Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr Andrew Stevens, Paxton Hood-Williams a Chris Evans fuddiant personol â Chofnod Rhif 4. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiah Hawliau Tramwy Cyhoeddus PDF 664 KB Y Cyng. Andrew Stevens – Aelod y
Cabinet Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd Paul Meller – Rheolwr
Adran Amgylchedd Naturiol Chris Dale – Arweinydd Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cofnodion: ·
Manteision
hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl,
manteision cymdeithasol, hwb i dwristiaeth ac ymwybyddiaeth o dreftadaeth.
Codwyd pwysigrwydd y Cod Cefn Gwlad. ·
Mae
dyletswyddau statudol y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn cynnwys rheoli, cynnal a
chadw, amddiffyn, nodi a hyrwyddo hawliau tramwy cyhoeddus, llunio cynllun
mynediad i gefn gwlad a gweithio gyda'r adran gynllunio. ·
Mae
gwaith y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad yn cael ei oruchwylio gan Fforwm Mynediad
Lleol Abertawe. Maent yn rhoi cyngor i'r cyngor ac i Gyfoeth Naturiol Cymru. ·
Mae
gan hawliau tramwy cyhoeddus gyllideb cynnal a chadw o oddeutu £45,000 y
flwyddyn gyda chyllid grant ychwanegol lle bo hynny'n bosib. Trafodwyd pwysau
ar y gyllideb a staffio a gofynnwyd am ragor o eglurdeb ynghylch materion
ariannol. ·
Mae
gwahaniaethau rhwng y rheoliadau Cymraeg a Saesneg o ran y ffordd y mae'r
gorchmynion dargyfeirio'n cael eu hysbysu. ·
Trafodir
gweithio o fewn yr adran fewnol ac asiantaethau allanol lle bo hynny'n bosib. ·
Ymgynghorir
y tîm wrth wneud gwaith cynllunio a pharatoi ymlaen llaw ar ddatblygiadau
newydd i sicrhau bod y rhwydwaith llwybrau'n cael ei gynnal a'i gadw a'i wella,
a'u bod wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith presennol a bod y cynllun datblygu'n
cael ei adolygu. |
|
Trafodaeth a Chasgliadau Gofynnwyd i
Gynghorwyr drafod casgliadau sy'n codi o'r sesiwn
hon i'w cynnwys
yn llythyr y Cynullydd i Aelod
y Cabinet neu, os yw'n briodol, adroddiad i'r Cabinet: Beth hoffech ei
ddweud am y mater hwn wrth Aelod y Cabinet (beth yw'ch casgliadau sy'n codi o'r sesiwn hon? Oes gennych argymhellion i Aelod y Cabinet sy'n codi o'r sesiwn hon? Oes unrhyw faterion
pellach yr hoffech dynnu sylw
Pwyllgor y Rhaglen Graffu atynt sy'n codi o'r sesiwn hon? Cofnodion: Daeth aelodau'r Gweithgor i'r casgliadau canlynol a
gwnaed yr argymhellion canlynol: 1.
Canmolodd yr aelodau'r Tîm Mynediad i Gefn
Gwlad am ddarparu gwasanaeth ardderchog gydag adnoddau cyfyngedig. 2.
Gofynnodd yr aelodau i Aelod y Cabinet lobïo
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru mewn
perthynas â gorchmynion dargyfeirio. 3.
Gofynnodd y Gweithgor am wybodaeth ariannol ychwanegol. 4.
Ystyried ymagwedd fwy integredig i'r
rhwydwaith Teithio Llesol a'r map Hawliau Tramwy Cyhoeddus. 5.
Gweithio mewn partneriaeth lle bo hynny'n
bosib, gan gynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r timau Teithio Llesol i
fwyafu'r cyfleoedd i rannu adnoddau. 6.
Anogir cynghorwyr i hyrwyddo llwybrau lleol. 7.
Datblygiad parhaus o farchnata lleol ac i
gynnwys yr orsaf fysus, yr orsaf drenau a mannau sy'n boblogaidd ymhlith
ymwelwyr ar gyfer hysbysebu. 8.
Cydweithio rhwng y Tîm Mynediad i Gefn Gwlad
a'r adran dwristiaeth i hyrwyddo gwyliau actif. 9.
Ystyried cynlluniau prentisiaeth i helpu gyda
gwaith yn yr awyr agored a chysgodi swyddogion. 10. Os
bydd nifer yr ymwelwyr a'r defnydd yn cynyddu, gallai hyn ddangos yr angen am
gyllidebau uwch. Yn dilyn
y cyfarfod hwn, caiff llythyr ei ysgrifennu oddi wrth gynullydd y gweithgor i
Aelod y Cabinet sy'n crynhoi'r drafodaeth ac yn amlinellu meddyliau ac
argymhellion y gweithgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 3.31pm. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd PDF 127 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd PDF 262 KB |