Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 26
Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. |
|
Materion yn codi. Cofnodion: Yn dilyn y cyfarfod
diwethaf, amlinellodd y Cadeirydd fod yr Aelodau a'r Swyddogion wedi cynnal
gweithdy anffurfiol, ar 20 Medi, i edrych ar bwnc cludiant rhwng y cartref a'r
ysgol. Diolchodd i'r
Swyddogion am eu brîff manwl a llawn gwybodaeth ac amlinellodd fod yr ymarfer
wedi bod yn un gwerth chweil, gyda'r Aelodau'n gofyn nifer o gwestiynau ar y
mater hynod gymhleth, ac yn gofyn am eglurder ar yr ystod eang o faterion
amrywiol a godwyd yn ystod y drafodaeth. Archwiliodd y
gweithdy arferion cyfredol, yr heriau sy'n wynebu'r awdurdod ar hyn o bryd gyda
phroblemau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r potensial ar gyfer ffyrdd
eraill o weithio yn y dyfodol. |
|
Cefnogi Lleoedd Arbenigol Digonol. PDF 251 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn adroddiad a oedd yn cyflwyno gwybodaeth i'r
pwyllgor am y rhaglen Cefnogi Digon o Leoedd Arbenigol mewn perthynas â'r
sefyllfa bresennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Amlinellwyd a
nodwyd y meysydd canlynol yn yr adroddiad: ·
Y
sefyllfa bresennol lle mae disgwyl i bob ysgol yn Abertawe ddarparu
amgylcheddau dysgu lle gellir diwallu anghenion pob plentyn, lle bynnag y bo
modd. Mae hyn yn cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae'n unol â
gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
(ADYTA). ·
Yn
ogystal â'r cynnig ysgol, mae 34 o gyfleusterau addysgu arbenigol (CAAau) hefyd yn ysgolion Abertawe. Mae'r CAAau hyn yn cael eu cynnal gan ysgolion ar ran yr awdurdod
lleol ac maent yn darparu darpariaeth addysgol arbenigol ar gyfer plant a phobl
ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i'r cynnig prif ffrwd. Mae dwy ysgol
arbennig ar gael hefyd. ·
Mae'r
ffordd y mae'r ddarpariaeth CAA wedi esblygu, datblygu a chynyddu'n raddol dros
y blynyddoedd, wedi arwain at sefyllfa lle nad yw'r cyfleusterau bellach o
reidrwydd yn y lleoedd cywir y mae angen iddynt fod ar hyn o bryd. ·
Ymagwedd
gynhwysol ar draws yr awdurdod a'r hyfforddiant a'r arweiniad sydd ar gael i
ysgolion a staff, yn ogystal â'r enghreifftiau o arfer da. ·
Datblygu
rhaglen sy'n seiliedig ar sicrwydd ansawdd o gwmpas yr arferion da presennol,
yn cynorthwyo'r gwasanaeth yn y dyfodol. ·
Yn
anffodus, mae rhywfaint o amrywiaeth mewn ymagwedd wrth ymdrin â CAAau oherwydd problemau adnoddau a lleoliadau sy'n golygu
bod rhai plant yn gorfod teithio i gael mynediad at y dysgu a'r help sydd ei
angen arnynt. ·
Y nod
yn y dyfodol yw galluogi pob person ifanc i gael gafael ar yr help sydd ei
angen arnynt yn eu cymunedau lleol. ·
Angen
cynyddol am wasanaethau arbenigol yn lleol ac yn genedlaethol. ·
Mae
cyfnod helaeth o adolygu ac ailgynllunio'r ddarpariaeth bresennol wedi'i
chynnal ers 2020, gan gynnwys lefel uchel o ymgysylltu â rhanddeiliaid,
cydweithredu a chyd-ddylunio, mae'r rhanddeiliaid yn cynnwys Fforwm Gofalwyr
sy'n Rhieni Abertawe, Penaethiaid, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADYau), cydweithwyr y Bwrdd Iechyd Lleol, cydweithwyr
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a swyddogion o bob rhan o'r Gyfarwyddiaeth
Addysg. ·
Sefydlu
Tîm Newid gydag aelodau o Arweinwyr Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a'r
Uwch-dîm Arweinyddiaeth. ·
Arweiniodd
yr ymarfer cydweithio hwn at gyfres ddiwygiedig o egwyddorion a fydd yn sail i
unrhyw fodel newydd o ddarpariaeth yn y dyfodol. Cafodd yr egwyddorion eu nodi
a'u hamlinellu yn Atodiad A i'r adroddiad. ·
Datblygu
ymagwedd clwstwr newydd mewn pedair ysgol gyda swyddogion o'r Tîm ADY a
