Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd L R Jones - Eitem 3 – Personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd L R Jones
– Cofnod Rhif 28 – Personol gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd
Llandeilo Ferwallt. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr fel cofnod cywir. |
|
Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac
Adnoddau Addysg adroddiad "er
gwybodaeth" ynghylch Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. Roedd yr
adroddiad a oedd yn dilyn adroddiadau blaenorol i'r pwyllgor yn amlinellu'r
sefyllfa bresennol a datblygiadau posib yn y dyfodol. Roedd fersiwn ddrafft
o'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion Strategol (CDYS) ynghlwm fel atodiad i'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Cafodd cyd-destun a chefndir y cynllun drafft a'i
botensial fel dogfen gyfeirio allweddol ar gyfer ysgolion ar draws Abertawe
wrth symud ymlaen eu nodi a'u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai
ystadegau a data llawer mwy manwl yn cael eu hychwanegu at y cynllun drafft a’i
atodiadau unwaith y byddai gwybodaeth Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel
Disgyblion Ionawr 2024 wedi’i chyhoeddi ac ar gael i swyddogion. Y nod oedd y
byddai'r cynllun yn rhedeg ar y cyd â Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau
Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ac y byddai'n cwmpasu cyfnod o naw mlynedd gydag
adolygiadau bob tair blynedd. Manylwyd ar y
meysydd a gwmpesir gan y cynllun drafft ac os cytunir arnynt gan y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau, gellid rhannu'r cynllun â swyddogion perthnasol i
adolygu a gwella adrannau perthnasol. Byddai
ymgynghoriad eang ar y cynllun drafft yn allweddol i'w lwyddiant yn y dyfodol
ac yna gellid mireinio drafft diwygiedig drwy Fwrdd Rhaglen AoS
(Addysg o Safon) y Cyngor – grŵp trawsbynciol gyda chynrychiolaeth o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a'r
Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol, cyn y gellir hefyd wneud gwaith mireinio
pellach drwy grwpiau ymgynghorol penaethiaid a chyfleoedd llais y dysgwyr. Ymhellach i'r
adroddiad a dosbarthwyd, rhoddodd ddiweddariad llafar i'r aelodau ar gynnwys y
cynllun drafft, y ffactorau a'r dylanwadau allanol a fydd yn effeithio arno
wrth symud ymlaen a'r ychwanegiadau a wneir iddo, unwaith y byddai'r data a'r
ystadegau priodol ar gael. Byddai drafft
terfynol o'r cynllun yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau yn y dyfodol i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w
gymeradwyo a'i weithredu. Trafododd yr
aelodau'r adroddiad a'r diweddariad llafar a gofynnwyd cwestiynau amrywiol
ynghylch y materion a'r pynciau a nodwyd yn yr adroddiad a chyflwyniad y
swyddog, ac awgrymwyd ychwanegiadau a diwygiadau posib gan gynnwys y defnydd o
ddelweddau/graffiau, gwybodaeth am glybiau brecwast/ar ôl ysgol, effaith bosib
y CDLl a datblygiadau tai, y broses ymgynghori a
chyfranogiad rhanddeiliaid etc. Ymatebodd y swyddog yn unol â hynny. Croesawodd y
Cyfarwyddwr Addysg yr adroddiad a'r sylwadau gan yr Aelodau a nododd y byddai
Swyddogion nawr yn mynd ati i ddatblygu a mireinio'r cynllun a dechrau'r broses
ymgynghori fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn y trafodaethau yr oedd y
pwyllgor newydd eu cynnal. Yn dilyn y diweddariadau, ychwanegu gwybodaeth a
data etc., a'r broses ymgynghori a amlinellwyd, byddai fersiwn ddiwygiedig o'r
cynllun yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau yn y
dyfodol ar gyfer sylwadau a chymeradwyaeth. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ei hadroddiad a'i diweddariad. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill 2023/2024. Yn dilyn trafodaeth
â'r Cyfarwyddwr, amlinellodd y byddai'r cyfarfod ar 6 Mawrth yn cael ei ganslo
ac y byddai'r adroddiad a oedd i'w gyflwyno yn cael ei ohirio tan y cyfarfod ar
17 Ebrill. Cytunwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith wedi'i
ddiweddaru. |