Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi
a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Grant Galluogi Cymunedau. PDF 149 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Mark
Gosney, Arweinydd y Tîm Comisiynu ac Anthony Richards, Rheolwr Datblygu
Strategaeth Tlodi a'i Atal, adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r diweddaraf i'r
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi am y Grant
Galluogi Cymunedau. Nodwyd bod gwall
teipograffyddol ym mharagraff 7.1 a ddylai ddweud "Nid oes unrhyw
oblygiadau ariannol ychwanegol heblaw y rheini a nodir yn yr adroddiad
hwn." Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau amrywiol, ac atebodd y swyddogion yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion a'u timau am eu holl waith caled i sicrhau bod y
grwpiau amrywiol yn gallu cael mynediad at yr arian mewn pryd ar gyfer cyfnod y
Nadolig. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, a
Dave Howes, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a oedd yn crynhoi
canlyniad ac allbynnau rhaglen waith y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal
Cymdeithasol a Threchu Tlodi yn 2023/24. Byddai'r
adroddiad yn cael ei uno â'r adroddiadau blynyddol ar gyfer y 4 Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau eraill a'i gyflwyno i'r Cyngor maes o law. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd y
cynllun gwaith ar gyfer 2023/2024 er "gwybodaeth”. Nodwyd bod un
eitem heb ei thrafod. Byddai hyn yn cael ei hystyried ar ôl i'r rhaglenni
trawsnewid perthnasol gael eu diweddaru ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf. Diolchodd y
Cadeirydd i'r holl Swyddogion a Chynghorwyr am eu cyfraniad at y rhaglen waith
amrywiol yn ystod y flwyddyn. |