Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi
a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
||||||||||
Cylch gorchwyl. (Er gwybodaeth) PDF 85 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd cylch
gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau “er gwybodaeth”. |
||||||||||
Trafodaethau Cynllun Gwaith. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Eglurodd y
Cadeirydd fod trafodaethau wedi’u cynnal â’r Aelodau Cabinet a’r Swyddogion
perthnasol, gyda’r eitemau canlynol yn cael eu hawgrymu fel rhan o raglen waith
y dyfodol: ·
Cyfleoedd dydd a'r defnydd o
asedau (Gwasanaethau i Oedolion) ·
Technoleg gynorthwyol a
hyrwyddo annibyniaeth (Gwasanaethau Integredig) ·
Polisi Gwirfoddoli (Trechu
Tlodi) ·
Strategaeth Trechu Tlodi
(Trechu Tlodi) ·
Canlyniadau Comisiwn
Gwirionedd Tlodi (Trechu Tlodi) ·
Cynhwysiad digidol (Trechu
Tlodi) ·
Gweithgareddau Galluogi
Cymunedau / Cymorth Cynnar i Oedolion (Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi) ·
Cefnogaeth ar gyfer Gofalwyr
sy'n berthnasau (Gwasanaethau Plant a Theuluoedd) Yn ogystal,
awgrymodd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ddwy eitem
ychwanegol: · Pontio (o Wasanaethau Plant a Theuluoedd i'r Gwasanaethau i Oedolion) ·
Cefnogi Oedolion a Rhieni a Gofalwyr Plant ag anabledd (Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd) Awgrymwyd hefyd
fod y Pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed gan
Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel mewn perthynas â chamddefnyddio cyffuriau. Penderfynwyd bod yr eitemau
uchod yn ffurfio Cynllun Gwaith y dyfodol ar gyfer 2024-2025. |
||||||||||
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. (Trafodaeth)
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddyddiad ac amserau cyfarfodydd y dyfodol. Penderfynwyd bod cyfarfodydd
yn cael eu cynnal am 4pm ar y dyddiadau a amlinellwyd yn yr agenda. |