Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 636292 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnus.

 

12.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim.

13.

Cofnodion pdf eicon PDF 132 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

14.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

15.

Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 216 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yr adroddiad.

·       Tynnodd y swyddog sylw at werth oddeutu £40m o wahaniaethau ariannol ac er bod hyn yn swm sylweddol roedd yn debyg i flynyddoedd blaenorol a bydd yn trosglwyddo i'r flwyddyn ganlynol. Roedd y rhesymau dros y gwahaniaethau ariannol yn hysbys ac mae cynlluniau i adolygu proffilio cyfalaf yr holl brosiectau mawr yn rheolaidd.

·       Mae benthyciadau'r Cyngor wedi bod yn gyfuniad o fenthyciadau mewnol ac allanol ond yn bennaf mae hefyd gennym arian parod dros ben tymor byr sydd wedi cael ei fenthyca nôl i'r Swyddfa Rheoli Dyledion (Trysorlys ei Fawrhydi) a banciau. Mae benthyciadau mewnol yn helpu i oedi'r angen am fenthyg pellach ac mae'r holl fenthyciadau'n cydymffurfio'n llawn â chôd benthyca darbodus rheoli trysorlys.

·       Nid oes unrhyw ddiogelwch o ran sicrwydd blaendal ar ein benthyciadau o’r banc, fodd bynnag, mae hyn yr un peth ar gyfer pob Cyngor a chaiff ei ddiogelu gan bolisi'r trysorlys ar fuddsoddiadau sy'n cyfyngu ar y bobl rydym yn gallu ymdrin â nhw.

 

16.

Alldro Ariannol Refeniw 2023/24 pdf eicon PDF 275 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yr adroddiad.

·     Tynnwyd sylw at y ffaith bod 2023/24 wedi bod yn flwyddyn anarferol gyda chyfraddau chwyddiant uwch, fodd bynnag, defnyddiwyd llai o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd na’r hyn a gynlluniwyd yn y gyllideb ac ychwanegwyd at nifer o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, roedd yn flwyddyn arbennig o ran perfformiad rheoli trysorlys.

·     Roedd yr adroddiad yn arddangos meddylfryd cadarnhaol tymor byr, gyda heriau yn y tymor hwy, yn enwedig ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion gyda phwysau hefyd ar ddigartrefedd, gwastraff a gwasanaethau i blant.

·     Defnyddiwyd arian o gronfeydd wrth gefn ysgolion, fodd bynnag, roedd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn parhau i fod yn weddol uchel.

·     Tynnwyd sylw at ddyraniadau o arian ychwanegol, gan gynnwys gofal cymdeithasol, parciau sglefrio, priffyrdd, y Gronfa Buddsoddi Cymunedol, rhagor o deithiau am ddim ar fysus a chyfarpar ychwanegol i ymdrin â gordyfiant o amgylch y rhwydwaith teithio llesol.

·     Bydd angen ail-lenwi cronfa wrth gefn TG ysgolion gwerth £7m sydd bellach wedi cael ei rhoi i ysgolion dros y blynyddoedd nesaf. Roedd hyder y bydd y gronfa'n cael ei ail-lenwi'n lawn erbyn yr amser angenrheidiol a chaiff ei gwario ar isadeiledd TGCh ysgolion.

·     Gofynnodd y Panel am ragor o wybodaeth am dai cymdeithasol a chronfeydd wrth gefn symiau cymudedig.

·     Mynegwyd pryder ynghylch newidiadau hwyr i'r gyllideb gan fod hyn yn ei wneud yn anoddach i graffu arni.

 

17.

Alldro Refeniw 2023/24 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 172 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth

Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151

 

Cofnodion:

Cytunodd y Panel y dylai’r Cyng. Peter Black fod yn Gadeirydd dros dro am weddill y cyfarfod. 

 

Cyflwynodd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yr adroddiad.

·     Mae tanwariant sylweddol wedi bod ar y Cyfrif Refeniw Tai ac mae'r Cabinet wedi cytuno i ychwanegu at gronfeydd wrth gefn. Cedwir y cronfeydd wrth gefn hyn i amddiffyn yn erbyn peryglon yn y dyfodol.

 

18.

Manwerthu yng Nghanol y Ddinas pdf eicon PDF 337 KB

Y Cynghorydd Rob Stewart – Aelod y Cabinet dros Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd)

Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth

Paul Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol

Lisa Wells - Rheolwr Canol y Ddinas

 

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Robert Francis-Davies a Rob Stewart yn bresennol yn ogystal â Phil Holmes, Paul Relf a Lisa Wells. Roedd Russell Greenslade hefyd yn bresennol a chyflwynodd y diweddaraf.

·       Cafodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer o ddatblygiadau yng nghanol y ddinas ers y diweddariad diwethaf ym mis Tachwedd 2022.

·       Rydym yn datblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol y ddinas a disgwylir ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae'r Panel wedi gofyn i weld y cynllun unwaith y bydd yn cael ei gwblhau.

·       Siaradodd Russell Greenslade yn gadarnhaol am ddatblygiad canol y ddinas gyda chynnydd yn nifer y busnesau newydd a buddsoddiadau yn y gweithlu er bod costau cynyddol yn rhwystr. Mae diogelwch a glendid yn flaenoriaethau, a threfnwyd adolygiad o arferion gwario.

·       Disgwylir cyhoeddiadau'n fuan ynghylch y tenantiaid a gadarnhawyd ar gyfer 71/72 Ffordd y Brenin a hen adeilad Debenhams.

·       Gofynnodd y Panel gwestiynau am Y Storfa, Marchnad Abertawe, Tŷ Alexandra, Arcêd Picton, pont Parc Tawe, wal fyw werdd Gwesty'r Dragon, datblygiad Haser bioffilig, 71/72 Ffordd y Brenin, Arena Abertawe a'r gwesty newydd arfaethedig a gwestai gwely a brecwast Oystermouth Road.

 

19.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith.

 

20.

Llythyrau pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 134 KB

Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth / Economi, Cyllid a Strategaeth pdf eicon PDF 102 KB

Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) pdf eicon PDF 183 KB