Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Stuart Rice a'r Cyng. Alan Jeffrey fuddiant personol yn eitem 6.

13.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

14.

Cofnodion pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

15.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

16.

Asedau Cymunedol - Gwasanaethau Diwylliannol pdf eicon PDF 166 KB

Gwahoddir y Cynghorydd Robert Francis Davies (Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth), Tracey McNulty (Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol) a Mark Wade (Cyfarwyddwr Lle) i fod yn bresennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Aelodau'r Cabinet, Robert Francis Davies, Tracey McNulty (Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol) a Jamie Rewbridge (Rheolwr Strategol, Partneriaethau Hamdden, Iechyd a Lles) am ddarparu adroddiad ysgrifenedig ac am ddod i'r cyfarfod i drafod agweddau ar drosglwyddo asedau cymunedol (TAC) mewn perthynas â'r Gwasanaethau Diwylliannol. Roedd y drafodaeth yn seiliedig ar set graidd o gwestiynau a anfonwyd cyn y cyfarfod ynghylch y TAC sy'n cael eu trosglwyddo neu sydd wedi'u trosglwyddo o fewn cyfarwyddiaeth y gwasanaethau diwylliannol.

 

Bydd nodiadau llawn a manwl o'r sesiwn hon yn ffurfio rhan o'r adroddiad canfyddiadau y bydd y panel yn ei ystyried wrth drafod ei argymhellion a'i gasgliadau tuag at ddiwedd yr ymchwiliad.

17.

Cynllun Prosiect pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Bydd y Panel yn cwrdd y tro nesaf am 20 Mai, lle byddant yn edrych ar yr atebion a dderbyniwyd i e-bost gyda set o gwestiynau a anfonwyd i'r holl Gynghorwyr etholedig ac i Gynghorau Cymuned.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.55pm

 

 

Cadeirydd