Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2024 yn gofnod cywir. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Ymgynghori â Rhanddeiliaid - Cynghorwyr Etholedig a Chynghorau Cymuned PDF 104 KB Bydd y Panel Ymchwilio yn ystyried y cyflwyniadau a dderbyniwyd gan Gynghorwyr etholedig a Chynghorau Cymuned. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cysylltwyd â’r
holl Gynghorwyr etholedig a Chynghorau Cymuned drwy e-bost a rhoddwyd Cais am
Dystiolaeth ar we-dudalennau’r Cyngor ar ran y Panel Ymchwilio, gan ddatgan: Hoffai'r Panel
Ymchwiliad Craffu Trosglwyddo Asedau Cymunedol gael barn y cyhoedd, Cynghorwyr
a Chynghorau Cymuned ar draws Abertawe am eich profiad(au)
o Drosglwyddo Asedau Cymunedol.Mae gan y Panel nifer
o faterion y maent yn chwilio am adborth arnynt a byddent yn croesawu eich barn
ar bob un neu rai ohonynt (gweler Cylch Gorchwyl yr Ymchwiliad sydd ynghlwm am
ragor o wybodaeth). Hoffai'r Panel glywed eich barn ynghylch y canlynol: a. Beth aeth yn dda? b. Beth oedd fwyaf heriol? c. Pa risgiau a
rhwystrau wnaethoch chi eu hwynebu? Sut aethoch ati i oresgyn neu liniaru'r
risgiau a rhwystrau? ch. Pa arweiniad, cyngor
a chymorth a roddwyd i chi? Gan gynnwys mewn perthynas â chyllid a gwneud cais
am grantiau? d. Beth fu’r prif fuddion cymunedol i’r
trosglwyddiad yr ydych wedi’i ganfod ers hynny? dd. A ddarganfuwyd unrhyw anfanteision neu heriau
penodol ers y trosglwyddo? e. Pa
ymgynghoriad wnaethoch chi (neu a gafodd) ei gynnal ynghylch y trosglwyddiad? f. A ydych yn
meddwl y gellid gwella'r broses trosglwyddo asedau, os felly, sut? Derbyniwyd naw
cyflwyniad ac roedd y rhain yn cynnwys Cynghorau Cymuned, Cynghorwyr,
sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd. Bydd manylion y
drafodaeth ac unrhyw faterion pellach sy'n codi yn llunio rhan o'r nodiadau
manwl a fydd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad canfyddiadau y bydd aelodau'r
Panel yn eu hystyried tua diwedd yr ymchwiliad. |
|
Bydd y Panel Ymchwilio yn ystyried yr ymchwil desg sy'n edrych ar arfer mewn mannau eraill mewn perthynas â Throsglwyddo Asedau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Stuart Rice adroddiad ymchwil wrth y ddesg a oedd yn amlinellu rhai enghreifftiau o arferion gwahanol mewn mannau eraill gan gynnwys er enghraifft Southampton, Caerdydd a Bryste. Bydd casgliadau’r Panel yn dilyn y drafodaeth hon yn rhan o adroddiad canfyddiadau’r Panel. |
|
Cynllun Prosiect yr Ymchwiliad PDF 107 KB Cofnodion: Nodwyd y cynllun
prosiect. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.30pm |