Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir. Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth.
Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes
digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar
ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin
â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Adroddiad Archwilio Cymru - Gosod Amcanion Lles PDF 162 KB Y Cynghorydd
David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a
Pherfformiad Lee Wenham - Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Richard Rowlands
- Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Swyddogion Archwilio Cymru Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Jeff
Brown yn bresennol i gyflwyno adroddiad gan Archwilio Cymru a rhoddodd Richard
Rowlands adborth i'r cyngor mewn ymateb i'r adroddiad. Nodwyd y canlynol – • Mae'r adroddiad hwn yn rhan o raglen
dreigl lle mae'n rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol asesu i ba raddau y mae cyrff
wedi gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod eu hamcanion
lles. • Dywedodd Archwilio Cymru fod Cyngor
Abertawe wedi cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod ei amcanion
lles a bydd ymgorffori ei ddull o ymgysylltu a monitro perfformiad yn cryfhau
hyn ymhellach. • Darparodd Archwilio Cymru enghreifftiau
o arfer da a meysydd i'w gwella gan Gyngor Abertawe fel crynodeb o'r adroddiad. • Er bod yr adroddiad yn adlewyrchu nad
oedd ymgynghoriad Cyngor Abertawe yn adlewyrchu amrywiaeth lawn y boblogaeth,
roedd adlewyrchiad o ran y ffaith y gall cynnal ymgynghoriad cyhoeddus fod yn
heriol ac nid oes unrhyw feincnodau ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghori â'r
cyhoedd. • Roedd y cyngor yn falch o'r adroddiad. Mae'n cydnabod y meysydd ar gyfer gwella ac mae wedi gwneud cynnydd o ran y rhain. Mae dulliau ymgysylltu yn cael eu cynyddu a'u hehangu ar hyn o bryd ac mae mesurau perfformiad wedi'u hadolygu'n ddiweddar ond byddai fframwaith canlyniadau cenedlaethol yn fuddiol. |
|
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru - Adroddiad Perfformiad Blynyddol PDF 119 KB Y Cynghorydd Elliott King - Aelod y
Cabinet dros Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau Karen Gibbins – Rheolwr y
Gwasanaethau Llyfrgelloedd / Bethan Lee – Prif Lyfrgellydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Elliott King yr adroddiad blynyddol gyda Karen Gibbin a Bethan Lee.
Nodwyd y canlynol- • Cyflwynwyd i’r Panel Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, asesiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Llyfrgelloedd
Abertawe ar gyfer 2021-22 a chyflwyniad y gwasanaeth llyfrgell ar gyfer
2022-23. • Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn dal i
wella o effeithiau pandemig COVID ac nid ydynt wedi cyrraedd lefelau cyn COVID
eto, ond mae niferoedd y bobl sy'n defnyddio'r llyfrgelloedd yn cynyddu. • Ailgyflwynodd Abertawe ddirwyon ar
gyfer llyfrau llyfrgell ym mis Ebrill 2023 oherwydd targed incwm cyllideb
refeniw ar gyfer dirwyon llyfrau hwyr. • Amlygodd y gwasanaethau llyfrgell y
canlynol: gwaith gyda sefydliad 'Good Things', y Rhaglen Addysg i Gleifion,
cynnydd yn y defnydd o Wi-Fi dros y defnydd o gyfrifiaduron personol,
gwasanaethau argraffu, gwasanaethau cadw, menter Lleoedd Llesol, gwaith gydag
ysgolion a chynnydd mewn gwasanaethau dwyieithog ac adnoddau mewn ieithoedd
eraill. • Bydd y Llyfrgell Ganolog yn symud i'r
Storfa, gyda chymorth grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer silffoedd
ac offer digidol newydd. • Mae archwiliad o gyflwr adeiladau wedi'i gynnal ac mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ystyried fel rhan o'r broses fapio ehangach o amgylch y model hybiau cymunedol |
|
Cofnodion: Nodwyd y cynllun gwaith. |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 119 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau PDF 136 KB |
|
Ymateb Aelod y Cabinet - Diwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldebau PDF 142 KB |