Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg
a Sgiliau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir. |
|
Yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir. PDF 263 KB Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei bresenoldeb yng nghyfarfod y
Cabinet ar 21 Gorffennaf, 2023 a mynegodd ei ddiolch i'r Aelod Cabinet dros
Addysg a Dysgu am ei wahodd i'r cyfarfod i gyflwyno hen adroddiad y PDC Addysg
a Sgiliau ar Arweinyddiaeth, Cynhwysiad a Llywodraethu: Datblygu Rhagoriaeth yn
Ysgolion Abertawe. Cymeradwywyd yr adroddiad gan y Cabinet ac roedd yn cynnwys
y Llawlyfr newydd i Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr, Polisi Presenoldeb newydd Abertawe
(rhan o'r Strategaeth Cynhwysiad) a'r Strategaeth Cefnogi Cyrff Llywodraethu,
a'r Cynllun Gweithredu Datblygu Llywodraethu Ysgolion. Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at gynnydd tuag at argymhellion
yr adroddiad gan y PDP Addysg a Sgiliau yn 20/21 - Cefnogi'r Heriau i Ddysgwyr
wrth Adfer o'r Pandemig a fyddai'n rhan o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Sgiliau ym
mis Medi. Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Sgiliau yr
adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg ar y gwahanol
ddemograffig, pwysau ariannol a materion eraill y byddai angen eu hystyried
dros y deng mlynedd nesaf. Diolchodd i'r swyddogion am yr adroddiad. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg y byddai'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg yn manylu
ar rai o'r ysgogwyr, y galluogwyr a rhai o'r cyfyngiadau a wynebir wrth nodi
ffordd o weithredu mewn perthynas â sut olwg fydd ar ystâd yr ysgol yn y 10
mlynedd nesaf. Nododd pa mor bwysig ydyw
i'r Pwyllgor ystyried sut mae ein dulliau'n dryloyw ac yn deg i bob ysgol, ac
yn wir i'r cyhoedd. Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg
adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar yr wybodaeth gyd-destunol ynghylch
y stoc ysgolion yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2023 ac awgrymodd y dylid llunio
cynllun trefniadaeth ysgol i gwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd. Roedd yr adroddiad, y cyntaf o dri a
raglennwyd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-2024, wedi gosod y cyd-destun ar
gyfer ystad yr ysgol yn Abertawe ac roedd yn amlinellu manylion demograffig y
cyngor sy'n berthnasol i gyflenwi lleoedd mewn ysgolion. Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg fanylion
yr ystad bresennol, yr angen am newid a chysylltiadau â'r Rhaglen Cymunedau
Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Nododd yr Aelodau drwy'r Pwyllgor Cyflawni Corfforedig
(PCC) Addysg a Sgiliau y cynigiwyd y dylid llunio cynllun trefniadaeth ysgolion
deng mlynedd i'w ystyried gan y Cabinet. Dylai'r cynllun ymblethu â'r Rhaglen
Amlinellol Strategol o dan y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, yn
ogystal â chynlluniau perthnasol eraill, ond dylai hefyd gynnwys yr wybodaeth
ganlynol: ·
Manylion
demograffig sy'n berthnasol i gyflenwi lleoedd ysgol, gan gynnwys: ·
Cofrestrau
disgyblion – gwirioneddol ac amcanol (cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a ffydd) ·
Lleoedd
dros ben/prinder lleoedd - cynradd ac uwchradd ·
Darpariaeth
a lleoedd ADY (gan gynnwys mewn ysgolion nas cynhelir) ·
Darpariaeth
6ed dosbarth ·
Darpariaeth
alwedigaethol ·
Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’r gofynion am leoedd mewn ysgolion cyfrwng
Cymraeg ·
Oedrannau
adeiladau ysgol ·
Graddfeydd
Tystysgrifau Ynni i'w Harddangos ·
Graddfeydd
cyflwr ·
Canran
trosiant disgyblion ·
Datganiad
o ragdybiaethau mewn perthynas â darpariaeth i ddisgyblion, er enghraifft maint
priodol/uchafswm maint ysgolion ·
Manylion
ynghylch ad-drefnu ysgolion yn hanesyddol yn Abertawe ·
Polisïau
ac egwyddorion sy'n gysylltiedig â threfniadaeth ysgolion, gan gynnwys cludiant
o'r cartref i'r ysgol ·
Amrywiaeth
y ddarpariaeth ·
Hygyrchedd
y ddarpariaeth ·
Dewis
rhieni ac ysgolion poblogaidd ·
Arbed
ynni Gellid rhannu'r cynllun drafft â
rhanddeiliaid a gellid cynnal gweithdai gyda'r Pwyllgor i ystyried agweddau ar y
cynllun os yw'n briodol. Trafodwyd yr adroddiad gan yr aelodau a
gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol. Roedd y
materion allweddol a gododd o'r trafodaethau'n cynnwys: ·
Pwysigrwydd
bod yn agored, tryloywder a sensitifrwydd yn ystod y broses gynllunio. ·
Adolygiadau
dalgylchoedd (a gynhaliwyd ddiwethaf ym mis Medi 2021) a'r goblygiadau sy'n
deillio o ddewis rhieni a chludiant o'r cartref i'r ysgol. ·
Y
cymhlethdodau sy'n ymwneud â chyllid y ddarpariaeth chweched dosbarth a'r effaith
ar yr amgylchedd o ran pobl ifanc sy'n teithio i ddarparwyr amgen yn y
sir. ·
Manteision
gweithdy ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. ·
Penderfynu
ar y ffigur gorau o ran lleoedd dros ben er mwyn sicrhau cost cynnal a chadw
resymol fesul disgybl. ·
Archwilio
cyfluniad ysgolion er mwyn defnyddio'r adeiladau’n fwy effeithiol. ·
Trafodwyd
amserlenni a disgrifiadau o bob un o'r cynlluniau allweddol ynghyd â'r angen i
sicrhau bod pob cynllun yn cydweddu (cyfeiriwyd yn benodol at brosiectau fel Dechrau'n
Deg). ·
Dehongli
ac adolygu data amcanestyniadau disgyblion y CDLl. Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau
Addysg am ei hadroddiad addysgiadol. Penderfynwyd trefnu gweithdy ar gludiant o'r cartref i'r ysgol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau ar
gyfer 2023-2024 'er gwybodaeth'. Nodwyd y pwnc i'w
drafod yn y cyfarfod dilynol:- ·
27 Medi 2023 – Trawsnewid
Anghenion Dysgu Ychwanegol. |