Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023
fel cofnod cywir. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth Cofnodion: Darparwyd cylch
gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'. |
|
Trafodaethau am y Cynllun Gwaith PDF 24 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Gwaith Cofnodion: Datganodd y
Cadeirydd ei fod ef, Aelod y Cabinet a'r Swyddogion wedi cwrdd cyn y cyfarfod i
drafod pynciau posib a bod yr wybodaeth wedi'i chylchredeg i'r aelodau cyn y
pwyllgor er gwybodaeth gefndir. Dywedodd y bydd y pwyllgor yn canolbwyntio ar y ddau nod trawsnewidiol a'r
rhain fydd y pynciau i'w harchwilio ar gyfer y flwyddyn ddinesig gyfan. · Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. · Yr
ysgolion cywir yn y lleoedd cywir. Amlinellodd Helen
Morgan-Rees fod y 2 bwnc uchod yn rhan o Gynllun Corfforaethol yr awdurdod i'w
hystyried dros gyfnod tymor canolig i hir. Cyfeiriodd at
gefndir a hanes y ddarpariaeth ar hyn o bryd, a'r sail resymegol a ddatblygodd
y gwasanaethau dros nifer o flynyddoedd. Yna rhoddodd Kate Phillips drosolwg manwl ar lafar a oedd yn ymwneud â'r
rhaglen bosib ar gyfer Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol. Yn gynwysedig yn
y trosolwg roedd y meysydd canlynol: ·
Lefel y ddarpariaeth bresennol o fewn DASA; ·
Sefydliad hanesyddol y 34 o gyfleusterau
addysgu arbenigol presennol (CAA) mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas; ·
Ar hyn o bryd mae CAAau
yn cael eu cynnal mewn ysgolion unigol ac maent yn darparu darpariaeth o safon
lle cânt eu gwerthfawrogi gan y bobl ifanc, y rhieni, yr ysgolion a'r awdurdod
lleol; ·
Mae'r ddarpariaeth bresennol a'r cyd-destun
hanesyddol yn golygu nad yw pob lleoliad yn addas, sy'n golygu bod yn rhaid i
rai disgyblion deithio i gyrraedd yr ysgol; ·
Yr effaith ar blant sy'n gorfod teithio i'r
ysgol a'r goblygiadau iddynt, fel diffyg gallu i gymryd rhan mewn
gweithgareddau ar ôl ysgol a meithrin cyfeillgarwch â ffrindiau o'r ysgol sy'n
byw mewn gwahanol gymunedau; ·
Newidiadau i anghenion a phroblemau plant
dros y blynyddoedd, fel y lleihad o ran yr angen am therapi lleferydd ac iaith
er enghraifft, wrth i'r galw am y gwasanaethau awtistiaeth ac ADHD gynyddu'n
sylweddol; ·
Yr angen i ddiwygio a diweddaru ein
darpariaeth a'n gwasanaethau yn unol â hyn; ·
Goblygiadau sylweddol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol
a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar y gwasanaeth a'r hyn a ddarperir gan yr adran; ·
Gwaith parhaus a datblygu rhaglen
trawsnewid sy'n seiliedig ar ein darpariaeth arbenigol a helpu ysgolion wrth
gynnal y ddarpariaeth bresennol mewn ysgolion; ·
Manylwyd ar elfennau ymgysylltu, mewnbwn
a chyfranogaeth asiantaethau partner fel y bwrdd iechyd a'r gwasanaethau
cymdeithasol yn y rhaglen trawsnewid. Rhoddodd Kelly Small hefyd gyflwyniad ar lafar a oedd yn ymwneud â'r
problemau o ran yr ysgolion cywir yn y mannau cywir. Amlinellodd y canlynol yn ystod ei chyflwyniad: ·
Y ddarpariaeth bresennol yn Abertawe o 77
ysgol gynradd, 14 ysgol gyfun a 2 ysgol arbennig; ·
Cyfradd genedigaethau yn gostwng yn DASA, ond
mae cynnydd o ran mewnfudo; ·
Dyletswydd i fonitro ein darpariaeth
bresennol ac adolygu'r lleoedd sydd ar gael; ·
Tuedd tuag at addysg cyfrwng Cymraeg; ·
Cyflwr y stoc adeiladau ar hyn o bryd a
gwaith cynnal a chadw a chyfalaf parhaus; ·
Moderneiddio ac adeiladu ysgolion newydd ac
effaith hyn ar ddysgu, newid o ran ysgolion cynradd cyflawn a chau ysgolion
llai; ·
Cynnydd o ran costau a darpariaeth cludiant
rhwng y cartref a'r ysgol; ·
ffocws Llywodraeth Cymru ar ysgolion
cymunedol; ·
Amcanestyniadau disgyblion a mewnbwn gan
staff iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol; ·
Dim digon o staff i gefnogi'r gwaith sy'n
cael ei wneud ar draws y ddinas. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau niferus a gwnaethant sylwadau ynglŷn â'r
wybodaeth a ddarparwyd yn y ddau gyflwyniad ac ymatebodd y Swyddogion, y
Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet yn briodol iddynt. Penderfynwyd y dylid adolygu'r ddau faes a amlinellwyd
uchod a'u trafod yn ystod y flwyddyn ddinesig gyfredol, a bydd y ddau bwnc yn
cael eu cynnwys ar agendâu cyfarfodydd bob yn ail. |
|
Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol. PDF 180 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyddiadau cyfarfodydd y dyfodol a ddarparwyd yn y pecyn agenda ac
awgrymodd fod cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn parhau i gael eu cynnal am
4pm. Penderfynwyd y dylid cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor y
dyfodol am 4pm. |