Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd
unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod
yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran
graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol
dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael
blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os
oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran
agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cynigion y Gyllideb Ddrafft PDF 542 KB Y Cynghorydd Rob Stewart
- Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Ben Smith – Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol. Trafodwyd y materion
canlynol. ·
Yn
gyffredinol, mae'r gyllideb yn dangos heriau ariannol yn 2024/25 ac i'r cynllun
ariannol tymor canolig. ·
Er
bod ffocws ar gynilion, mae £80m o gyllid ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y
gyllideb dros y pedair blynedd nesaf. ·
Nid
oes gan y Cyngor reolaeth dros ddyfarniadau cyflog awdurdodau lleol ac athrawon
felly mae amcangyfrifon wedi'u cynnwys yn y gyllideb. ·
Cyngor
swyddogion yw nad yw'r cyfraddau benthyca presennol yn fanteisiol ac y dylid
oedi unrhyw fenthyca tan ddiwedd y cynllun ariannol tymor canolig. ·
Mae blynyddoedd blaenorol wedi arwain at danwariant mewn
gwariant cyfalaf. Cyngor y Swyddog yw defnyddio'r tanwariant hwn yn 2024/25. ·
Mae'r
gyllideb yn cynnwys defnyddio dros £8m mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer
2024/25. Mae hyn yn rhannu i ychydig dros £1m o'r Gronfa Cyfartaliad Cyfalaf a
£7m a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer uwchraddio TG mewn ysgolion. Bydd y £7m
hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ysgolion yn unig a chaiff ei ddefnyddio'n
llawn yn 2024/25. ·
Bydd
y gronfa ariannol wrth gefn yn cael ei lleihau o £5m i £3m er mwyn caniatáu i
£2m ychwanegol fynd tuag at wasanaethau. ·
Mae'r Cyngor mewn sefyllfa gref o ran cronfeydd wrth
gefn, ond nid yw defnyddio arian wrth gefn yn gynaliadwy yn y tymor hir. ·
Nid
oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ar gyfraddau Treth y Cyngor. ·
Disgwylir
cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, fodd bynnag, os oes unrhyw enillion
ychwanegol o hyn, byddent yn rhy hwyr ar gyfer gosod cyllideb 2024/25. ·
Mae'n
debygol y bydd ardoll y Gwasanaeth Tân dros £1m. Telir am hyn o gyllidebau'r
cyngor. |
|
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2 2023/24 PDF 339 KB Y
Cynghorydd Rob Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Ben Smith
– Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Cofnodion: Roedd y Cyng. Rob Stewart a Ben Smith yn bresennol. Trafodwyd y materion
canlynol. ·
Mae'r
ail chwarter yn dangos gorwariant o oddeutu £7.5m. ·
Mae
ymrwymiad o fewn cyfarwyddiaethau i gyflawni sefyllfa
gytbwys erbyn diwedd y flwyddyn. ·
Mae
rhai cronfeydd wrth gefn wedi'u hailddosbarthu i bob pwrpas fel darpariaeth.
Mae hyn yn dal i ganiatáu iddi fod ar gael yn y tymor byr at ddefnydd arian
parod pe bai ei angen ar y Cyngor ond mae gwahaniaeth cyfrifyddu pwysig rhwng y
ddau ddosbarthiad. ·
Mae
gwahanol lwybrau'n cael eu harchwilio i ddarparu cludiant ysgol mewn ffyrdd mwy
cost-effeithiol. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2023/24 PDF 168 KB Y Cynghorydd
David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Richard Rowlands
- Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Richard Rowlands yn
bresennol, a thrafodwyd y canlynol. ·
Aeth y
swyddog ag aelodau'r Panel drwy gynllun newydd yr adroddiad. ·
Canmolodd
y Panel y fformat newydd gan dynnu sylw at feysydd gwella o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol. |
|
Cynllun Rheoli Cyrchfannau Twristiaeth PDF 1 MB Y Cynghorydd Robert
Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth Steve Hopkins – Rheolwr Twristiaeth a Marchnata Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
Steve Hopkins yn bresennol, a thrafodwyd y canlynol. ·
Cytunodd y Cabinet ar Gynllun Rheoli
Cyrchfannau 2023-26 ym mis Hydref 2023. ·
Canmolodd y Panel yr adroddiad ac ar y cyfan
roeddent yn fodlon ar y canlyniadau. ·
Mae hyder cynyddol ym maes twristiaeth fod y
diwydiant yn adfer o effeithiau'r Pandemig. ·
Trafododd y swyddog sawl canfyddiad a gafwyd drwy
ymchwil a gynhaliwyd cyn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau, gan gynnwys arolwg
ymwelwyr, arolwg busnes lleol ac astudiaeth galw am westy. ·
Yn 2022 ymwelodd 4.2m o ymwelwyr ag Abertawe. ·
Y blaenoriaethau strategol yw ansawdd, creu
cyrchfan drwy gydol y flwyddyn, annog cynaliadwyedd a gweithio mewn
partneriaeth. ·
Mae deiliadaeth ystafelloedd gwestai yn
Abertawe yn fwy na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Dangosodd yr astudiaeth galw
am westai fod angen 3 gwesty arall ar Abertawe i ateb y galw. ·
Roedd ymatebion yr arolwg ymwelwyr yn dangos
boddhad mawr yn gyffredinol. ·
Nododd ymwelwyr eu bod yn bennaf anfodlon ar
argaeledd a glanweithdra toiledau cyhoeddus, ac mai hyn yw'r peth pwysicaf i'w
wella Trafodwyd arwyddion i gyfeirio pobl at doiledau cyhoeddus hefyd. ·
Mae'r wefan croesobaeabertawe.com yn bodoli i
hyrwyddo digwyddiadau i dwristiaid a phreswylwyr ac mae gwefan newydd hefyd yn
cael ei datblygu. |
|
Cofnodion: Nodwyd y
cynllun gwaith, a chyfeiriwyd at gyfarfod y mis nesaf a fydd yn gyfarfod cyn
craffu ar y gyllideb flynyddol ar 13 Chwefror cyn iddi fynd gerbron y Cabinet
am gymeradwyaeth ar 15 Chwefror. Daeth y cyfarfod i ben am 12.14pm. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 167 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 223 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth PDF 147 KB |