau. 4. Gofynnodd
am rannu mwy o wybodaeth â Chynghorwyr ar y prosiect "Yn Wyllt am eich
Ward". 5. Gofynnodd
aelodau i'r Cyngor ystyried rhyw fath o adroddiad blynyddol ar gyfer pob
cymdeithas rhandiroedd. 6. Mae
aelodau'n dymuno annog ysgolion i benodi llywodraethwr natur a bioamrywiaeth. Yn
dilyn y cyfarfod hwn, caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth Gynullydd y
Gweithgor at Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu
meddyliau ac argymhellion y Gweithgor. |
|