Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

78.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

79.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

80.

Cofnodion pdf eicon PDF 194 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion yn amodol ar ddau newid sy'n ymwneud â llythrennau blaen y bobl a oedd yn bresennol.

 

81.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

82.

Adroddiad Archwilio Cymru - ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru pdf eicon PDF 134 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Carol Morgan – Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd David Hopkins, Carol Morgan, Tom Price a Jon Roberts yn bresennol i roi trosolwg o ymateb y Cyngor i'r adroddiad.

·       Mae'r adroddiad yn nodi pedwar argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru a phedwar argymhelliad ar gyfer Awdurdodau Lleol.

·       Bydd disgwyl i arolygwyr adeiladau fodloni gofynion cofrestru a chymhwysedd drwy Gynllun Asesu Cymhwysedd. Ar hyn o bryd mae arolygwyr y Cyngor yn cynnal arholiadau i fodloni'r gofyniad hwn. Bydd cadw staff ac olyniaeth yn bwysig ar gyfer y dyfodol.

·       Mae rheolaeth ariannol yn cael ei thrafod gyda chynlluniau i roi elw yn y dyfodol tuag at gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi.

·       Caiff cyfleoedd i gryfhau gwydnwch drwy gydweithio a datganoli cyfrifoldeb i'r rhanbarthau eu harchwilio a threfnwyd cyfarfodydd gyda Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru a Llywodraeth Cymru.

·       Roedd archwilwyr yn fodlon gyda'r ffordd y mae'r Cyngor yn penderfynu ar ei ffïoedd sy'n unol â rheoliadau.

·       Mae rheoli adeiladu'n gweithio mewn partneriaeth â'r adran gynllunio, fodd bynnag, bydd hyn yn cynyddu wrth gyflwyno'r tri cham Gateway a gyflwynir yn yr adroddiad.

·       Caiff yr adroddiad blynyddol rheoli adeiladu bellach ei gyflwyno i'r Panel hwn yn y dyfodol.

 

83.

Adolygiad Blynyddol Amcanion Lles pdf eicon PDF 139 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyng. David Hopkins a Richard Rowlands yn bresennol i roi trosolwg o'r adolygiad hwn.

·       Pwrpas yr adolygiad hwn yw gwirio bod amcanion lles y Cyngor yn parhau i fod yn addas i'r diben. Gwneir hyn drwy edrych am unrhyw newidiadau i'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddiwyd i benderfynu ar yr amcanion.

·       Daeth yr adolygiad hwn i'r casgliad nad oedd angen unrhyw newidiadau i'r amcanion, ac felly mae amcanion lles y Cyngor yn parhau heb newid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

84.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2023/2024 pdf eicon PDF 159 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. David Hopkins a Richard Rowlands yr adroddiad.   Nodwyd y canlynol:

·       Mae'r perfformiad cyffredinol yn dda, gyda rhai heriau, yn enwedig o ran y gweithlu a gofal cymdeithasol.

·       Mae fformat mwy newydd yr adroddiad yn ceisio cyfuno'r data ansoddol a meintiol mewn ffordd fwy crwn sy'n cynnwys risgiau diogelu corfforaethol.

·       Mae risgiau corfforaethol yn dangos y sgôr risg cynhenid, sef cyn rhoi mesurau rheoli ar waith, a'r sgôr risg weddilliol, sef unwaith y bydd y mesurau rheoli wedi cael eu rhoi ar waith.

·       Mae risg cynhenid yr argyfwng costau byw yr un peth â'r risg weddilliol sy'n dangos nad yw mesurau rheoli yn gallu lleihau'r risg honno.

·       Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Pobl a Llywodraeth Cymru i gael dros 60 o unedau ychwanegol o lety dros dro a cheir rhagor o wybodaeth am hyn yn y dyfodol agos.

 

85.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith.

 

86.

Llythyrau pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 175 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 186 KB