Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 2
Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. PDF 191 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu Economaidd Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol (CCELl) newydd ar gyfer Abertawe. Cyfeiriodd at y
diweddariad a ddarparwyd i'r Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd ar 20 Gorffennaf 2023 a dywedodd fod y cynllun wedi cael ei
gynhyrchu i nodi'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu ar gyfer adfywio
economaidd yn Abertawe. Mae'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol yn ategu at y
Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin,
Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe a bydd yn arwain rhoi'r
Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar waith mewn cyd-destun lleol. Nododd aelodau'r
fframwaith strategol a oedd yn nodi ein cenadaethau lleol a'n nodau a'n
amcanion strategol hyd at 2030 a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth at y gwaith a
wnaed wrth ddatblygu'r cynllun a rhoddodd ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r
gwaith. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu Economaidd am ddiweddariad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd wrth gynhyrchu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024. Nodwyd y pynciau
i'w trafod yn y cyfarfod dilynol: ·
18
Ionawr 2024 Cynnal a chadw'r isadeiledd ffyrdd |