Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 106 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 fel cofnod cywir.

6.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 256 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth

Cofnodion:

Darparwyd cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'.

 

7.

Trafodaethau am y Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 24 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Gwaith

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd ei fod ef, Aelod y Cabinet a'r Swyddogion wedi cwrdd cyn y cyfarfod i drafod pynciau posib a bod yr wybodaeth wedi'i chylchredeg i'r aelodau cyn y pwyllgor er gwybodaeth gefndir.

 

Dywedodd y bydd y pwyllgor yn canolbwyntio ar y ddau nod trawsnewidiol a'r rhain fydd y pynciau i'w harchwilio ar gyfer y flwyddyn ddinesig gyfan.

·        Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol.

·       Yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir.

 

Amlinellodd Helen Morgan-Rees fod y 2 bwnc uchod yn rhan o Gynllun Corfforaethol yr awdurdod i'w hystyried dros gyfnod tymor canolig i hir.

 

Cyfeiriodd at gefndir a hanes y ddarpariaeth ar hyn o bryd, a'r sail resymegol a ddatblygodd y gwasanaethau dros nifer o flynyddoedd.

 

Yna rhoddodd Kate Phillips drosolwg manwl ar lafar a oedd yn ymwneud â'r rhaglen bosib ar gyfer Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn gynwysedig yn y trosolwg roedd y meysydd canlynol:

·         Lefel y ddarpariaeth bresennol o fewn DASA;

·         Sefydliad hanesyddol y 34 o gyfleusterau addysgu arbenigol presennol (CAA) mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas;

·         Ar hyn o bryd mae CAAau yn cael eu cynnal mewn ysgolion unigol ac maent yn darparu darpariaeth o safon lle cânt eu gwerthfawrogi gan y bobl ifanc, y rhieni, yr ysgolion a'r awdurdod lleol;

·         Mae'r ddarpariaeth bresennol a'r cyd-destun hanesyddol yn golygu nad yw pob lleoliad yn addas, sy'n golygu bod yn rhaid i rai disgyblion deithio i gyrraedd yr ysgol;

·         Yr effaith ar blant sy'n gorfod teithio i'r ysgol a'r goblygiadau iddynt, fel diffyg gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol a meithrin cyfeillgarwch â ffrindiau o'r ysgol sy'n byw mewn gwahanol gymunedau; 

·         Newidiadau i anghenion a phroblemau plant dros y blynyddoedd, fel y lleihad o ran yr angen am therapi lleferydd ac iaith er enghraifft, wrth i'r galw am y gwasanaethau awtistiaeth ac ADHD gynyddu'n sylweddol;

·         Yr angen i ddiwygio a diweddaru ein darpariaeth a'n gwasanaethau yn unol â hyn;

·         Goblygiadau sylweddol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar y gwasanaeth a'r hyn a ddarperir gan yr adran;

·         Gwaith parhaus a datblygu rhaglen trawsnewid sy'n seiliedig ar ein darpariaeth arbenigol a helpu ysgolion wrth gynnal y ddarpariaeth bresennol mewn ysgolion;

·         Manylwyd ar elfennau ymgysylltu, mewnbwn a chyfranogaeth asiantaethau partner fel y bwrdd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol yn y rhaglen trawsnewid.

 

 

 

 

 

 

Rhoddodd Kelly Small hefyd gyflwyniad ar lafar a oedd yn ymwneud â'r problemau o ran yr ysgolion cywir yn y mannau cywir.

 

Amlinellodd y canlynol yn ystod ei chyflwyniad:

·         Y ddarpariaeth bresennol yn Abertawe o 77 ysgol gynradd, 14 ysgol gyfun a 2 ysgol arbennig;

·         Cyfradd genedigaethau yn gostwng yn DASA, ond mae cynnydd o ran mewnfudo;

·         Dyletswydd i fonitro ein darpariaeth bresennol ac adolygu'r lleoedd sydd ar gael;

·         Tuedd tuag at addysg cyfrwng Cymraeg;

·         Cyflwr y stoc adeiladau ar hyn o bryd a gwaith cynnal a chadw a chyfalaf parhaus;

·         Moderneiddio ac adeiladu ysgolion newydd ac effaith hyn ar ddysgu, newid o ran ysgolion cynradd cyflawn a chau ysgolion llai;

·         Cynnydd o ran costau a darpariaeth cludiant rhwng y cartref a'r ysgol;

·         ffocws Llywodraeth Cymru ar ysgolion cymunedol;

·         Amcanestyniadau disgyblion a mewnbwn gan staff iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol;

·         Dim digon o staff i gefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y ddinas.

 

Gofynnodd aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r wybodaeth a ddarparwyd yn y ddau gyflwyniad ac ymatebodd y Swyddogion, y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol iddynt.

 

Penderfynwyd y dylid adolygu'r ddau faes a amlinellwyd uchod a'u trafod yn ystod y flwyddyn ddinesig gyfredol, a bydd y ddau bwnc yn cael eu cynnwys ar agendâu cyfarfodydd bob yn ail.

 

8.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. pdf eicon PDF 180 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiadau cyfarfodydd y dyfodol a ddarparwyd yn y pecyn agenda ac awgrymodd fod cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn parhau i gael eu cynnal am 4pm.

 

Penderfynwyd y dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor y dyfodol am 4pm.