Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod
yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2023/24 PDF 316 KB Y Cynghorydd Rob
Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Ben Smith –
Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a
Strategaeth a Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 yn bresennol
i roi trosolwg a oedd wedi arwain at drafodaeth a chwestiynau am y canlynol. ·
Ar 19
Hydref, cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad i atgyfnerthu'r angen i holl
gyfarwyddwyr gwasanaeth gyfyngu ar eu gwario eleni. ·
Mae
Ch1 yn dangos gorwariant a chaiff camau gweithredu pellach eu cadarnhau yn
ystod y chwarterau sydd i ddod. ·
Mae
llawer o adrodd wedi bod am bwysau ariannol mewn cynghorau eraill. Mae
risgiau'n cynyddu ar gyfer y llywodraeth leol gyfan. ·
Penderfynwyd
ar £6m ar gyfer y cyfraniad a gyllidebwyd o'r Gronfa
Wrth Gefn ar gyfer 2023/24 fel y nodir yn adroddiad y gyllideb a gymeradwywyd
gan y cyngor ym mis Mawrth 2023. Disgwylir i'r Gronfa Wrth Gefn gael ei
ddyrannu'n llawn eleni. ·
Mae
cyllideb 2023/24 yn cynnwys darpariaeth o £20m, yn benodol ar gyfer chwyddiant.
Cynyddwyd hyn yn benodol oherwydd y lefelau o chwyddiant cyffredinol a
ragwelwyd ar gyfer 2023/24 a'r cynnydd digynsail ym mhrisiau ynni. ·
Mae
Olrhain Arbedion wedi cael ei ailgychwyn gyda rhagolwg o gyflawni 70% erbyn
diwedd y flwyddyn ar hyn o bryd. Disgwylir i hyn wella. ·
Caiff
y diffygion gweddilliol eu hariannu gan alldyniad ychwanegol o tua £20m o
gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd. ·
Mae'r Cyfrif Refeniw Tai dan fwy o bwysau nag yn ystod y
blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at yr angen i gynyddu cyllidebau refeniw. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran
graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol
dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael
blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os
oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran
agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Derbyniwyd nifer o gwestiynau gan y cyhoedd mewn
perthynas â Skyline. Aeth yr Arweinydd i'r afael â'r
cwestiynau, fodd bynnag, ar 13 Tachwedd cyflwynwyd cais cynllunio ar gyfer Skyline ac o ganlyniad i faterion ffurfiol y broses
gynllunio roedd ei allu i wneud sylwadau'n gyfyngedig. |
|
Diweddariad ar Brosiect Adfywio - Skyline PDF 98 KB Y Cynghorydd Robert Francis-Davies – Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth Phillip Holmes - Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Lee Richards – Arweinydd Tîm Canol y Ddinas Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio
ac Adfywio'r Ddinas a Lee Richards, Arweinydd Tîm Canol y Ddinas yn bresennol i
roi'r diweddaraf am ddatblygiad Skyline. Roedd y
drafodaeth yn canolbwyntio ar y pwyntiau canlynol. ·
Mae gan Skyline gwmni yn y DU, Skyline (Swansea) Limited,
ond mae ei riant-gwmni fwy, Skyline Enterprises Limited, yn
gweithio fel gwarantwr o dan y brydles arfaethedig. ·
Nid
oes unrhyw gyfyngiadau arfaethedig ar gyfer mynediad i Fynydd Cilfái. ·
Yn
hwyrach y mis hwn, fel rhan o'i ddyletswyddau, bydd cyfnod ymgynghori hysbysiad
man cyhoeddus agored yn dechrau a chaiff ei hysbysebu maes o law. ·
Bydd Skyline bellach yn symud ymlaen gyda'i gais cynllunio ac yn
datblygu cam nesaf y cynllun gyda'r nod o ddechrau ar y gwaith ar y safle y
flwyddyn nesaf. ·
Mae Skyline wedi cynghori bod cost y prosiect wedi cynyddu o
£35m i £40m yn bennaf oherwydd chwyddiant. |
|
Cofnodion: Nodwyd y
cynllun gwaith. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cofnodion: Gwaharddwyd y cyhoedd o’r cyfarfod am y rheswm y byddai’n cynnwys y
tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i nodir ym Mharagraff 14
Adran 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007. |
|
Diweddariad ar Brosiect Adfywio - Skyline |
|
Datblygiad Bae Copr (Llafar) |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 122 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Buddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth PDF 96 KB |