Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2024 yn gofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Agweddau cyfreithiol ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol PDF 57 KB Agweddau cyfreithiol ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Yn bresennol fydd Debbie Smith (Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol) a Sally-Ann Evans (Arweinydd Eiddo cyfreithiwr) Cofnodion: Gwahoddodd y Panel Debbie Smith (Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol) a
Sally-Ann Evans (Cyfreithiwr Arweiniol - Eiddo) i'r cyfarfod i drafod agweddau
cyfreithiol ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Aethant i'r afael â chyfres o
gwestiynau a anfonwyd atynt cyn y cyfarfod a oedd yn gofyn am rôl yr adran gyfreithiol
yn y broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol, pwynt cyswllt unigol, yr heriau maent
yn eu hwynebu a sut y gellid gwella'r broses. Bydd manylion y drafodaeth ac unrhyw faterion a godwyd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad canfyddiadau. |
|
Panel Ymchwiliad Craffu - Asedau Cymunedol Adroddiad Canfyddiadau PDF 149 KB Adroddiad Canfyddiadau - trafodaeth ynglŷn â chasgliadau ac argymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Prif ffocws y
cyfarfod hwn oedd amlygu rhai o'r materion allweddol y byddai'r Panel yn hoffi
eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol i'r Cabinet. Trafododd y panel
y canfyddiadau allweddol sydd wedi'u hamlygu gan waith casglu tystiolaeth y
Panel. Bydd y materion a
amlygwyd bellach yn cael eu nodi a dangosir tystiolaeth ohonynt mewn adroddiad
i'r Cabinet. Caiff fersiwn ddrafft o'r adroddiad hwn ei thrafod yng
nghyfarfod nesaf y Panel. Daeth y cyfarfod
i ben am 6.00
pm Cadeirydd |