Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiah Chyswllt Cwsmeriaid PDF 283 KB Y Cynghorydd Andrea Lewis - Drawsnewid Gwasanaethau Sarah Lackenby - Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol Cofnodion: Roedd Sarah Lackenby a Liz Shellard yn bresennol i roi trosolwg o'u sesiwn
friffio ac i ateb cwestiynau gan aelodau'r grŵp. Trafodwyd y materion
canlynol: ·
Rhoddodd swyddogion drosolwg o
berfformiad y Cyngor a chynlluniau ar gyfer datblygu sianeli cyswllt
cwsmeriaid, diweddariad ar brosiectau trawsnewid cyswllt cwsmeriaid a'r
Fframwaith Strategol Cyswllt Cwsmeriaid newydd. ·
Darparwyd data ymdrin â
galwadau gan gynnwys galwadau a derfynwyd gan y galwr a gwybodaeth am gyswllt
wyneb yn wyneb. ·
Trafodwyd galwadau a derfynwyd
gan y galwr a rhannodd aelodau'r profiad o fethu cyrraedd yr adran berthnasol
ar ôl cael eu trosglwyddo. ·
Mae'r Rhaglen Gwella Mynediad i
Gwsmeriaid yn cynnwys system teleffoni wedi'i huwchraddio, awtomeiddio prosesau
a thrafodion arferol ac ehangu Cyfrif Abertawe ymhellach. Caiff y rhain eu
cyflwyno dros y 18 mis nesaf. ·
Roedd 23% o alwadau drwy'r
switsfwrdd awtomataidd yn cynnwys gramadeg anhysbys. Gwrandawir ar bob un am
welliannau pellach ac mae'r opsiwn o siarad â rhywun ar gael hefyd. ·
Mae cwynion ffurfiol ar
systemau ymdrin â galwadau'n gymharol isel, fodd bynnag, mae'r Aelodau wedi
derbyn cwynion a cheisiadau am gymorth i gysylltu. ·
Er gwaethaf rhai toriadau yn
2022/2023 mae system Jabber yn parhau i weithio'n dda. ·
Mae'r Tîm Trechu Tlodi a'i Atal
yn cefnogi cynhwysiad digidol drwy'r Cynllun Gweithredu Cynhwysiad Digidol ond
gall staff y ganolfan gyswllt hefyd helpu pobl i lenwi ffurflenni wyneb yn
wyneb neu dros y ffôn neu ddarparu copi papur os oes un ar gael; cynigir y
gwasanaeth hwn hefyd mewn llyfrgelloedd. ·
Bydd y Siarter Cwsmeriaid a
Safonau Gwasanaeth yn mynd yn fyw ar 1 Ebrill, a chyfathrebir â staff cyn hyn,
a bydd gwaith monitro'n dilyn unwaith y bydd systemau a phrosesau ar waith. |
|
Trafodaeth a Chasgliadau Gofynnwyd i Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon i'w cynnwys yn llythyr y Cynullydd i Aelod y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet:
Beth hoffech ei ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon)? Oes gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon? Oes unrhyw faterion pellach yr hoffech dynnu sylw Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon? Cofnodion: O'u
trafodaethau, daeth Aelodau'r Gweithgor i'r casgliadau canlynol a gwnaethant yr
argymhellion canlynol: 1.
Mae aelodau'n gofyn bod staff yn parhau i
gysylltu ag adrannau ac anfon negeseuon atgoffa iddynt er mwyn cynnal manylion
cyswllt cywir. 2.
Gwelliannau i negeseuon 'nid wyf yn y
swyddfa'. 3.
Ymwybyddiaeth o'r rheini sydd â nam ar eu
clyw sy'n ei chael hi'n anodd gwahaniaethu rhwng "two" a
"three" ar negeseuon awtomataidd Saesneg. 4.
Cyflwyno'r system ciwiau galwadau ffôn
ymhellach a'i monitro. 5.
Gweithredu system galw'n ôl. 6.
Dylai'r holl staff fod yn ymwybodol o'r
Siarter Cwsmeriaid a Safonau Gwasanaeth, a bydd gwiriadau ar waith i sicrhau ei
bod yn cael ei dilyn. 7.
Rhaid i negeseuon ymateb awtomataidd yn dilyn
ymholiad preswylydd drwy e-bost neu dros y we gynnwys pa mor hir y gallai
ymateb ei gymryd, yn unol â'r safonau gwasanaeth newydd. 8.
Mae aelodau'n gofyn am ragor o wybodaeth am
gyfraddau salwch gwasanaethau cyswllt cwsmeriaid. 9.
Mae aelodau'n gofyn am wybodaeth am y defnydd
wyneb yn wyneb o swyddfeydd tai lleol. 10. Hoffai'r
Aelodau gael diweddariad gan y Tîm Trechu Tlodi a'i Atal ynghylch cynnydd ar y
fframwaith strategol cynhwysiad digidol a'r strategaeth trechu tlodi newydd. 11. Roedd
yn well gan yr Aelodau'r defnydd o'r gair "preswylwyr" pan fo'n
briodol, yn hytrach na "chwsmer". Yn
dilyn y cyfarfod hwn, caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth Gynullydd y
Gweithgor at Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu
meddyliau ac argymhellion y Gweithgor. Daeth y cyfarfod i ben am 10.44am |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau PDF 128 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet -- Drawsnewid Gwasanaethau PDF 230 KB |