Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Llamu Ymlaen – Y Gweithlu PDF 131 KB Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol
a Pherfformiad Rachael Davies – Pennaeth y Ganolfan Gwasanaethau
ac Adnoddau Dynol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd David
Hopkins, Rachael Davies a Non Jenkins o Archwilio Cymru yr adroddiad. Nodwyd y
canlynol: ·
Ar y
cyfan, roedd yr adroddiad yn gadarnhaol gyda rhai meysydd ar gyfer datblygu yn
canolbwyntio ar gynllunio ar gyfer y dyfodol, adnoddau a meincnodi. ·
Gwnaeth
Archwilio Cymru sylw ar ystyriaeth y cyngor o gynlluniau'r gweithlu cyn y
pandemig a bod cynlluniau priodol ar waith ar gyfer monitro trefniadau'r
gweithlu. ·
Mae
amcanion o flwyddyn gyntaf strategaeth y gweithlu ar y trywydd iawn ac mae
gwaith bellach yn canolbwyntio ar yr ail flwyddyn gymaint â phosib tra bod
adnoddau ar gael. Recriwtio yw'r flaenoriaeth ar gyfer yr ail flwyddyn. ·
Mae'r
cyngor yn cynnal dadansoddiad o anghenion datblygu a fydd yn nodi bylchau
sgiliau, gydag ymyriadau wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r bylchau hynny. ·
Rhoddwyd
diweddariad ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol sydd ag amcanion ynghylch y
gweithlu presennol ac a fydd yn adeiladu rhwydweithiau staff o wahanol
nodweddion gwarchodedig. ·
Cyhoeddir
cynllun cyffredinol y gweithlu'n ddiweddarach eleni. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio PDF 138 KB Y Cynghorydd David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Ian Davies - Rheolwr Datblygu Tom Evans - Rheolwr
Creu Lleoedd a Chynllunio Strategol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd David Hopkins ac Ian Davies yn bresennol i roi trosolwg. ·
Roedd
meincnodi cynghorau Abertawe yn erbyn awdurdodau eraill Cymru'n gadarnhaol. ·
Ar
hyn o bryd mae ffïoedd cynllunio'n cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru gan
nad yw'r ffïoedd wedi cynyddu ers 2020. ·
Mae'r
Adran Adnoddau wedi bod dan bwysau ac mae ôl-groniad o'r pandemig yn dal i
fodoli a swyddogion gorfodi'n cael eu hadleoli i brosesu ceisiadau cynllunio
pan fo angen. ·
Gall
apeliadau gorfodi i Lywodraeth Cymru fod yn broses hir ac mae'r ôl-groniad
cwynion hefyd wedi achosi oedi o ran gweithredu a blaenoriaethu. ·
Mae
canran y penderfyniadau a wnaed gan aelodau sy'n groes i gyngor swyddogion wedi
gostwng. Mae'n debygol bod hyn yn ymwneud â cheisiadau sy'n fwy cydnaws â'r
cynllun datblygu lleol a gostyngiad mewn ceisiadau sylweddol sy'n fwy ac yn
ddadleuol. Trafodwyd cytundebau A106, gan gynnwys y system sydd ar waith i
gyhoeddi anfonebau a monitro'r gwaith cyflawni. Ni fu unrhyw newidiadau
diweddar yn y gyfraith ynghylch buddion cymunedol mewn cytundebau adran 106 ac
fe'u hasesir fesul achos. ·
Mae
ffi monitro wedi'i chynnwys fel rhan o gytundebau adran 106 ond nid oes ffi
monitro am wirio cydymffurfiaeth â chynlluniau neu amodau cymeradwy er y gellir
codi hyn fel rhan o broses ymgynghori ffïoedd cynllunio ehangach Llywodraeth
Cymru. |
|
Adolygiad Blynyddol PDF 162 KB Cofnodion: Gofynnodd
y Panel am ychwanegu'r adroddiad monitro datblygu ac adfywio rheolaidd fel
eitem ar yr agenda unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Holodd y Panel ynghylch cyllid bargen canol y ddinas a gofynnwyd am ragor o wybodaeth. |
|
Cofnodion: Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y
tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14
Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007. |
|
Craffu Cyn Penderfynu - Rheol 7 Diweddaraf y Weithdrefn Ariannol ar gyfer gwaith adnewyddu Theatr y Palace Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros
Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Paul Relf – Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol Elliott Williams - Uwch-reolwr Adfywio Economaidd |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 170 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 197 KB |