Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd Chris Holley gysylltiad personol ag Eitem 45 y cofnodion.

 

40.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

41.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

42.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

43.

Adolygu'r refeniw wrth gefn pdf eicon PDF 227 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol a nodwyd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r cyngor ar 7 Rhagfyr.

 

44.

Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2023/24 (Llafar)

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol, a thrafodwyd y canlynol.

·       Mae pwysau monitro cyllideb yn y flwyddyn gyfredol. Bydd adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter 2 yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar 21 Rhagfyr.

·       Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi'r wythnos nesaf ac yna'r setliad Llywodraeth Leol.

·       Mae'r cyngor yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

45.

Ailgylchu a Thirlenwi - Adroddiad Monitro Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 185 KB

Y Cynghorydd Cyril Anderson - Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwasanaethau

Chris Howell - Pennaeth Rheoli Gwastraff a Pharciau

Matthew Perkins - Arweinydd Grŵp, Gwastraff

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cynghorydd Cyril Anderson a Chris Howell yr adroddiad, a nodwyd y canlynol.

·       Yn 2022, mabwysiadodd y cyngor strategaeth gwastraff newydd a oedd yn nodi ystod o egwyddorion a chamau gweithredu i gyflawni'r targedau ailgylchu statudol a nodir yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru erbyn 2024/25.

·       Yn 2022/23 rhagorodd y cyngor ar y targed ailgylchu statudol presennol o 64% drwy gyflawni cyfradd ailgylchu 71.8%. Roedd hyn yn gynnydd o 6.7% ers y flwyddyn flaenorol. Roedd y cynnydd hwn yn bennaf oherwydd newid trefniadau ar gyfer gwaredu sachau du o safleoedd tirlenwi i ynni o wastraff. Cyngor Abertawe yw'r cyntaf yn nhabl cynghrair perfformiad ailgylchu ar draws Cymru.

·       Dangosodd meincnodau ariannol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o 2021/22 mai Cyngor Abertawe sydd â'r gwariant net isaf fesul gwasanaeth gwastraff cartref ledled Cymru.

·       Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno sawl cynllun, gan gynnwys cynllun dychwelyd blaendal, deddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle ac ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr.

·       Ar hyn o bryd mae Cyngor Abertawe yn treialu cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio ar gyfer caniau/gwydr a phapur/chardbord yn ardal St Thomas, sydd hyd yma wedi'i dderbyn yn gadarnhaol. Os yw'n cael ei gyflwyno ar draws Abertawe, byddai'r gost yn niwtral.

 

46.

Adroddiad Archwilio Cymru - Adolygiad o'r Strategaeth Digidol pdf eicon PDF 135 KB

Y Cynghorydd Andrea Lewis  - Drawsnewid Gwasanaethau

Sarah Lackenby – Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Sarah Lackenby yn bresennol i rannu ymateb y cyngor i adroddiad Archwilio Cymru. Trafodwyd y materion canlynol.

·       Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at adolygiad Archwilio Cymru o holl strategaethau digidol cynghorau ledled Cymru. Roedd yn ceisio sicrwydd bod strategaethau digidol yn cyflawni amcanion lles yn unol â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol.

·       Roedd un argymhelliad ar gyfer gwella, sef dod ag unrhyw ganfyddiadau o'r adolygiad i'r pwyllgorau perthnasol. Mae hyn fel arfer yn digwydd, ond roedd y pandemig wedi effeithio ar y broses arferol.

·       Mae'r strategaeth digidol yn cael ei hadolygu'n flynyddol, gofynnodd y Panel i'r adolygiad hwn gael ei graffu hefyd.

 

47.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith.

 

48.

Llythyrau pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 115 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Drawsnewid Gwasanaethau pdf eicon PDF 117 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Gymunedau Gwasanaethau pdf eicon PDF 134 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Gymunedau Gwasanaethau pdf eicon PDF 193 KB