Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Datblygu Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. (Er gwybodaeth) PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu Trechu Tlodi adroddiad “er gwybodaeth” er mwyn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol a
Threchu Tlodi am ddatblygiad Polisi Gwirfoddoli Cyngor Abertawe. Mae polisi
Gwirfoddoli drafft presennol Cyngor Abertawe sy'n atodedig yn Atodiad A yn
ystyried arfer gorau fel y nodwyd gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru ac mae'n
diffinio gwirfoddoli, yn nodi safonau ac ymrwymiadau i rolau a chyfrifoldebau,
recriwtio a dethol, sefydlu a hyfforddi a chefnogi a goruchwylio. Roedd Polisi
Gwirfoddoli Drafft Cyngor Abertawe yn cyfeirio at Becyn Cymorth i Reolwyr a
Llawlyfr i Wirfoddolwyr, a oedd yn elfennau allweddol i gefnogi cyflwyno'r
Polisi Gwirfoddoli. Byddai'r Pecyn Cymorth i Reolwyr yn cynnwys yr adnoddau y
mae eu hangen i alluogi gwasanaethau i annog gwirfoddolwyr i gyflawni'r
ymrwymiad polisi. Byddai'r Llawlyfr i Wirfoddolwyr yn cynnwys gwybodaeth a
fyddai'n berthnasol i'r gwirfoddolwr. Amlinellodd y
Rheolwr Datblygu Trechu Tlodi'r cynnydd ers mis Medi 2023 a hysbyswyd y
Pwyllgor am y camau nesaf. Gan fod hon yn ddogfen waith “fyw”, roedd yn destun diwygiadau pellach a byddai'n cael ei chyflwyno yn ôl i'r Pwyllgor maes o law. |
|
Technoleg Gynorthwyol a Hyrwyddo Annibyniaeth. PDF 214 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Rheolwr Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion adroddiad “er gwybodaeth” i roi
diweddariad ar Dechnoleg Gynorthwyol a gweithgaredd arfaethedig y Gwasanaethau i Oedolion. Roedd yr
adroddiad yn rhoi gwybodaeth am 'gynnig' technoleg gynorthwyol presennol y
Gwasanaethau i Oedolion, sut roedd y gwasanaeth yn cefnogi'r amcanion
trawsnewid adrannol a chorfforaethol, cyflawniadau hyd yma a gweithgareddau a
gynlluniwyd ar gyfer barn ac adborth y Pwyllgor. Eglurodd y
Rheolwr Trawsnewid fod strategaeth Technoleg Gynorthwyol yn rhan o Raglen
Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer 2024/25, gan gefnogi’n benodol y
flaenoriaeth o ‘Hyrwyddo Annibyniaeth’. Aeth ati i
egluro'r gweithgarwch diweddar o ran y Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol yn
ogystal â'r gwelliannau sylweddol a wnaed gan gynyddu'r defnydd o dechnoleg
gynorthwyol ymhlith timau asesu a rheoli gofal yn y Gwasanaethau i Oedolion a'r
camau nesaf ar gyfer technoleg gynorthwyol yn Abertawe. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddog yn briodol iddynt. Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb mawr mewn gweld yr ystafell ‘Cartref Clyfar’ newydd sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol unwaith y bydd yn cael ei lansio ym mis Medi 2024. Gwnaethant hefyd awgrymu digwyddiad ar ffurf ‘sioe deithiol’ mewn amrywiol ganolfannau cymunedol a allai gynorthwyo preswylwyr a’u teuluoedd i ymgysylltu â’r opsiynau amrywiol sydd ar gael. |
|
Cynllun Gwaith 2024-2025. PDF 106 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith drafft ar gyfer 2024-2025. Penderfynwyd cymeradwyo'r Cynllun Gwaith Drafft ar gyfer 2024-2025. |