Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 27 Medi fel
cofnod cywir. |
|
Yr Ysgolion Cywir yn y Lleoedd Cywir. PDF 162 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau'r
adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn gyfle i ddechrau trafodaeth ac
adolygiad o'r ystâd ysgolion gyfan ar draws yr awdurdod. Dywedodd y gallai'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion
newydd (CDY) gynnig cyfle i ddatblygu a chyflwyno'r egwyddorion ar gyfer
darparu gwasanaethau addysgol yn y dyfodol am flynyddoedd lawer ar draws y
ddinas. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg y bydd y cynllun
arfaethedig yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer adeiladau ysgol
ac ystadau am flynyddoedd lawer a bydd yn cysylltu â'r agenda trawsnewid a'r
newidiadau demograffig sydd eisoes yn digwydd ar draws y ddinas. Dywedodd y bydd y cynllun yn cysylltu'n dda â
mentrau Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r Rhaglen Amlinellol Strategol
sydd eisoes wedi'u datblygu. Yna aeth y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau â’r
pwyllgor drwy’r adroddiad a ddosbarthwyd a rhoddodd amlinelliad a diweddariad
ar lafar i'r aelodau ar y cynigion a gynhwyswyd yn y Cynllun Darpariaeth
Ysgolion arfaethedig, gan gynnwys y meysydd a ganlyn: · Cefndir i ddatblygiad y cynllun, sy'n
plethu ac yn cysylltu â mentrau eraill fel Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu,
y Rhaglen Amlinellol Strategol, etc; · Newidiadau a
gwaith uwchraddio i adeiladau ysgol gan gynnwys rhaglen gwaith cyfalaf a
chynnal a chadw; · Cyd-destun y
cynllun a ddaw'n ddogfen wirioneddol y gellir ei defnyddio, edrych arni a
chyfeirio ati gan bawb sy'n ymwneud â'r gymuned addysg; · Awgrymir bod y
Cynllun Darpariaeth Ysgolion yn rhedeg am gyfnod o 9 mlynedd i gysylltu â'r
fenter Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a'r Rhaglen Amlinellol Strategol
sydd ar amserlenni tebyg; · Mewnbwn bwrdd
rhaglen Addysg o Safon (AoS) sy'n cwrdd yn fisol i
ystyried materion ystâd ysgolion; · Ceisir hefyd
ymgysylltu ag ysgolion a chynrychiolwyr penaethiaid cyn i'r cynllun gael ei
gwblhau; ·
Cyd-destun
a chefndir datblygiad y cynllun, gan gynnwys newidiadau demograffig, gostyngiad
yn y gyfradd genedigaethau yn Abertawe, cynnydd o ran mewnfudo, patrymau gwaith
cyfnewidiol, arweiniad y comisiwn archwilio ar niferoedd ysgolion, darpariaeth
cyfrwng Cymraeg, ysgolion ffydd, darpariaeth ADY a disgyblion a addysgir
gartref; ·
Mae
trafodaethau wedi'u cynnal â'r prifysgolion a'r bwrdd iechyd i geisio cynllunio
ar gyfer y cynnydd mewn mewnfudo; ·
Effaith
bosib safleoedd tai strategol a datblygiadau yn y CDLl; ·
Effaith
dewis rhieni, niferoedd derbyn ysgolion a dalgylchoedd; ·
Pwynt
sbardun posib yn y cynllun newydd ar gyfer adolygiad ysgol os bydd niferoedd
disgyblion yn newid +/- 10% dros gyfnod o ddwy flynedd; ·
Arolygon
adeiladau ysgolion a gynhelir bob blwyddyn – adeiladau wedi’u rhannu’n 4
categori A, B C neu D, a gellid cofnodi’r rhain yn y Cynllun Darpariaeth
Ysgolion ar gyfer pob ysgol ynghyd â gwybodaeth am oedrannau adeiladau ysgol; ·
Mae
graddfeydd Tystysgrifau Ynni i'w Harddangos ar gyfer pob ysgol yn arwydd da o
effeithlonrwydd ynni a gellid cynnwys y data hwn hefyd yn y Cynllun Darpariaeth
Ysgolion; ·
O ran
hygyrchedd i'r ysgol, gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth ac argaeledd ac
amseroedd teithio i blant, gallai'r Cynllun Darpariaeth Ysgolion awgrymu terfyn
teithio ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd; ·
Roedd
aelodau'r Pwyllgor wedi derbyn gwybodaeth ac wedi trafod y cymhlethdodau a'r
materion o ran y ddarpariaeth cludiant ysgol mewn gweithdy diweddar; ·
Darpariaeth
alwedigaethol a chysylltiadau â darparwyr eraill; · Y bwriad yw
cyflwyno fersiwn ddrafft o'r cynllun i gyfarfod y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr er
mwyn i'r aelodau ei drafod. Trafododd yr Aelodau'r adroddiad a'r
cyflwyniad a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a'r Aelod Cabinet a ymatebodd
yn briodol.Roedd y meysydd allweddol a gododd o'r
trafodaethau'n cynnwys: ·
Problemau
o ran amser teithio i ddisgyblion; ·
Mae angen
cynnwys pob adeilad ysgol yn y cynllun, nid dim ond prif adeiladau; ·
Arweiniad
y comisiwn archwilio ar niferoedd y chweched dosbarth a chynaladwyedd y
ddarpariaeth wrth symud ymlaen; ·
Gall
trosiant uchel o ddisgyblion, yn enwedig yng nghanol y ddinas a chyfuniad o
niferoedd uchel o ddisgyblion newydd, trosiant disgyblion a materion
amddifadedd effeithio ar ysgolion; ·
Gellid
cynnwys maint y man amwynder mewn ysgolion ar gyfer chwarae/chwaraeon etc., o'i
gymharu â maint adeilad gwirioneddol yn y Cynllun Darpariaeth Ysgolion; ·
Cynnydd
enfawr yng nghost deunyddiau adeiladu a chynnydd dilynol mewn costau cynnal a
chadw i ysgolion. Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac
Adnoddau Addysg am ei hadroddiad addysgiadol. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig 2023/2024. Cynigiodd y dylid
cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr ar-lein yn unig drwy Teams. Croesawodd aelodau'r pwyllgor y cynnig |