Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

14.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

 

15.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

16.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

There were no public questions received.

 

17.

Alldro Cyfalaf ac Ariannu 2022/23 pdf eicon PDF 209 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 yn bresennol i roi trosolwg.

·       Mae'r adroddiad hwn yn manylu ar y sefyllfa alldro cyfalaf ar 31 Mawrth 2023, gan adrodd ar danwariant net o £28.8m. Cymeradwyodd y Cabinet bod y tanwariant yn cael ei drosglwyddo i 2023/24 yn ystod y cyfarfod ym mis Medi.

·       Ers mis Mawrth, mae sawl cynllun ar raddfa fawr wedi'u hychwanegu at y rhaglen oherwydd gorwariant neu ailbroffilio. Bydd adroddiad cyllideb chwarter cyntaf 2023/24 a gyflwynir i'r Cabinet ym mis Hydref yn cyfeirio at raglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn gyfredol ar gyfer mwy na £150 miliwn. Mae rhai costau gormodol sylweddol wedi cymhlethu hyn, ac mae hyn wedi effeithio ar sawl cyngor.

·       Mae'r tanwariant a drosglwyddir wedi bod yn ennill llog o dros 5% i'r cyngor yn y tymor byr ond caiff ei wario fel y'i dyrennir yn y pendraw.

Lle y bo'n bosib, sicrheir contractau pris sefydlog gyda datblygwyr ac mae'r cyngor yn hyderus y gellir talu am y rhaglen gyfalaf o hyd a'i fod yn fforddiadwy o fewn y polisi cyffredinol.

18.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2023/24 pdf eicon PDF 109 KB

Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad

Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yr adroddiad.

·       Ar ddiwedd y chwarter cyntaf, cafwyd 19 o ddangosyddion a gyrhaeddodd eu targedau neu a ragorwyd arnynt, roedd 3 o ddangosyddion o fewn 5% o'u targed ac ni gyrhaeddodd 6 o ddangosyddion eu targedau. Nid oedd gan 5 o ddangosyddion eraill unrhyw darged y chwarter hwn.

·       Mae lefelau salwch wedi gwella, ond maent yn uchel o hyd mewn rhai adrannau, ac mae hyn yn cael ei fonitro'n agos o hyd.

·       Eleni, ychwanegwyd casgliad newydd o fesurau mewn perthynas ag Adferiad Natur a Newid yn yr Hinsawdd. Mae gwaith yn parhau o hyd yn y maes hwn er mwyn nodi mesurau sy'n gadarn, wedi'u diffinio'n glir ac y gellir adrodd yn hyderus amdanynt.

 

19.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Trafodwyd y cynllun gwaith, gan gynnwys safleoedd datblygu posib i'w hadolygu yn ystod y flwyddyn.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 120 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad pdf eicon PDF 115 KB