Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 14
Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd. PDF 187 KB Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd adroddiad a oedd yn nodi
swyddogaethau, safonau a gweithgareddau gweithredol y Grŵp Cynnal a Chadw
Priffyrdd mewn perthynas â'i waith ar gynnal a chadw isadeiledd ffyrdd. Nododd yr Aelodau
ased ffordd gerbydau'r priffyrdd, y gofynion statudol sy'n ymwneud â darparu'r
gwasanaeth, atgyweiriadau arferol, atgyweiriadau cynnal a chadw cynlluniedig,
draenio priffyrdd, rheoli asedau, heriau a chyfleoedd a risgiau yn y dyfodol. Roedd cwestiynau
a thrafodaethau'r Pwyllgor yn canolbwyntio ar y canlynol: · Blaenraglen Waith Priffyrdd · Atgyweiriadau
cynnal a chadw cynlluniedig (adweithiol ac ataliol, dulliau asesu a systemau sgorio,
deunyddiau ar gyfer dulliau atgyweirio, y rhaglen PATCH a'r gwahanol raglenni
trin ar gyfer pob ffordd benodol). · Draenio'r
briffordd. · Cynnal a chadw
troedffyrdd/llwybrau troed. · Grantiau
Llywodraeth Cymru a chyllid y Cyngor. · Cyllidebau
Cymunedol yr Aelodau. · Gweithio ar y
cyd rhwng Parciau a Phriffyrdd. · Heriau'r dyfodol
a ffyrdd newydd o weithio Diolchodd y
Cadeirydd i’r Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd, Pennaeth Priffyrdd
a Chludiant ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd am gymryd rhan
ac am fod yn bresennol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd mewn perthynas â chynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024. Nodwyd y pynciau
i'w trafod yn y cyfarfod dilynol: ·
29
Chwefror 2024 Rhaglen
Cyflwyno Rhagor o Dai. |