Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Gwahoddwyd y Cynghorydd David Hopkins (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad), Mark Wade (Cyfarwyddwr Lle) a Geoff Bacon (Pennaeth Gwasanaethau Eiddo) i fod yn bresennol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y panel
i Aelod y Cabinet Mr Hopkins a Geoff Bacon (Pennaeth Eiddo Corfforaethol) am
ddarparu adroddiad ysgrifenedig ac am fod yn bresennol yn ystod y cyfarfod i
drafod agweddau diwydrwydd dyladwy, risgiau, rhwystrau a chefnogaeth mewn
perthynas â Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC). Rhoddwyd diolch hefyd i Aelod
y Cabinet y Cyng. Francis Davis a'r Swyddog Jamie Rewbridge (Rheolwr Strategol
Partneriaethau Hamdden) am fod yn bresennol yn ystod y cyfarfod ac am drafod y
materion hynny sy'n ymwneud ag agweddau o'r gwasanaethau diwylliannol. Roedd y
drafodaeth yn seiliedig ar gyfres graidd o gwestiynau a anfonwyd cyn y
cyfarfod. Bydd nodiadau llawn a manwl o'r sesiwn hon yn ffurfio rhan o'r adroddiad canfyddiadau y bydd y panel yn ei ystyried wrth drafod ei argymhellion a'i gasgliadau tuag at ddiwedd yr ymchwiliad. |
|
Cofnodion: Cytunwyd y
byddai'r cyfarfod ar 25 Mawrth yn cael ei ohirio a byddai'r eitemau hyn yn cael
eu trafod yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 22 Ebrill 2024. Daeth y cyfarfod
i ben am 6.00pm Cadeirydd |