Agenda, penderfyniadau a cofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 122 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

36.

Cynllun Gweithredu Coridor Glannau'r Tawe. pdf eicon PDF 478 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Economaidd Strategol adroddiad dros dro am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Glannau Afon Tawe.

 

Nododd yr aelodau gyd-destun ardal Glannau Afon Tawe, Cais Ffyniant Bro Cwm Tawe 2023, yr Achos Economaidd ac Effaith y Cais Ffyniant Bro, rhaglen ehangach Gwaith Copr yr Hafod-Morfa a'r camau nesaf a'r ffordd ymlaen.

 

Roedd cwestiynu a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol:

 

1.      Pontynau a'r defnydd o dacsis afon.

2.      Hygyrchedd yr amgueddfa ar gyfer storio arteffactau.

3.      Datblygu'r llwybr beiciau/llwybr cerdded a defnyddiau masnachol posib eraill ar gyfer yr ardal.

4.     Datblygu defnyddiau preswyl dan y CDLl.

5     Cynnydd o ran yr Uwchgynllun.

6.     Adfer y Bont Wrthbwys.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Adfywio Economaidd Strategol am ei adroddiad llawn gwybodaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod o'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau yn y dyfodol er mwyn gwerthuso'r cwmpas ar gyfer prosiectau pellach ac adrodd yn ôl am gynnydd gyda phrosiectau Ffyniant Bro Cwm Tawe Isaf ac adfywio safleoedd allweddol.

 

37.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 2023-2024. pdf eicon PDF 162 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 2023-2024 'er gwybodaeth.'

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi canlyniadau ac allbynnau rhaglen waith y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd yn 2023/24.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei uno â'r adroddiadau blynyddol ar gyfer y 4 Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau eraill a'i gyflwyno i'r Cyngor maes o law.

 

38.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor bellach wedi gorffen ei gynllun gwaith ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024 a diolchodd i aelodau'r pwyllgor a swyddogion am eu cyfraniad.