Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a
gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2024 fel cofnod cywir. |
|
Chefnogi Ymddygiad Cadarnhaol Mewn Ysgolion. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd Kate Phillips gyflwyniad PowerPoint i'r Pwyllgor o'r enw “What
do we do about ’behaviour’
in schools”. Roedd y
cyflwyniad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf y cytunwyd arnynt
ers y cyfarfod diwethaf. Amlinellodd yr elfennau sy'n cael eu datblygu ar
hyn o bryd a oedd yn cynnwys gwaith partneriaeth, gweithdai a holiadur ar gyfer
ysgolion. Cynhaliwyd
gweithdy ar 9 Gorffennaf 2024 yng Ngwesty'r Towers
gyda thua 60 o gynrychiolwyr o amrywiaeth o'r gwahanol asiantaethau yn
bresennol. Ystyriodd y gweithdy'r canlynol: ·
Nodau ac amcanion y gweithdy; ·
Y 5 maes trafod; ·
Y materion sy'n wynebu'r
gwahanol asiantaethau/sefydliadau; ·
Pa ddulliau oedd eu hangen; ·
Yr hyn y gallai'r
asiantaethau ei gynnig; ·
Sut y gallant
weithio gyda'i gilydd; ·
Camau nesaf Eglurodd nad oedd
pob asiantaeth wedi gallu mynd i'r gweithdy, felly trefnwyd ail ddigwyddiad ar
gyfer 17 Medi 2024. Trafododd yr
Aelodau'r cyflwyniad PowerPoint a gofynnwyd cwestiynau amrywiol ynghylch y materion a'r pynciau a nodir
ynddo. Ymatebodd Aelod y
Cabinet a'r swyddog yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am y cyflwyniad manwl ac addysgol. |
|
Cynnydd Dysgwyr. Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Rhoddodd David Thomas
ddiweddariad llafar i'r pwyllgor mewn perthynas â dylunio set o egwyddorion ar
gyfer Abertawe i ddeall sut i ddehongli cynnydd disgyblion ar draws ein
hysgolion a'n lleoliadau o fewn yr Awdurdod Lleol. Dywedodd fod
dilyniant cyffredinol mewn dysgu'n broses o ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a
dealltwriaeth dros amser. Un o'r gofynion
ar gyfer pob ysgol a lleoliad oedd bod yn rhaid iddynt gyhoeddi eu trefniadau
ar gyfer y cwricwlwm ac asesu trwy eu cyrff llywodraethu. Dylai asesu parhaus
fod ar waith ar gyfer pob dysgwr ac roedd asesu'n ymwneud â chynnydd
disgyblion. Amlinellodd
fanylion rhaglen a gychwynnwyd 2 flynedd ôl gan yr Awdurdod Lleol, a hwylusir
gan weithiwr addysgol proffesiynol enwog i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o
gynnydd llinol o 3-16 oed. O ganlyniad, roedd mapiau cwricwlwm a oedd yn
cefnogi gwell golwg ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu
hangen mewn cyd-destun penodol bellach yn cael eu defnyddio (model
clwstwr/ysgolion sy'n bwydo). Fodd bynnag, nid oedd y rhaglen yn cefnogi
golwg unigol ar ddyluniad cwricwlwm ysgol o'r egwyddorion dilyniant y mae'n
seiliedig arnynt. Felly, gwnaeth y Tîm Gwella Ysgolion ddatblygu'r
pwyntiau gwerthuso canlynol: 1) Trosolwg; 2) Sut i nodi materion ansawdd; 3) Canllawiau ymarferol i gefnogi gwell golwg
ar y daith Gwella Ysgolion a'r hunanarfarniad
(archwiliad manwl); 4) Cefnogi gwell golwg ar gynnydd cyffredinol
disgyblion unigol (archwiliad mwy manwl). Eglurodd y
swyddog bod cyllid drwy grant i Awdurdodau Lleol ers mis Ebrill 2024 wedi
arwain at gyflogi swyddog arweiniol ar gyfer y cwricwlwm, dysgu ac
addysgu. Roedd y Bartneriaeth Gwella Ysgolion wedi derbyn y gwaith o
dderbyn ceisiadau neu fodelau busnes gan ysgolion a phartneriaethau clwstwr i
ddatblygu rhywfaint o waith gyda'i gilydd. Amlinellodd
opsiynau amrywiol sydd ar gael i ddarparu egwyddorion ac arweiniad ymarferol i
ysgolion a lleoliadau er mwyn datblygu'r darn hwn o waith. Gwnaeth y
Pwyllgor sylwadau a gofynnodd gwestiynau ac ymatebodd y Prif Swyddog iddynt yn
briodol. |
|
Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill 2024/2025. Codwyd amrywiaeth o opsiynau ychwanegol i gynorthwyo'r cynllun gwaith, a fyddai'n cael eu trafod ymhellach gyda swyddogion ac Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu. |