Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - ‘Craciau yn y Sylfeini’ – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru PDF 140 KB Cllr David Hopkins- Cabinet Member for Corporate Services & Performance Carol Morgan – Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod nesaf y Panel ar 9 Ebrill. |
|
Y Cynghorydd Robert
Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth
Paul Relf - Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol Katy Evans - Arweinydd Tîm – Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Cofnodion: Trafododd y Cynghorydd Robert Francis-Davies a
Paul Relf yr adroddiad a oedd yn crynhoi'r meysydd gwaith a'r cyflawniadau o
fewn yr adrannau cynllunio ac adfywio'r ddinas. ·
Mae
gwaith ar y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn mynd rhagddo gyda
chymorth ariannol yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r
Gronfa Ffyniant Bro. ·
Mae
nifer o grantiau strategol ar gael i alluogi sefydlogrwydd yn y sector preifat
a'r trydydd sector, gyda chanol y ddinas yn elwa o fenthyciadau, creu lleoedd a
grantiau strategol. ·
Mae gwesty
newydd yn cael ei drafod a byddai'n cael ei leoli rhwng yr Arena a'r LC, mae’n
debygol o fod yn westy 4 seren / o safon uchel. ·
Mae
gan saith ardal y tu allan i ganol y ddinas gynlluniau creu lleoedd sy'n cael
eu datblygu. Bydd y rhain yn cael eu datblygu cyn gynted â phosib gan
ddefnyddio cyllid sydd ar gael, a chyda chyfyngiadau ar y gallu dylunio a
chontractio. ·
Mae
creu swyddi yn tyfu drwy grantiau dechrau busnes a datblygu/gwella busnes a
chyllid ffyniant a rennir y DU. Trafodwyd hefyd gadw'r swyddi sydd wedi'u
hariannu a denu cwmnïau newydd i'r ardal. ·
Gofynnodd
y Panel gwestiynau, ac am ddiweddariadau datblygu am hen safle Debenhams, Sgwâr
y Castell, Gwesty'r Dragon, Gwesty'r Dolphin, y Ganolfan Ddinesig a Bae Copr. |
|
Diweddariad ar Brosiect Adfywio - 71-72 Kingsway PDF 148 KB Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth Paul Relf - Rheolwr Datblygu Economaidd a Chyllid Allanol Katy Evans - Arweinydd Tîm – Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Robert Francis-Davies a Katy Evans yr adroddiad. Nodwyd y canlynol:
·
Mae trafodaethau gyda darpar
denantiaid yn parhau a rhagwelir y bydd yr adeilad yn cael ei osod yn llawn o
fewn cyfnod rhesymol o amser ond nid ar ôl ei gwblhau'n ymarferol.
|
|
Cofnodion: Nodwyd y
cynllun gwaith gyda sôn am y newidiadau i agenda fis nesaf. |
|
Cofnodion: Gwaharddwyd y
cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y tebygolrwydd o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14 Adran 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007. |
|
Diweddariad ar Brosiect Adfywio - 71-72 Kingsway Cofnodion: Daeth y cyfarfod i ben am 11.32am. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth PDF 118 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth PDF 176 KB |