Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd a gynhaliwyd ar 29 Chwefror 2024 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Gweithredu Coridor Glannau'r Tawe. PDF 478 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Economaidd Strategol adroddiad dros
dro am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Glannau Afon
Tawe. Nododd yr aelodau
gyd-destun ardal Glannau Afon Tawe, Cais Ffyniant Bro Cwm Tawe 2023, yr Achos
Economaidd ac Effaith y Cais Ffyniant Bro, rhaglen ehangach Gwaith Copr yr
Hafod-Morfa a'r camau nesaf a'r ffordd ymlaen. Roedd cwestiynu a
thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: 1. Pontynau a'r defnydd o dacsis afon. 2. Hygyrchedd yr amgueddfa ar gyfer storio arteffactau. 3. Datblygu'r llwybr beiciau/llwybr
cerdded a defnyddiau masnachol posib eraill ar gyfer yr ardal. 4. Datblygu defnyddiau preswyl dan y CDLl. 5 Cynnydd o ran yr Uwchgynllun. 6. Adfer y Bont Wrthbwys. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Adfywio Economaidd Strategol am ei adroddiad llawn
gwybodaeth. Penderfynwyd: 1. Cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod o'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau
yn y dyfodol er mwyn gwerthuso'r cwmpas ar gyfer prosiectau pellach ac adrodd
yn ôl am gynnydd gyda phrosiectau Ffyniant Bro Cwm Tawe Isaf ac adfywio
safleoedd allweddol. |
|
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 2023-2024. PDF 162 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Trawsnewid
Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd 2023-2024 'er gwybodaeth.' Roedd yr
adroddiad yn crynhoi canlyniadau ac allbynnau rhaglen waith y Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd yn 2023/24. Byddai'r
adroddiad yn cael ei uno â'r adroddiadau blynyddol ar gyfer y 4 Pwyllgor
Trawsnewid Gwasanaethau eraill a'i gyflwyno i'r Cyngor maes o law. |
|
Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor bellach wedi gorffen ei gynllun gwaith ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2023-2024 a diolchodd i aelodau'r pwyllgor a swyddogion am eu
cyfraniad. |