Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Dim

26.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

27.

Cofnodion pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai yn gofnod cywir.

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

29.

Asedau Cymunedol - Ymgynghori â Rhanddeiliaid pdf eicon PDF 86 KB

Cyfarfod â Rhanddeiliaid gan gynnwys y rhai sydd wedi bod drwy'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn Abertawe.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cysylltwyd â nifer o randdeiliaid a oedd wedi bod drwy’r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol a chawsant eu gwahodd naill ai i fynd i’r cyfarfod neu i gyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig. Clywodd y Panel oddi wrth Parc Coed Gwilym, Clwb Pêl-droed Pen-lan, Parc Underhill, Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe.

 

Bydd manylion y drafodaeth ac unrhyw faterion a godwyd yn rhan o'r nodiadau manwl a fydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad canfyddiadau y bydd aelodau'r Panel yn eu hystyried tua diwedd yr ymchwiliad.

30.

Cynllun Prosiect pdf eicon PDF 108 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun prosiect.  Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 23 Gorffennaf 2024 am 4.30pm a bydd yn edrych ar agweddau cyfreithiol ar drosglwyddo asedau cymunedol ac adroddiad canfyddiadau'r ymchwiliad.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.45pm