Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac Isadeiledd a gynhaliwyd ar 21
Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. PDF 245 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo, gyda chymorth y Rheolwr Prosiect, adroddiad
diweddaru ar y sesiwn weithdy a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023, a oedd yn
archwilio cyfleoedd i ddatblygu Cyrtiau Tenis Langland
fel rhan o Gynllun Cyflawni Bae Abertawe. Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo drosolwg o'r
lleoliadau posib, a nodwyd dan 6 chyrchfan a gafodd eu hystyried yn ystod y
sesiynau gweithdy. Roedd yr
awgrymiadau a drafodwyd yn y gweithdy ar 4 Gorffennaf 2023 yn cynnwys y
canlynol: ·
Creu Cynllun Rheoli Cyrchfannau i ategu'r cyrchfannau. ·
Hyrwyddo twristiaeth drwy gydol y flwyddyn. ·
Rhaid i unrhyw ddatblygiad gynnwys cynllun teithio. ·
Gwneud yn fawr o lan y môr - mwy o westai, cyfleoedd
masnachol. ·
Creu cynnig er budd ymwelwyr a chymunedau lleol. ·
Creu mwy o gyfleusterau caffi a thoiledau ar hyd yr
arfordir a rhywle y gallwch brynu bwced a rhaw ar hyd y ffordd. ·
Blackpill - ystyried
cyfleoedd masnachol ar gyfer y promenâd, gwella'r lido,
canolfan i ymwelwyr. ·
Langland - cyfleoedd
masnachol i gynnwys; fflatiau moethus, toiledau, bwyty/bwytai a gwestai bwtîc er budd ymwelwyr ac i'w denu i'r ardal. ·
St Helen's - Pont y
Slip - caffi uchel ar y tywod. ·
Y Rec - gwasanaeth parcio
a theithio, parcio aml-lefel, fflatiau o werth uchel. Roedd yr awgrymiadau a drafodwyd yn y gweithdy ar 23
Hydref 2023 yn cynnwys y canlynol: ·
Archwiliwyd cyfleoedd datblygu ar gyfer Bae Langland. Roedd yn hollbwysig y byddai datblygiad hyfyw yn
cyflwyno cyfleoedd a buddion ar y cyfan i'r gymuned a'r cyhoedd, gan hyrwyddo
cyfleoedd masnachol ar yr un pryd. ·
Mireinio'r manylion ar gyfer Langland
a farchnatawyd gan B2P ar ran Cyngor Abertawe yn
ystod 2020. ·
Chwilio am gyfleoedd i'r gymuned ac ymwelwyr fel cyrchfan
fforddiadwy fel datblygiad defnydd cymysg. ·
Lleoliad aros a bwyta dibreswyl - fflatiau moethus,
gwesty a bwyty. ·
Gweithgareddau hamdden. ·
Manwerthu. ·
Cyfleusterau cyhoeddus a chyfleusterau newid newydd. ·
Ymgorffori gwaith cynnal a chadw cynlluniedig ac ataliol. ·
Cabannau glan môr (llogi dyddiol/wythnosol). ·
Datblygiad lefel isel. ·
Lesddaliad 125 o
flynyddoedd. ·
Ceisio cynigion cyfalaf a refeniw gan bob
parti â diddordeb gyda'r bwriad o wneud y mwyaf o enillion ariannol. ·
Refeniw yn gysylltiedig â chanran y trosiant gyda
chynnydd graddol ar ôl cyfnod diffiniedig. ·
Pwyslais ar arbedion costau a meintioli budd. Cyfeiriodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth at y safleoedd
eraill yn ardal Bae Abertawe a fyddai'n elwa o gael eu harchwilio. Dywedodd Pennaeth
y Gwasanaethau Eiddo y byddai angen cyllid ac adnoddau ar y safleoedd yn ardal
Bae Abertawe, oni bai fod trydydd parti yn dod ymlaen. Roedd Blackpill, yn benodol, yn safle a all fod angen ymgysylltu
ag ymgynghorwyr. Cafwyd trafodaeth
a gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am eu hadroddiad llawn gwybodaeth. Penderfynwyd: 1)
Drafftio briff datblygu diwygiedig yn unol â
chanfyddiadau gweithdai diweddar fel y disgrifir yn eitem 2 yr adroddiad. 2)
Bydd y Pwyllgor yn cefnogi noddi Aelodau Cabinet dros
Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth a Gwasanaethau Corfforaethol a
Pherfformiad i ddatblygu a chytuno ar gynllun cyflawni hyfyw ar gyfer Cyrtiau
Tenis Bae Langland fel blaenoriaeth dan Strategaeth
Bae Abertawe. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau'r Economi ac
Isadeiledd 'er gwybodaeth' ar gyfer 2023-2024. Nodwyd y pynciau i'w
trafod yn y cyfarfod dilynol: ·
14
Rhagfyr 2023 Fframwaith Strategol y Cynllun
Cyflawni Economaidd Lleol Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adolygiad o
Bolisi Dyrannu Tai'r cyngor a oedd wedi’i ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol. Daeth y cyfarfod
i ben am 2.21pm |