Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 11 Ebrill a 16 Mai 2024 fel cofnod cywir.

6.

Cylch gorchwyl. pdf eicon PDF 85 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparwyd cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trawsnewid Gwasanaethau 'er gwybodaeth'.

7.

Trafodaethau Cynllun Gwaith.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Trafododd y pwyllgor bynciau arfaethedig ar gyfer Cynllun Gwaith 2024-2025. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n trafod yr opsiynau gydag Aelodau'r Cabinet ac yn adrodd ar y pynciau a ffefrir yn y cyfarfod nesaf sydd wedi'i amserlennu. Roedd y pynciau posib yn cynnwys y canlynol: -

 

·       Adolygu Strategaeth Bae Abertawe (gan gynnwys Maes Parcio'r Chwarel, y Mwmbwls).

·       Coridor Glannau'r Tawe – Y Camau Nesaf.

·       Ymrwymiad i fuddsoddi yn ein trefi a'n pentrefi.

·       Strategaeth Creu Lleoedd.

·       Y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

·       Adolygu'r Polisi Lleoedd Parcio i'r Anabl.

·       Gwestai yn Abertawe.

·        Gwella Toiledau Cyhoeddus.

·        Cyswllt Fferi Newydd Rhwng Abertawe a De Lloegr.

·       Parc Chwaraeon Bae Abertawe.

·       Cynllun Gwella St Helen's Road.

·       Canolfannau Gwaith Rhanbarthol (Mannau Gwaith a Rennir).

 

Cadarnhaodd Mark Wade, Cyfarwyddwr Lleoedd a Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas y byddai adroddiad ar y Strategaeth Creu Lleoedd yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

 

Penderfynwyd:   -

 

1) Trafododd y Cadeirydd y rhestr eitemau posib gyda'r Aelodau Cabinet perthnasol.

2)    Trafod y Strategaeth Creu Lleoedd yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

8.

Dyddiad ac Amser Cyfarfodydd y Dyfodol.

 

25 Gorffennaf 2024

12 Medi 2024

24 Hydref 2024

12 Rhagfyr 2024

16 Ionawr 2025

27 Chwefror2025

10 Ebrill 2025

 

 

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddyddiadau'r cyfarfodydd yn y dyfodol a ddarparwyd ar yr agenda.

 

Penderfynwyd y bydd pob cyfarfod 2024/25 yn y dyfodol yn cychwyn am 2pm.