Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar
17 Ebrill ac 16 Mai 2024 a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
||||||||||
Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y Cylch Gorchwyl a ddosbarthwyd i'r Pwyllgorau Trawsnewid
Gwasanaethau, a ddarparwyd 'er gwybodaeth'. |
||||||||||
Trafodaethau am y Cynllun Gwaith. PDF 89 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd ei fod wedi cyfarfod ag Aelod y Cabinet a'r Cyfarwyddwr ac wedi cael
trafodaeth ynghylch cynllun gwaith drafft ar gyfer y pwyllgor ar gyfer 2024/25
a chyfeiriodd at yr eitemau canlynol posib fel pynciau i'w hystyried yn ystod y
flwyddyn ddinesig sydd i ddod – Cynnydd Dysgwyr a datblygu set o 'Egwyddorion
Abertawe' a Chefnogi Ymddygiad Cadarnhaol mewn Ysgolion. Cefnogwyd y ddau
bwnc gan Aelod y Cabinet a chyfeiriodd at y cysylltiad rhwng presenoldeb ac
ymddygiad, effaith y Cwricwlwm newydd i Gymru a pholisïau Llywodraeth Cymru yn
Abertawe ac amlinellodd y dylai'r pwyllgor ganolbwyntio ar wella canlyniadau i
bobl ifanc ar draws y ddinas. Rhoddodd David
Thomas gyflwyniad llafar i'r pwyllgor yn ymwneud â datblygiad posib cyfres o
'Egwyddorion Abertawe'. Cafodd y meysydd canlynol eu cynnwys yn y cyflwyniad: ·
atebolrwydd a bod y broses i
gadarnhau gwerthuso a chynnydd yn digwydd mewn ysgolion, · dylai'r system atebolrwydd gefnogi
gweithgareddau gwella ysgolion nid eu gyrru ·
dylai systemau atebolrwydd
allu nodi a datrys problemau'n gynnar, ·
mae rôl y corff llywodraethu
mewn ysgolion yn fater allweddol, mae pob ysgol yn wahanol felly gall help a
chefnogaeth fod ar wahanol ffurfiau, ·
mae trefniadau craffu lleol a
rhanbarthol ar waith ac mae mewnbwn o bob rhan o Gymru gan Estyn a
gweithdrefnau ar waith i gefnogi ysgolion, ·
gwerthuso cynnydd disgyblion
drwy asesiadau, ·
caniatáu i bobl ifanc wneud
cynnydd a datblygu ar eu cyflymder eu hunain, ·
profiadau meysydd dysgu, ·
dealltwriaeth gyffredin o
gynnydd ar draws y system, ·
mae asesu'n broses barhaus ac
yn rhan o ddysgu ac addysgu, ·
mae disgyblion yn cymryd rhan
weithredol yn y broses asesu, ·
mae asesu ac asesiadau'n
bethau gwahanol, ·
mae asesu'n ymwneud â'r
cynnydd y mae pobl ifanc yn ei wneud ac mae'n cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid o bobl ifanc, ysgolion, rhieni etc. ·
tair prif reol asesiadau, ·
diffiniad o gynnydd – sut mae
dysgwr yn datblygu ac yn gwella'i wybodaeth a'i sgiliau dros amser, Trafododd
aelodau'r pwyllgor y meysydd a gafwyd yn y cyflwyniad gan wneud sylwadau a
gofyn cwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Ymatebodd Aelod y
Cabinet a'r Cyfarwyddwr hefyd i'r materion a godwyd yn ystod y cyflwyniad gan
nodi y gallai ymagwedd fwy penodol a symlach fod o fudd i ysgolion. Rhoddodd Kate
Phillips gyflwyniad Powerpoint i'r pwyllgor ar faterion yn ymwneud ag ymddygiad
disgyblion mewn ysgolion. Cafodd y meysydd
canlynol eu cynnwys yn y cyflwyniad: ·
diffiniad o ymddygiad, ·
y sefyllfa a'r cyd-destun
presennol, ·
ymagwedd a mentrau presennol
Cyngor Abertawe sy'n ceisio cefnogi pobl ifanc, ·
cynnydd cyson mewn
gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ·
y sefyllfa bresennol sy'n
dangos mwy o alw am faterion fel amserlenni diwygiedig a darpariaeth arbenigol
– y cynnydd yng nghostau hyn i'r Adran, ·
newid amgylchedd mewn
ysgolion a chymdeithas - mwy o ofynion ADY a niwroamrywiaeth,
goblygiadau ar ôl COVID, effaith y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc, ·
materion lleferydd, iaith a
chyfathrebu, ·
rhwymedigaethau cyfreithiol
a'r hyn y mae'n rhaid i'r awdurdod ei ddarparu - cyfle i adolygu polisïau nawr, ·
y camau nesaf. Diolchodd y
Cadeirydd i'r ddau swyddog am eu cyflwyniadau manwl a llawn gwybodaeth. Amlinellodd fod
llawer o feysydd a ffactorau'n effeithio ar gynnydd pobl ifanc. |
||||||||||
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol.
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol a ddarparwyd ar yr agenda. Penderfynwyd y bydd pob
cyfarfod yn y dyfodol yn 2024/25 yn dechrau am 4pm. |