Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: MS Teams

Cyswllt: Scrutiny Officer 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 5 Awst 2024 yn gofnod cywir.

 

4.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Adroddiad Terfynol Drafft Ymchwiliad Craffu Trosglwyddo Asedau Cymunedol pdf eicon PDF 29 KB

a) Sylwadau a dderbyniwyd gan gyfranwyr at y drafft

 

b) Adroddiad Terfynol Drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Panel adroddiad terfynol drafft a oedd yn cynnwys canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion y Panel Ymchwilio i'w cymeradwyo.

 

Roedd yr adroddiad drafft wedi'i ddosbarthu i bawb a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r Panel Ymchwilio a darparwyd y sylwadau a dderbyniwyd i Aelodau'r Panel.

 

Gwahoddodd Cynullydd y Panel adborth/sylwadau ar gynnwys yr adroddiad terfynol drafft.

 

Gan ystyried y sylwadau ar yr adroddiad drafft, roedd y Panel yn fodlon bod yr adroddiad yn adlewyrchiad da o'r dystiolaeth a gasglwyd ac nid ystyriwyd bod angen diwygiadau pellach.

 

Diolchodd y Cynullydd i Aelodau’r Panel a phawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Croesawyd yr adroddiad gan yr Aelodau Cabinet a oedd yn bresennol a byddent yn darparu ymateb maes o law.

 

Nododd Aelodau'r Panel, yn amodol ar gytuno ar yr adroddiad, y byddai'r Cynullydd yn ei gyflwyno i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ar 19 Tachwedd, ac yn gofyn i'r Pwyllgor gymeradwyo'i gyflwyno i'r Cabinet ar gyfer penderfyniad. Trefnwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod Cabinet ar 12 Rhagfyr. Byddai ymateb ffurfiol gan y Cabinet yn dilyn, a byddai'r Panel yn ailgynnull rhwng 9 a 12 mis ar ôl penderfyniad y Cabinet i wirio a yw'r argymhellion y cytunwyd arnynt wedi'u rhoi ar waith.

 

PENDERFYNWYD cytuno ar adroddiad terfynol drafft yr ymchwiliad.