Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

30.

Cofnodion: pdf eicon PDF 216 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

31.

Gwyliau Byr. pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc, gyda chefnogaeth Arweinydd y Tîm Comisiynu a Rheolwr yr Hwb adroddiad a oedd yn cyflwyno datblygiad y gwasanaethau mewn perthynas â darpariaeth seibiannau byr i blant a theuluoedd.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r ymrwymiad, y weledigaeth a'r uchelgeisiau ar gyfer gwasanaethau cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd mewn perthynas â threfniadau seibiant byr ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol a'u rhieni/gofalwyr.  Amlinellodd hefyd sut y maent yn bwriadu sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn llywio arfer a sut y byddai gwasanaethau'n cael eu datblygu a'u haddasu os neu pan fydd anghenion yn newid.

 

Codwyd y sylwadau a'r cwestiynau canlynol gan y Pwyllgor:

 

·                O ble y cafwyd y ffynonellau ariannu amrywiol;

·                A oedd cap ar nifer y seibiannau byr y gallai teulu/plentyn eu cymryd ac a oedd unrhyw amseroedd aros;

·                A oedd pob teulu yn ymwybodol o'r holl opsiynau oedd ar gael iddo;

·                Y posibilrwydd o sesiynau arbenigol neu well mewn cyfleusterau diwylliannol, e.e. Orielau ac Amgueddfeydd;

·                Nifer y gwelyau sydd ar gael, sut y cawsant eu comisiynu, a oeddent yn cynnig gwerth am arian ac a oeddent yn ateb y galw;

·                Sut y defnyddiwyd taliadau uniongyrchol.

 

Ymatebodd y swyddogion i bob pwynt yn fanwl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariad ar ôl i'r Adolygiad Comisiynu gael ei gwblhau.

 

Penderfynwyd bod Pwyllgor Trawsnewid y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi:

 

1)             yn nodi cynnwys y broses adolygu sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd ac

2)             yn rhoi eu barn ar y gwaith a wnaed hyd yn hyn.

32.

Strategaeth Trechu Tlodi. (Cyflwyniad)

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, gyflwyniad Powerpoint ar y gwaith a wnaed mewn perthynas ag adnewyddu Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor (2024-2028).  Byddai'n cael ei hadnewyddu mewn partneriaeth â phartneriaid a phobl drwy gydweithio i fynd i'r afael ag achosion ac effaith tlodi ar bobl a chymunedau, gan ddileu anghydraddoldebau i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan dlodi.

 

Eglurodd fod arolwg cyhoeddus wedi'i gynnal rhwng Awst a Medi 2023 i roi adborth ar y strategaeth a'r ffordd ymlaen.  Derbyniwyd dros 300 o ymatebion a rhannwyd sawl sylw a wnaed yn ystod yr arolwg â'r Pwyllgor. 

 

Nodwyd y 7 blaenoriaeth allweddol sy'n dod i'r amlwg fel a ganlyn:

 

·                Cynhwysiad digidol

·                Cefnogaeth y gymuned

·                Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

·                Stigma a gwahaniaethu

·                Tlodi Plant

·                Digartrefedd

·                Iechyd a Lles

 

Yna amlinellodd y Prif Swyddog y ffordd ymlaen a oedd yn cynnwys:

 

·                Sicrhau'r ymagwedd bod tlodi'n ‘berthnasol i bawb’ (ac nid cyfrifoldeb Cyngor Abertawe yn unig)

·                Byddai 3 rhifyn gwahanol o'r strategaeth yn cael eu datblygu

·                Byddai'n cael ei hadeiladu o amgylch y daith, nodweddion, dulliau a llwybrau

·                Byddai'r cynllun gweithredu yn cael ei gyd-gynhyrchu â phobl â phrofiad personol;

·                Byddai ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion allweddol yn cael ei gynnal.

 

Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau a gofynnodd gwestiynau yr ymatebodd y Prif Swyddog iddynt yn unol â hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn diweddariadau pellach pan fyddant ar gael.

33.

Cynllun Gwaith 2023-2024. pdf eicon PDF 136 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2023-2024.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith.