Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Swyddog Craffu - 01792 636292
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim. |
|
Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod
yn gofnod cywir. Cofnodion: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran
graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol
dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael
blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os
oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran
agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: There were no public questions received. |
|
Alldro Cyfalaf ac Ariannu 2022/23 PDF 209 KB Y Cynghorydd Rob
Stewart - Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth Ben Smith –
Cyfarwyddwr Cyllid / Swyddog A151 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y
Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a
Ben Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Adran 151 yn bresennol i roi
trosolwg. ·
Mae'r
adroddiad hwn yn manylu ar y sefyllfa alldro cyfalaf ar 31 Mawrth 2023, gan
adrodd ar danwariant net o £28.8m. Cymeradwyodd y Cabinet bod y tanwariant yn
cael ei drosglwyddo i 2023/24 yn ystod y cyfarfod ym mis Medi. ·
Ers
mis Mawrth, mae sawl cynllun ar raddfa fawr wedi'u hychwanegu at y rhaglen
oherwydd gorwariant neu ailbroffilio. Bydd adroddiad cyllideb chwarter cyntaf
2023/24 a gyflwynir i'r Cabinet ym mis Hydref yn cyfeirio at raglen gyfalaf ar
gyfer y flwyddyn gyfredol ar gyfer mwy na £150 miliwn. Mae rhai costau gormodol
sylweddol wedi cymhlethu hyn, ac mae hyn wedi effeithio ar sawl cyngor. ·
Mae'r
tanwariant a drosglwyddir wedi bod yn ennill llog o dros 5% i'r cyngor yn y
tymor byr ond caiff ei wario fel y'i dyrennir yn y pendraw. Lle y bo'n bosib, sicrheir contractau pris sefydlog gyda datblygwyr ac mae'r cyngor yn hyderus y gellir talu am y rhaglen gyfalaf o hyd a'i fod yn fforddiadwy o fewn y polisi cyffredinol. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2023/24 PDF 109 KB Y Cynghorydd
David Hopkins - Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad Richard Rowlands
- Rheolwr Cyflwyno Strategol a Pherfformiad Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Corfforaethol a
Pherfformiad a Richard Rowlands, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol yr
adroddiad. ·
Ar
ddiwedd y chwarter cyntaf, cafwyd 19 o ddangosyddion a gyrhaeddodd eu targedau
neu a ragorwyd arnynt, roedd 3 o ddangosyddion o fewn 5% o'u targed ac ni
gyrhaeddodd 6 o ddangosyddion eu targedau. Nid oedd gan 5 o ddangosyddion
eraill unrhyw darged y chwarter hwn. ·
Mae
lefelau salwch wedi gwella, ond maent yn uchel o hyd mewn rhai adrannau, ac mae
hyn yn cael ei fonitro'n agos o hyd. ·
Eleni,
ychwanegwyd casgliad newydd o fesurau mewn perthynas ag Adferiad Natur a Newid
yn yr Hinsawdd. Mae gwaith yn parhau o hyd yn y maes hwn er mwyn nodi mesurau
sy'n gadarn, wedi'u diffinio'n glir ac y gellir adrodd yn hyderus amdanynt. |
|
Cofnodion: Trafodwyd y cynllun gwaith, gan gynnwys safleoedd datblygu posib i'w
hadolygu yn ystod y flwyddyn. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet Economi, Cyllid a Strategaeth (yr Arweinydd) PDF 120 KB |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet - Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad PDF 115 KB |