Chynhwysiad, canlyniad y gwaith hwn oedd model arfaethedig o ddarpariaeth y
gellid ei chymhwyso ar draws pob clwstwr ysgolion yn Abertawe. ·
Mae'r
model arfaethedig o ddarpariaeth yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd a
bydd yn cael ei rannu gyda'r Tîm Newid a fydd yn ystyried ei hyfywedd o
ran cyflawni yn gyffredinol. ·
Mae'r
model newydd yn debygol o fod yn fwy dwys o ran adnoddau na'r model presennol,
fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu galw cynyddol, anghenion dysgwyr sy'n dod
i'r amlwg, y newid mewn pwysau cymdeithasol a mwy o gyfrifoldebau cyfreithiol
ysgolion a'r awdurdod lleol. ·
Mae'r
model arfaethedig yn debygol o leihau costau trafnidiaeth a gwella darpariaeth
awdurdodau lleol yn y sir, gan leihau'r angen am opsiynau costus y tu allan i'r
sir sy'n golygu bod angen addysgu dysgwyr y tu allan i'w cymunedau lleol. ·
Y nod
yw y gellid ailddosbarthu'r arbedion a gyflawnwyd yn y meysydd hyn i gefnogi'r
model newydd. Mae'r cyfyngiadau cyllidebol presennol yn gwneud hyn yn fwy
heriol, fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion a fydd yn
galluogi ein model arfaethedig i lwyddo. ·
2
brosiect peilot sydd ar waith ar hyn o bryd, sef peilot Bws Mini a darpariaeth
clwstwr gwell i Dylan Thomas. ·
Amlinellwyd
a nodir cefndir datblygiad a gweithrediad y ddau brosiect sydd yn eu camau
cynnar. ·
Mae
gwerthusiadau cynnar o'r prosiect bws mini wedi nodi sawl budd gan gynnwys
arbedion ariannol, gwell lles disgyblion a llai o dagfeydd o gwmpas safle'r
ysgol. Y nod yw ehangu a threialu'r prosiect mewn ysgolion eraill lle bo modd. ·
Daeth
y prosiect arall i'r amlwg o waith a wnaed yn 2022/2023 a'i nod oedd rhoi
lleoliad tymor byrrach i rai dysgwyr a allai elwa o gymorth ychwanegol mewn
darpariaeth arbenigol. ·
Ni
fyddai'r peilot hwn yn addas i lawer o ddysgwyr ond mae wedi'i ddatblygu fel
opsiwn i rai pobl ifanc ag anghenion penodol. ·
Nodwyd
potensial i staff arbenigol weithredu mewn mwy o fodel allgymorth i gefnogi
rhai dysgwyr yn eu lleoliadau presennol ac, yn fwy arwyddocaol efallai, gwella
sgiliau staff ar draws ysgolion i gefnogi dysgwyr ag anghenion gwahanol ar y
sail bod ADY yn fusnes i bawb. ·
Arweiniodd
cyfuniad o'r ymagwedd o ymdrin â lleoliadau tymor byr mewn lleoliad arbenigol a
galluogi staff arbenigol i gymryd eu sgiliau, profiad ac arbenigedd allan o'r
lleoliadau arbenigol at gynnig ar gyfer darpariaeth mewngymorth/allgymorth
a fyddai'n cael ei gynnig yn lleol. Mae hyn yn cael ei dreialu mewn clwstwr
sy'n gwella'r ddarpariaeth yng nghlwstwr Dylan Thomas. ·
Mae'r
cynnig wedi'i gynllunio gyda phob pennaeth cynradd a CADYau
yn y clwstwr ynghyd â'r CADY o'r ysgol uwchradd. ·
Nodwyd
arian grant i gefnogi'r cynllun peilot ac mae dogfennaeth arweiniol yn cael eu
datblygu, felly'r nod yw sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael yn y flwyddyn
newydd. ·
Bydd
y ddarpariaeth newydd yn cael ei hadolygu a'i gwerthuso'n ofalus a bydd ei
heffeithiolrwydd yn cael ei asesu i helpu i lywio datblygiadau yn y dyfodol. ·
Bydd
y camau nesaf yn cynnwys casglu'r holl ddata rhagfynegol ynghyd a chwblhau
amcanestyniadau o ofynion darpariaeth yn y dyfodol. ·
Yna
byddai'r tîm Newid yn adolygu'r gwaith a'r cynlluniau peilot a wnaed cyn cytuno
ar ffordd ymlaen ar y cyd â rhanddeiliaid ac Aelodau. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r
wybodaeth a ddarparwyd yn y cyflwyniad a'r adroddiad ac ymatebodd y Swyddogion
a'r Cyfarwyddwr yn briodol iddynt. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn am ei hadroddiad a'i chyflwyniad
addysgiadol. |
|
Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau ar
gyfer gweddill 2023/2024. |