Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny Officer - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cytunwyd ar y Cynghorydd Chris Holley fel Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau, Adfywio a Chyllid ar gyfer 2024/25. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnus. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl y Panel Perfformiad PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Tom Evans - Rheolwr Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: ·
Dyma
adroddiad cenedlaethol sy'n ystyried sut mae pob cyngor yng Nghymru yn cefnogi
ac yn annog addasu eiddo gwag a thir llwyd, neu safleoedd a ddatblygwyd yn
flaenorol, at ddibenion gwahanol, a’u hadfywio ar ffurf cartrefi. ·
Gwnaeth
Archwilio Cymru dri argymhelliad i gynghorau y mae Cyngor Abertawe wedi ymateb
iddynt. Gwnaeth Archwilio Cymru ddau argymhelliad hefyd i Lywodraeth Cymru. ·
Er
bod Archwilio Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ac ystyried y
darlun cenedlaethol o ran safleoedd tir llwyd ac ailystyried sut caiff cynnydd
y safleoedd hynny ei fonitro, nid oes modd i Archwilio Cymru ddylanwadu ar
ddeddfwriaeth na pholisi ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio'n bennaf ar sut
gall cynghorau wella dan y fframwaith presennol. ·
Cododd
y panel bryderon ynghylch safleoedd tir llwyd dan berchnogaeth breifat a
chostau ychwanegol o'u cymharu â safleoedd maes glas a allai atal datblygwyr. ·
Dywedodd
swyddogion y cyngor fod ganddynt ymagwedd ragweithiol, bod prosesau cadarn ar
waith i fanteisio i'r eithaf ar gyllid a chydweithredu, a bod hyfywedd
safleoedd yn cael ei ddadansoddi'n fanwl. ·
Nododd
y panel fod gan Gyngor Abertawe hanes da o adfywio safleoedd tir llwyd gyda
chymorth cyllid grant, ac argymhellodd y gallai'r cyngor ddefnyddio dull mwy
rhagweithiol o gynnwys cynghorwyr yn y Cynllun Datblygu Lleol wrth nodi
safleoedd tir llwyd mewn wardiau. |
|
Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Richard Rowlands - Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth Rachel Harries o Archwilio Cymru a Richard Rowlands i roi trosolwg ac
ateb cwestiynau. Nodwyd y canlynol – ·
Mae'r
adroddiad gan Archwilio Cymru yn ymwneud â sut mae'r cyngor yn defnyddio
gwybodaeth am berfformiad, yn deall barn defnyddwyr gwasanaethau, canlyniadau
gweithgareddau'r Cyngor a pha wybodaeth sy'n cael ei rhannu ag uwch-arweinwyr
i'w helpu i ddeall safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth. ·
Bydd adroddiad cryno cenedlaethol o bob un o'r 22 gyngor
yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Dywedodd swyddogion y cyngor eu bod wedi
croesawu'r adroddiad; o ganlyniad i hynny, maent wedi cynnal arolwg diweddar o
breswylwyr, maent yn cymryd rhan mewn arolwg cenedlaethol o drigolion a drefnir
gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac maent wedi cynnwys gwybodaeth fwy
ansoddol i ategu'r mesurau meintiol. ·
Roedd aelodau'r panel yn teimlo bod cymharu data dros amser
yn llawer anos heb fesurau perfformiad cyson. Gwnaethant hefyd gyfeirio at
waith craffu ym maes perfformiad na chafodd ei nodi yn adroddiad Archwilio
Cymru. |
|
Cynllun Gwaith 2024/25 PDF 125 KB Cofnodion: Nodwyd y cynllun gwaith. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 167 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 166 KB |