Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw
ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol Y Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Dolen i Bapurau'r Cabinet ar gyfer 15 Chwefror 2024 sy’n cynnwys papurau’r gyllideb. Cofnodion: Roedd yr Arweinydd a Ben Smith, y Cyfarwyddwr
Cyllid a'r Swyddog Adran 151 yn bresennol. Trafodwyd y canlynol: Cynllunio
Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2027/28 (CATC) · Nid oes unrhyw newidiadau
sylweddol i ragdybiaethau cynllunio ers i'r CATC drafft gael ei gyflwyno i'r
Panel ym mis Ionawr. · Mae ansicrwydd a photensial ar
gyfer newidiadau i'r CATC dros amser sy'n golygu bod rhagweld yn her. · Mae ardoll y gwasanaeth tân yn
cyfateb i 1% o'r cynnydd arfaethedig o 5.99% yn Nhreth y Cyngor. Cyllideb
Refeniw 2024/25 ·
Mae newidiadau
posib i'r Gyllideb Refeniw, o ganlyniad i gyhoeddiadau pellach gan Lywodraeth
Cymru a'r DU a roddwyd i'r Cyngor ym mis Mawrth. ·
Mae
ysgolion yn derbyn swm ychwanegol untro gwerth £7m o
gronfa wrth gefn TGCh yr Hwb. Nid yw hyn wedi dod o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol Ysgolion. ·
Bydd
sylwadau ychwanegol o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gael i'r Cynghorwyr maes o
law. ·
Mae
ardoll y Cyd-bwyllgor Corfforaethol wedi cael ei lleihau 10%. O ganlyniad i ofynion o ran cyflwyno
rhaglenni gwaith ni ellid lleihau hyn ymhellach. ·
Nid
oes unrhyw gynlluniau yn y Gyllideb Refeniw i wneud toriadau i Gydlynwyr
Ardaloedd Lleol ond cyfeiriwyd at drafodaeth yn ystod y broses cyn craffu ar
gyllidebau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 12 Chwefror lle dywedwyd bod risg i
gyllid. Cyllideb a
Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2028/29 ·
Mae'r
rhaglen gyfalaf yn uchelgeisiol ond rhoddwyd sicrwydd bod cost gwasanaethu'r
ddyled yn parhau i fod yn fforddiadwy gyda chynlluniau i aros i fenthyca rhagor
nes y bydd cyfraddau llog wedi gostwng. ·
Mae'r
tanwariant cyfalaf a'r arbediad cysylltiedig ar gostau cyllido cyfalaf refeniw
naill ai wedi cael ei ddefnyddio i wrthbwyso'r gorwariant cyllideb refeniw neu
wedi cael ei hychwanegu at y Gronfa wrth gefn Cyfartalu Cyfalaf. Mae
benthyciadau posib o £50m yn y dyfodol wedi'u cynnwys yn y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig er bydd penderfyniadau yn y dyfodol o ran sut y bydd y £50m yn
cael ei amseru ar gyfer benthyca allanol a sut y caiff ei ariannu dros dro yn y
cyfamser. ·
Nid
oes oedi penodol o ran y Rhaglen Adeiladu Ysgolion a bydd y cynlluniau
presennol yn mynd rhagddynt yn ôl yr amserlen. Cyllideb
Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2024/25 a Chyllideb a Rhaglen Gyfalaf
2023/24 – 2027/28 · Rhoddwyd sicrwydd bod y cronfeydd wrth
gefn presennol sydd wedi'u clustnodi yn ddigonol ar gyfer y CRT. ·
Nodwyd
bod taliadau gwasanaeth ar gyfer tai cymdeithasol yn cael eu codi'n flynyddol
yn ogystal â rhent. Bydd adborth Aelodau’r Panel i’r Cabinet yn
seiliedig ar eu trafodaethau yn cael sylw mewn llythyr at yr Arweinydd a’i
gyflwyno i’r Cabinet gan y Cadeirydd ar 15 Chwefror 2024. |
|
Cofnodion: Gwaharddwyd
y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007. |
|
Craffu cyn Penderfynu ar Adroddiadau'r Cabinet: Y Gyllideb Flynyddol |
|
Cofnodion: Nododd y panel y
Cynllun Gwaith. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Daeth y cyfarfod i ben am 11.15am. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 177 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 154 KB |